Kyle and Lauren, award winning pork producers from Abergavenny

Newyddion da i ffermwyr moch yng Nghymru wrth i brisiau moch yn y wlad gynyddu’n gyson ac mae’r duedd i fod i barhau gan fod y farchnad fyd-eang a domestig yn edrych yn gryf.

Yn adolygiad canol blwyddyn eleni - Y Rhagolygon ar gyfer y Sector foch, dywedodd Mick Sloyan, Dadansoddwr Diwydiant Moch ei bod yn ymddangos bod y gwaethaf drosodd a bod 'na obaith am well amodau’r farchnad, gwell prisiau a gostyngiadau posib mewn costau mewnbwn i’w groesawu.

“Y newyddion da yw bod prisiau moch yn y wlad wedi bod yn cynyddu’n gyson yn ystod y gwanwyn a’r haf cynnar.  Yn bendant mae hyn o ganlyniad i sefyllfa'r farchnad yn yr Undeb Ewropeaidd sydd yn codi, ac sydd dal i gyflenwi hanner y porc a chynhyrchion porc sydd yn cael eu bwyta yn y Deyrnas Unedig."

“Mae Porc Prydain wedi llwyddo i gynnal pris premiwm er ei fod yn is na’r llynedd.  Serch hynny mae’n dal i fod o gwmpas 10c-15c/kg,” ychwanegodd.

Mae Cynhyrchwyr moch ar draws y Deyrnas Unedig wedi wynebu flwyddyn galed gydag effeithiau'r pandemig Covid 19 ond er hynny maen nhw wedi goresgyn a mynd i’r afael a nifer o heriau gyda phrisiau moch yn gostwng a chostau bwyd anifeiliaid yn codi yn ogystal â rhai ffermwyr yn profi ôl-groniadau o foch ar y fferm ar ddechrau’r flwyddyn. 

Fodd bynnag, dywedodd, Mick Sloyan bod effaith y Covid 19 ar y farchnad borc yng Nghymru wedi bod yn bositif ar y cyfan gyda defnyddwyr wedi cynyddu pryniant fel man werthwr er mwyn  cymryd lle gwasanaeth fwyd.  Mae hyn wedi cynorthwyo'r cynnydd a’r galw am borc a chynnyrch borc sydd wedi ei gynhyrchu lleol yn hytrach na mewnforio cig o wledydd eraill, sydd yn draddodiadol wedi dominyddu’r farchnad fwyd.

“Mae ymchwil defnyddwyr yn dangos y gallai cymdeithasu gartref aros yn boblogaidd hyd yn oed wrth i normalrwydd ddychwelyd, gall hyn fod o fudd i werthiannau manwerthu a bwyd a gynhyrchir yn lleol." 

Mae Kyle Holford, o fferm Forest Coalpit, Y Fenni, perchennog busnes moch ffyniannus sydd yn gwerthu porc maes sydd wedi ennill gwobrau yn nodi bod eu busnes porc yn parhau i ffynnu a theimlai fod y duedd gadarnhaol o ddefnyddwyr yn prynu cig lleol yma i aros. 

Arferai Kyle weithio fel technegydd sain yn Llundain cyn iddo a’i bartner Lauren symud o Lundain I’r Fenni yn 2014 gyda’r nod o wneud bywoliaeth ar y tir. Er nad oedd ganddynt brofiad amaethyddol blaenorol, maen nhw bellach yn rhedeg menter ffyniannus sy’n gwerthu porc maes i’w cwsmeriaid

Mae eu cenfaint o 25 o hychod Duon yn geni perchyll ac yn cael eu pesgi yn yr awyr agored mewn coetir ac ar y borfa, sy’n eu galluogi i fforio, tyrchu a mynegi eu hymddygiadau naturiol. Mae Kyle yn credu bod hyn yn ychwanegu at eu pwynt gwerthu unigol ac yn ychwanegu at flas y cig. 

Yn 2017, agorwyd uned dorri cig ar eu safle, gan eu galluogi i brosesu eu cig eu hunain sydd wedyn yn cael ei werthu’n uniongyrchol i gigyddion lleol, bwytai a’r cyhoedd. Mae eu cwsmeriaid hefyd yn cynnwys cogyddion enwog a chigyddion yn Llundain. 

Yn ystod y pandemig Covid-19, fe wnaethon nhw gynyddu eu gwerthiannau drwy werthu blychau cig yn cynnwys golwythion, selsig a bacwn yn uniongyrchol i’r cyhoedd.

Ychwanegodd Kyle: “Mae yna ymdeimlad o bositifrwydd, ar hyn o bryd mi rydym wedi cadw cwsmeriaid a chysylltiadau newydd a enillwyd yn ystod y cyfnod clo a dwi’n teimlo ein bod wedi dysgu ambell i wers, ond wrth edrych i’r dyfodol mae 'na bositifrwydd.”

Mae adborth gan y sector yng Nghymru yn awgrymu bag cymysg am hanner cyntaf y flwyddy eleni, gyda llawer o gynhyrchwyr sy'n cyflenwi eu marchnadoedd lleol, yn aml gyda buchesi bach i ganolig am wneud yn dda o ganlyniad i amodau bywiog y farchnad leol. 

Er gwaethaf costau porthiant a gwellt uchel, adroddir bod rhai busnesau mewn sefyllfa dda er iddynt wynebu chwe mis cyntaf eithaf heriol i’r flwyddyn, ychwanegodd Mick Sloyan.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Mae’r adolygiad Canol Blwyddyn wedi bod yn eithaf cadarnhaol o ystyried yr holl heriau yr aeth cynhyrchwyr moch i’r afael â nhw. Croesewir yr adroddiad ac mae'r gobaith o wella amodau'r farchnad, prisiau a gostyngiadau posibl mewn costau mewnbwn yn obaith yr ydym i gyd yn ei groesawu."

"Mae'r Menter Moch Cymru yma i helpu pob cynhyrchydd moch, cysylltwch â thîm Menter Moch Cymru i ddarganfod sut i fanteisio ar y gefnogaeth a'r cymorth sydd ar gael i geidwaid moch yng Nghymru. Gall hynny fod yn mynychu'r sesiynau hyfforddiant am ddim dan arweiniad arbenigwyr. Derbyn adnoddau neu dderbyn cyllid tuag at farchnata a hyrwyddo neu wella iechyd eich buchesi. 

Ewch i www.mentermochcymru.co.uk neu siaradwch ag aelod o'r tîm i gael mwy o wybodaeth.

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.