Increase in number of performance-recorded rams sold

Ar drothwy’r tymor arwerthiannau hyrddod, mae’r sector ddefaid mynydd wedi gweld cynnydd yn y nifer o hyrddod mynydd â chofnodion sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru, sy’n dangos ymrwymiad cynyddol gan ffermwyr i ddefnyddio technoleg ac arfer gorau i ddatblygu'r diadelloedd cynhyrchiol. 

Daw’r cynnydd o ganlyniad i’r Cynllun Hyrddod Mynydd, prosiect sy'n cyflwyno'r dechnoleg eneteg ddiweddaraf i ddiadelloedd yr ucheldir yng Nghymru. Gwelwyd cynnydd o 53% yn nifer yr hyrddod mynydd â chofnodion perfformiad a werthwyd yn 2020 mewn cymhariaeth â 2019 wrth i ddiadelloedd Cymru fedi’r buddion o hyrddod â chofnodion perfformiad. Wrth i nifer gynyddol o ddiadelloedd ddod yn rhan o'r Cynllun, mae'n debygol y bydd y cynnydd hwn yn parhau eleni.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd, dan arweiniad Hybu Cig Cymru (HCC), yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, sef menter bum-mlynedd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i wella’r sector cig coch yng Nghymru.

Mae'r ffermwyr sy'n rhan o'r Cynllun yn defnyddio technoleg DNA i gofnodi perfformiad eu diadelloedd er mwyn gwella geneteg y ddiadell ar gyfer nodweddion cynhyrchu heb wneud newidiadau sylfaenol i'w system.

Ers i'r Cynllun gael ei lansio yn 2018, cafodd 42,000 o samplau DNA eu dadansoddi o ddiadelloedd mynydd ledled Cymru. Erbyn hyn mae 54 o ddiadelloedd yn cofnodi perfformiad 7 math o frid mynydd gwahanol ar draws Cymru.

Dywedodd Dr. Heather McCalman, sy'n gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd: “Wrth i dechnoleg, a'n dealltwriaeth o eneteg defaid ddatblygu ac esblygu, mae'n bosibl defnyddio gwybodaeth eneteg i wella perfformiad diadelloedd mynydd, gan ategu gwaith cenedlaethau o ffermwyr i ddatblygu anifeiliaid sy’n gallu goroesi yn eu hamgylchedd.”

Trwy gyfrwng cofnodion perfformiad a defnyddio Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau), mae modd cael gwelliant geneteg gadarn a chyflymach.  Mae hefyd yn ffordd ddibynadwy, gost-effeithiol a hirdymor o fagu anifeiliaid mwy effeithlon.  

Ychwanegodd Dr. McCalman: “Mae'r cynnydd yn dangos fod mwy a mwy o ffermwyr defaid yn cymryd diddordeb yng ngeneteg cynhyrchiant eu diadelloedd, ac mae'r cynnydd yng ngwerthiant yr hyrddod â chofnodion perfformiad yn 2020 yn arddangos hyn. Mae hefyd yn dangos fod galw cynyddol am anifeiliaid magu â chofnodion perfformiad sydd â rhinweddau geneteg hysbys."

“Mae HCC wedi creu llyfryn i gynorthwyo ffermwyr sydd am brynu hyrddod â chofnodion perfformiad neu'r bridwyr hynny sy'n dymuno cadw anifeiliaid magu yn eu diadelloedd.  Mae'r llyfryn yn cynnig trosolwg o EBVau a mynegrifau er mwyn dangos y ffordd orau o'u defnyddio ochr yn ochr â'r nodweddion gweithredol pwysig.  Mae'n dangos y manteision o ddewis hyrddod trwy ddefnyddio EBVau ar ffermydd masnachol ac yn cynnig canllawiau ynghylch gosod nodau bridio i'w defnyddio wrth ddewis hyrddod.”

Mae rhifyn diweddaraf y Llawlyfr Prynu Hwrdd HCC ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan: https://meatpromotion.wales/en/industry-projects/red-meat-development-programme/rmdp-publications/hill-ram-scheme-publications 

Mae Cynllun Hyrddod Mynydd HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.