Manteision gwych o fwyta cig moch

Mae treialon ymchwil diweddar wedi dangos bod porc a fagwyd ar borfa gyfoethog o borthiant yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn asid a-linolenig (ALA), math o asid brasterog omega 3 a geir mewn hadau ac olew i gymharu â phorc a fagwyd ar badog hesb.

Roedd y canfyddiadau hyn yn ganlyniad i brosiect ymchwil newydd a gynhaliwyd gan Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio ar Fferm Forest Coalpit. Bwriad y prosiect, a chafodd ei arwain gan Gyswllt Ffermio oedd cymharu ansawdd cig moch o ddau grŵp, un yn cael ei fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a’r llall ar ddwysfwyd yn unig.

Bu Cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori rheoli ansawdd bwyd FQM Global, Caroline Mitchell, yn goruchwylio'r prosiect gyda dadansoddiad pellach o'r porc yn cael ei wneud gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni.

 

Trafodwyd canlyniadau’r prosiect mewn gweminar yn ddiweddar gan Caroline Mitchell o FQM Global:

“Gan nad yw moch yn gallu syntheseiddio ALA, mae’r cynnydd yn yr asid brasterog hanfodol n-3 neu omega 3 yn ganlyniad uniongyrchol i ychwanegu’r porthiant at y diet.

“Mae manteision lluosog i ddefnyddwyr dynol o fwyta cynhyrchion sy'n cynnwys ALA, er enghraifft, atal trawiad ar y galon, gostwng pwysedd gwaed uchel, gostwng colesterol a gwrthdroi caledu'r pibellau gwaed.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle gwych i edrych ar yr effeithiau y gall gwahanol ddietau eu cael ar ansawdd porc a gobeithio yn y dyfodol y gallai’r canlyniadau arloesol ychwanegu gwerth at y cynnyrch. .

“Dyma’r prosiect cyntaf o’i fath ac mae’n galonogol gweld bod gwahaniaethau sylweddol yn y porc wedi’u nodi. Bydd angen gwneud mwy o ymchwil yn y maes hwn, ac felly gobeithio y bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn gatalydd ar gyfer ymchwil pellach.”

Mae ansawdd eu porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Forest Coalpit Farm sy’n rhedeg eu 20 porchell eu hunain i besgi cenfaint o’u brid eu hunain o foch Du Cymreig (Du Mawr X Duroc) ar dir pori a choetiroedd ar eu fferm yn y Bannau Brycheiniog.

Maent yn cigydda ac yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau.

Dywedodd Kyle Holford: “Rwy’n aml yn eistedd yn bwyta rhywfaint o’n porc ac yn meddwl pam ei fod yn blasu mor wych, yn amlwg mae’n amrywiaeth o ffactorau; brid, maes, rheolaeth a diet. Roeddwn i eisiau gwneud y prosiect hwn er mwyn darganfod pa rôl oedd gan borthiant ar flas a meintioli'r buddion a ddaw yn ei sgil.

“Roedd ein prif ffocws ar ddadansoddi’r brasterau gan mai dyma le mae’r gwahaniaeth i’w weld ar rywogaethau eraill. Yn ogystal â hyn fe wnaethom bwyso'r moch drwyddo draw i weld os yw porthiant yn dod ag unrhyw fanteision cynhyrchu hefyd. O’r prosiect hwn rydym yn gobeithio dysgu gwerth porthiant mewn magu moch yn yr awyr agored boed hynny o fudd cynhyrchu, blas neu atafaeliad carbon a buddion amgylcheddol,” ychwanegodd.
Edrychodd y prosiect ar fynd i'r afael â'r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd ac olrheinedd yn eu cynnyrch.

“Mae wedi bod yn hynod ddiddorol edrych ar y berthynas rhwng bwydo moch a’r effaith y mae’n ei gael ar ansawdd cig a braster. Rwy’n dal i ryfeddu mai dyma’r prosiect cyntaf o’r math hwn. Ac mae darganfod ei fod yn effeithio ar y braster ac yn gwneud cynnyrch iachach yn rhyfeddol. Mae hyn yn dangos bod hyd yn oed mwy o fudd i fagu moch y tu allan ar laswellt, a gall cynhyrchwyr eraill ddefnyddio hwn i'w fesur ac ychwanegu gwerth at gynnyrch sydd eisoes yn wych. Diolch yn fawr iawn i Menter Moch Cymru a Cyswllt Ffermio am y cyfle i wneud hyn,” ychwanegodd Kyle.

Dywedodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch Cyswllt Ffermio:

“Gyda'r sefyllfa fregus y mae'r diwydiant moch ynddi ar hyn o bryd, mae canlyniadau'r prosiect yn wych er mwyn ychwanegu gwerth drwy gynnig pwynt gwerthu unigryw i gynnyrch Forest Coalpit Farm. Mae buddion iechyd ac amgylcheddol o besgi moch ar borfa yn gyd- fynd gyda'r cynnydd yn yr awydd i weld ansawdd ac olrheinedd mewn cynnyrch."

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.