Dr. Phil Scott

Mae prosiect iechyd praidd a buches yng Nghymru wedi cefnogi hyfforddiant i filfeddygon er mwyn lleihau’r trosglwyddiad o afiechyd sy’n gallu effeithio ar ysgyfaint defaid ac effeithio cynhyrchiant.

Arweiniodd yr arbenigwr milfeddygol blaenllaw, Dr Phil Scott, ddau gwrs ymarferol ar gyfer milfeddygon wythnos ddiwethaf oedd yn canolbwyntio ar sganio mamogiaid am Adenocarsinoma Pwlmonaidd y ddafad (OPA) trwy ddiagnosis ultrasonic a gynhaliwyd yng Nghanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC) yn Aberystwyth.

Mae Stoc+ yn brosiect sy’n gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon yng Nghymru i hyrwyddo rheolaeth praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.

Arweinir y prosiect gan Hybu Cig Cymru (HCC) ac mae’n un rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch – prosiect pum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Mae OPA yn afiechyd heintus ac angheuol sy’n cael ei achosi gan firws sy’n effeithio’r ysgyfaint ac yn cael ei drosglwyddo rhwng mamogiaid drwy cyswllt trwyn-i-drwyn. Dim ond drwy archwiliad post mortem y gellir gwneud diagnosis; fodd bynnag mae sganio uwchsain rheolaidd wedi bod yn ddefnyddiol i ganfod defaid â’r afiechyd. 

Er mwyn cael gwared ar yr afiechyd yn llawn o’r ddiadell, cynghorir yn gryf bod diadelloedd yn cael eu sganio'n rheolaidd, a bydd milfeddygon yn gallu defnyddio eu sgiliau diagnostig uwchsain newydd ac wedi’i ddiweddaru ar ddiadelloedd lleol fel rhan o raglen reoli OPA.

Dywedodd Dr Phil Scott, “Roeddwn wrth fy modd gyda chynnydd y cyrsiau a brwdfrydedd ac arbenigedd cynrychiolwyr o HCC, WVSC a phractisau milfeddygol lleol ac edrychaf ymlaen at barhau â’r cydweithio hwn.”

Dywedodd Iwan Lewis, milfeddyg gyda Milfeddygfa Ystwyth, a fynychodd y cwrs gloywi, “Mae OPA yn rhywbeth rydw i wedi'i weld mewn ychydig o heidiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ond mae wedi dod yn fwy cyffredin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ffactor cyfyngu cynhyrchiad OPA yw’r rheswm pam ei bod yn bwysig ymchwilio iddo a pham y bu’n fuddiol i mi gymryd rhan yn y cwrs gloywi hwn gyda Dr Phil Scott. Gobeithio nawr y gallaf annog mwy o ffermwyr i feddwl am sganio am OPA.”

Ychwanegodd Leisia Tudor, Swyddog Iechyd Praidd a Buches HCC, “Roedd hi’n wych gweld cynifer o filfeddygon yn mynychu’r hyfforddiant ac ryym yn gwerthfawrogi amser Dr Scott. Y gobaith yw y bydd yr hyfforddiant hwn yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o OPA mewn diadelloedd ledled Cymru ymhellach a hefyd yn helpu gyda prosiect Stoc+ gan y gall milfeddygon gynnal sganio OPA fel rhan o’r prosiect.”

Mae Stoc+ gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.