Rams

Mae ffermwyr sy’n rhan o gynllun genetig mynydd Cymreig wedi elwa o ddefnyddio mynegai bridio mynydd Cymreig i ddewis hyrddod a mamogiaid amnewid.

Gyda dros 50 o ddiadelloedd yn cymryd rhan, mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru drwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio ddiweddaraf a chofnodi perfformiad gyda’r nod o gryfhau’r sector defaid trwy welliant genetig tymor hir.

Arweinir y Cynllun Hyrddod Mynydd gan Hybu Cig Cymru (HCC) ac y mae’n un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch - menter 5 mlynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.

Un ffarmwr sydd wedi bod yn cofnodi perfformiad ei ddiadell Gymraeg am yr ugain mlynedd diwethaf yw Garry Williams sy’n amaethu ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog ym Mlaencennen, Gwynfe.

Mae gan Mr Williams tua 700 o famogiaid ar ei fferm fynydd, sy’n cynnwys defaid mynydd Cymraeg wedi’i gwella, defaid croesfrid sydd wedi’u magu gartref a diadell fagu o famogiaid cyfansawdd. Mae’r mamogiaid mynydd Cymraeg yn proi tir comin y Mynydd Du.

Drwy ddewis hwrdd yn ofalus ac adnabod a chadw’r mamogiaid sy’n perfformio orau, mae Mr Williams wedi gweld cynnydd o 2.5kg ym mhwysau cyfartalog y carcas ac y mae’n nodi bod tri chwarter o’r ŵyn hyrddod Cymraeg dros 43kg pwysau byw neu’n fwy pan yn eu gwerthu.

Wrth drafod y buddion, dywed Mr Williams, “Rhaid i fi gael mamog effeithlon sy’n gweddu i’r system yma. Mae cofnodi perfformiad yn offer sy’n fy ngalluogi i edrych ar y wyddoniaeth tu ôl i’r cynhyrchiant.

“Rydw i bob amser yn ymdrechu i gynyddu’r gallu mamol a’r cynnyrch terfynol. Rydw i wedi gweld cynnydd mewn perfformiad a chynhyrchiant.”

Ychwanegodd Mr Williams, “Wrth ddewis ŵyn benyw amnewid, rwy’n tynnu’r ŵyn o draean isaf y ddiadell yn ôl y mynegai yn syth. Rwy’n edrych wedyn ar fath, strwythur ac addasrwydd yr ŵyn sydd yn weddill ar gyfer bridio.

“Pan mae’n amser i’r mamogiaid gael hwrdd, y 50% uchaf o ran mynegai yn unig sy’n cael eu magu’n bur, bydd y gweddill yn derbyn hwrdd cyfansawdd i fagu ŵyn benyw sy’n addas ar gyfer magu ac ar gyfer ŵyn dethol sy’n gael ei gwerthu yn 45kg pwysau byw.

“Pan yn prynu hyrddod ar gyfer y fferm, rwy’n edrych ar gofnodion perfformiad ac yn dewis hwrdd â mynegai positif ar gyfer braster, cyhyr a gallu mamol ac yn blaenoriaethu’r Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVau) hynny.”

Esboniodd Sean Jeffreys, Swyddog Prosiect HCC sy’n gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd, “Roedd Mr Williams yn un o’r diadelloedd gwreiddiol hynny a wnaeth cyflwyno’r eneteg i weddill diadelloedd y Cynllun Hyrddod Mynydd ac mae wedi rhannu ei wybodaeth a’u brofiad gyda’r rheiny sydd wedi dechrau cofnodi perfformiad yn ddiweddar drwy’r Cynllun.

“Mae’r gwelliannau a welir drwy ddewis defaid â mynegai uchel yn glir ym Mlaencennen a thra bod gwelliant genetig yn broses hir dymor disgwylir y bydd y ffermydd eraill ar y Cynllun yn dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol yn y blynyddoedd nesaf. 

“Mae'r gwahaniaeth ym mhwysau’r ŵyn a llai o ddiwrnodau i'w lladd wedi profi bod defnyddio stoc â chofnodion perfformiad a defnyddio mynegai bridio i helpu i wneud penderfyniadau rheoli a phrynu wedi buddio’r system ddefaid ym Mlaencennen. Tra bod y buddion hyn yn cefnogi cynhyrchiant y fferm mae ganddynt hefyd arwyddocâd cadarnhaol o ran gostwng allyriadau a chynyddu cynaliadwyedd.”

Ceir cyngor a mwy o wybodaeth ar ddewis mamogiaid amnewid mewn taflen wybodaeth a datblygwyd gan y Cynllun Hyrddod Mynydd.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.