Does dim byd tebyg i stori dda i roi busnes ar y map a sicrhau bod y cyhoedd yn siarad amdanoch chi.

Bydd menter newydd gan Menter Moch Cymru, “Trotian ar draws Cymru”, yn cynorthwyo cynhyrchwyr moch i hyrwyddo ei busnes. Os ydych chi’n fusnes cychwynnol neu’n fusnes sefydledig cysylltwch â ni heddiw, gall pob un ohonom gael budd o ychydig o PR cadarnhaol.  

Bydd stori dda yn hyrwyddo eich busnes a hefyd yn helpu i adeiladu eich cwmni a gobeithio yn cynyddu eich nifer o gwsmeriaid.

Dywedodd Lowri Rees Roberts, Swyddog Marchnata a Chefnogi Menter Moch Cymru: “Mae pawb angen help llaw i hyrwyddo eu busnes a bydd y fenter hon yw helpu pob un ohonoch i gael eich straeon cadarnhaol allan yn y wasg leol.” 

“Rwyf wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau dros y blynyddoedd ac wedi sicrhau eu straeon positif yn y wasg. Gobeithio bydd hwn yn gyfle i fi weithio gyda nifer o gynhyrchwyr moch yn y dyfodol agos,” ychwanegodd Lowri.

Bydd Menter Moch Cymru yn helpu cynhyrchwyr yng Nghymru i greu eu straeon unigryw eu hunain a gobeithio rhoi sylw mewn cylchgronau, papurau newydd ac ar-lein.

Mae’r fenter ‘Trotian ar draws Cymru’ yn gobeithio gweithio gyda chynhyrchwyr moch o bob un o’r 22 sir yng Nghymru, felly byddwch y cyntaf i fynegi eich diddordeb heddiw.

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.