Calves

Mae gŵr a gwraig o Bowys wedi gwella perfformiad y lloi drwy gydweithio’n agos â’i milfeddyg yn rhan o brosiect iechyd anifeiliaid rhagweithiol.

Mae Stoc+ yn brosiect sy’n gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon yng Nghymru i hyrwyddo rheolaeth praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Arweinir y prosiect gan Hybu Cig Cymru (HCC) ac mae’n un rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch – prosiect pum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Fferm ucheldir yn Sarn, Y Drenewydd yw Old Hall sy’n cael ei redeg gan Tom a Danielle Hill. Defaid a gwartheg eidion yw’r prif fusnes ffermio ac, yn rhan o brosiect Stoc+, mae’r pâr wedi bod yn gweithio’n agos gydag Oli Hodgkinson ym Milfeddygfa Trefaldwyn i adnabod blaenoriaethau ac argymhellion fydd yn gwella iechyd praidd a buches y fferm.

Nodwyd bod lleihau nifer yr achosion o niwmonia mewn lloi ifanc sy'n cael eu prynu i mewn yn flaenoriaeth allweddol ar y fferm. Mae’r pâr wedi bod yn gweithio gyda Oli i wella iechyd a chyfradd tyfu’r lloi drwy wneud newidiadau bach i reolaeth y lloi ac i gartrefi’r gwartheg.

Esboniodd Oli, “Unwaith i ni weld bod niwmonia’n broblem, roedd modd i ni weithredu i wella iechyd a pherfformiad y lloi. Rhoddwyd siacedi i’r lloi a a chawsant eu brechu wrth gyrraedd yn erbyn niwmonia sy’n gwella ymateb imiwnedd y lloi ac yn atal afiechyd.

“Roedd sicrhau bod y lloi yn cael eu cartrefu mewn amodau priodol hefyd yn allweddol i wella eu perfformiad ac i leihau’r nifer o achosion o niwmonia. Yn Old Hall, yn dilyn y defnydd o fom mwg i wirio awyru’r sied, mae’r lloi yn awr mewn llociau a grwpiau llai gyda byrddau stoc ar y gatiau er mwyn lleihau’r drafft yn y sied ac i wella’r ‘ardal nythu’.”

Ychwanegodd Tom, “Mae bod yn rhan o Stoc+ wedi ein hannog i weithio’n agosach fyth at Oli i wella perfformiad ac iechyd y lloi ar y fferm ac i leihau’r risg o niwmonia. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith mai rhan o’r ateb yn unig yw brechu a bod addasu’r siediau a’r awyru sydd gyda ni’n barod yn gwella iechyd a pherfformiad.

Ceir rhagor o wybodaeth ar gartrefu gwartheg a gwirio adeiladau i sicrhau bod y gwartheg yn iach yma.

Mae Stoc+ gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.