Veterinary surgeon Robert Smith of Iechyd Da (left) with farmer Peter Jones from Parc-Gwyn, Llanvapley, Monmouthshire

Heddiw (5/10/2021), bydd prosiect newydd yn cael ei lansio a gynlluniwyd i helpu i oresgyn ymwrthedd gwrthficrobaidd ymhlith anifeiliaid a'r amgylchedd yng Nghymru.

Mae Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol) Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrech i atal lledaeniad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).

Dosbarthir Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn her “Un Iechyd” byd-eang a cheir galwadau am weithredu amlsectoraidd ar fyrder.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio AMR fel problem “lle y byddwn yn gweld oes ôl-gwrthfiotigau os na weithredir ar fyrder, lle y bydd heintiau cyffredin a mân anafiadau yn gallu lladd unwaith eto.”

Mae Arwain DGC yn cynnwys amserlen o weithgareddau a bydd yn dwyn ynghyd cydweithwyr profiadol i ddarparu rhaglen eang a fydd yn rhoi sylw i AMR ymhlith anifeiliaid a'r amgylchedd.  Bydd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o fyd amaeth yng Nghymru (Menter a Busnes, Welsh Lamb and Beef Producers Ltd a Welsh Agricultural Organisation Society), sefydliadau academaidd (Prifysgol Bryste ac Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth) a phartneriaid darparu milfeddygol (Iechyd Da a Milfeddygon Gogledd Cymru).

Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn agos â chynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd:  Cynllun Gweithredu (2019 – 2024), ac mae wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Mae Arwain DGC yn datblygu gwaith arloesol prosiect cynharach - Arwain Vet Cymru (AVC) – a oedd yn canolbwyntio ar wella gweithgarwch presgripsiynu gwrthfiotigau ar gyfer gwartheg a defaid trwy gyfrwng rhwydwaith o Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol ar draws Cymru gyfan. O ganlyniad, mae gwaith AVC wedi datblygu i fod yn lasbrint ar gyfer cynlluniau tebyg ar draws y DU ac ar draws y byd.

Arweinir prosiect cyffredinol Arwain DGC gan gwmni Menter a Busnes (MaB), ac mae pob partner yn gyfrifol am elfennau* arbenigol o'i darpariaeth.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid MaB, Dewi Hughes, “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid wrth dreialu a datblygu technegau newydd er mwyn rheoli'r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd er mwyn helpu i ddiogelu eu defnydd yn y dyfodol ar gyfer anifeiliaid a phobl.”

Dywedodd Don Thomas o Welsh Lamb and Beef Producers Ltd (WLBP) bod y sefydliad yn awyddus i gyflawni rôl yn y prosiect pwysig hwn.

Bydd WLBP yn cymryd rhan trwy “ddatblygu offerynnau digidol ymhellach er mwyn casglu, storio, rheoli a dadansoddi data allweddol ynghylch defnyddio gwrthfiotigau (ac yn arbennig ar gyfer y gwrthfiotigau hollbwysig) o'n 7,000+ o aelodau yng Nghymru sy'n ffermwyr.

"Credwn yn gryf y bydd rheoli a chyflenwi'r data hwn yn cynnig cyfle marchnata pwysig yn y dyfodol i'n haelodau sy'n ffermwyr.”

Veterinary surgeon Robert Smith of Iechyd Da (left) with farmer Peter Jones from Parc-Gwyn, Llanvapley, Monmouthshire

Gan groesawu lansiad Arwain DGC, dywedodd Robert Smith o Iechyd Da bod y prosiect yn ffordd naturiol o barhau ac ehangu'r rhaglen AVC wreiddiol.

"Mae prosiectau Iechyd Da yn y cynllun yn cynnwys datblygu ap bioddiogelwch ar gyfer milfeddygon a chasglu data goruchwylio syndromig gan bractisau sy'n aelodau yng Nghymru, trwy gydweithio gyda Chanolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru. 

"Yn ogystal, bydd practisau sy'n aelodau yn cymryd rhan weithredol yn natblygiad pellach Rhwydwaith yr Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol, gan gynorthwyo wrth gasglu samplau ar y fferm er mwyn deall y berthynas rhwng AMR a defnydd gwrthficrobaidd ar ffermydd yng Nghymru.”

Bydd Dr Gwen Rees o Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ac enillydd Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon am ei harweinyddiaeth o Rwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol AVC, yn datblygu'r gwaith hwn ymhellach, gan lunio canllawiau presgripsiynu cenedlaethol ar gyfer gwartheg a defaid, datblygu cod ymddygiad gwirfoddol ar gyfer presgripsiynu gwrthficrobaidd a deall patrymau gwrthficrobaidd yn y diwydiant ceffylau.

Dywedodd, “Rydw i wrth fy modd fy mod yn cael y cyfle i barhau a datblygu gwaith pwysig AVC a'n rhwydwaith penodedig o Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol ar draws Cymru.  Rydym wedi llwyddo i sicrhau cynnydd enfawr eisoes wrth wella gweithgarwch presgripsiynu gwrthfiotigau ymhlith anifeiliaid fferm yng Nghymru, ac mae'n gyffrous gallu symud hwn i'r lefel nesaf.”

Mae Athro Kristen Reyher ac Athro Matthew Avison a'u timau, sy'n rhan o AMR Bryste ym Mhrifysgol Bryste, yn datblygu eu harweinyddiaeth fyd-eang ynghylch deall y cysylltiadau rhwng defnydd gwrthficrobaidd ac AMR ar ffermydd a chynllunio rhaglen oruchwylio weithredol i Gymru.

“Mae Prifysgol Bryste wrth ei bodd o fod yn cymryd rhan yn y gwaith pwysig hwn yng Nghymru, gan rannu gwybodaeth o raglenni gwaith eraill yr ydym wedi eu harwain yn Lloegr, Gwlad Thai a'r Ariannin,” dywedodd Athro Reyher.  “Cynlluniwyd y rhaglen AVC ym Mryste yn dilyn prosiect peilot a gychwynnwyd gan Iechyd Da ac rydym yn falch o allu ymestyn ei effaith trwy ymchwilio ymhellach i ficrobioleg ac epidemioleg AMR ar ffermydd yng Nghymru gyda thîm gwych o arweinwyr ar draws byd amaeth yng Nghymru.”

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Rydw i'n hynod o falch o'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gallu noddi darn o waith mor gyffrous ac arloesol.

“Bydd hyn yn rhoi Cymru ar y blaen gyda'r dasg o roi sylw i fygythiad ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR).  Mae'r prosiect yn cynnwys nifer o ymyriadau a gaiff eu peilota yma yng Nghymru, a nifer ohonynt am y tro cyntaf.  Mae rheoli clefydau heintus, a'r defnydd cyfrifol o wrthfiotigau a ddefnyddir i'w trin, yn nwylo ceidwaid anifeiliaid a'u milfeddygon, ac mae angen ymdrech ar y cyd arnom i wneud newidiadau parhaus er mwyn cadw ein hanifeiliaid yn iach.  Bydd hyn yn lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffordd briodol pan fydd gwir angen eu defnyddio."

Mae'r gwaith hwn yn datblygu ac yn cyfrannu at gyflawni ein Cynllun Gweithredu AMR Anifeiliaid a'r Amgylchedd.

“Bydd y gwersi y byddwn yn eu dysgu yn siapio ein dull gweithredu tuag at roi sylw i AMR, gan helpu i ddiogelu iechyd a lles ein cenedlaethau yn y dyfodol”
 

Veterinary surgeon Eleri Davies (right) of Farm First Vets with farmer Cath Godfrey from The Artha Farm, Tregare, Mounmouthshire.