Survey

Rydyn ni’n gofyn i dirfeddianwyr a ffermwyr yng Nghymru a chanddynt dir sy’n dilyn neu sy’n agos at Lwybr Arfordir Cymru, gwblhau'r arolwg byr ‘aml ddewis’ hwn sy’n cynnwys 20 o gwestiynau. Dylai gymryd tua 15 munud o'ch amser. Os gallwch gymryd rhan, fyddai’n bosibl i chi wneud hynny erbyn: Dydd Gwener, 15 Hydref 2021

Cliciwch yma i ddechrau’r arolwg: https://forms.office.com/r/fD9iWg46PL

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Gwynedd, wedi lansio prosiect 'Ein Llwybrau Byw' / ‘Our Living Trails’ yn ddiweddar a’i nod hirdymor yw hyrwyddo ac adfer bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru. Mae Binnies wedi cael eu contractio gan CNC i gynnal y prosiect 9 mis hwn sydd hefyd yn ceisio hyrwyddo mwy o gysylltiad rhwng pobl a natur, fel bod mwy o bobl yn deall pwysigrwydd amgylchedd naturiol iach, a'r manteision y mae'n eu cynnig i ni.

Mae tir ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru, sy’n 870 milltir o hyd, yn cynnwys tir fferm, cefn gwlad agored, clogwyni, dolydd, traethau ac amgylcheddau trefol. Mae'r tir yn rhoi cyfle pwysig i fynd i'r afael â heriau colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd a 'gwasgfa' arfordirol, gan hyrwyddo cymdeithas iach a gwydn yr un pryd. Bydd y prosiect yn gweithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, gan y byddant yn rhan hanfodol o’r prosiect. Bydd yn ymchwilio i 'arferion gorau' ac yn argymell dull o fynd i’r afael o ddifrif â’r broses o gyflwyno prosiectau gwella bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru, a llwybrau a hawliau tramwy cenedlaethol eraill yng Nghymru o bosib, yn y blynyddoedd i ddod. 

Bydd pob barn a safbwynt fyddwn yn ei dderbyn fel rhan o’r arolwg hwn yn cael eu crynhoi i gyfarwyddo argymhellion y prosiect. Byddant hefyd yn cael eu coladu a’u crynhoi i gyfarwyddo Gweithdy Rhanddeiliaid ym mis Tachwedd 2021. Mae’r holl ymatebion yn ddienw. Gofynnir ichi ddarparu eich cyfeiriad e-bost os hoffech dderbyn copi o gylchlythyr nesaf y prosiect a fydd yn cynnwys crynodeb o ganfyddiadau’r arolwg.

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect drwy wylio'r fideo yma: Gwylio'r fideo (Saesneg yn unig)