Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 05 Gorffennaf 2021 ac yn cau ar 20 Awst 2021.
Y gyllideb ddangosol a ddyrannwyd ar gyfer y cyfnod ymgeiso hwn yw £2m
Mae'r RBIS (Anamaethyddol) yn cyfrannu at gostau buddsoddi cyfalaf ac yn cefnogi
prosiectau yng Nghymru sy'n cyfrannu at un neu ragor o’r canlynol:
- arallgyfeirio’r economi wledig,
- datblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynnyrch naturiol,
- gwneud busnesau gwledig yn fwy cynhyrchiol, effeithiol a chystadleuol.
Mae'r cynllun yn cael helpu cwmnïau anamaethyddol micro a bach, hen a newydd
ledled Cymru, gan gynnwys ffermwyr neu aelodau aelwydydd fferm sy’n arallgyfeirio i
weithgareddau anamaethyddol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos bod marchnad hyfyw i'w cynnyrch ac na fyddai'r
prosiect yn gallu mynd rhagddo heb y grant. Cynllun ar sail disgresiwn yw hwn.
Byddai swm y grant a gynigir yn dibynnu ar amgylchiadau unigol, a byddai bob amser
y swm lleiaf y byddai ei angen i'r buddsoddiad allu mynd rhagddo.
Cyfradd uchaf y grant a gynigir i unrhyw brosiect buddsoddi unigol fydd 40% o
gyfanswm y costau cymwys.
Trothwy uchaf y grant ar gyfer pob cais newydd gan unrhyw brosiect buddsoddi unigol
yw £50,000 a’r trothwy isaf yw £5,000.