Woodland

Mae’r Cynllun Adfer Coetir (WRS) yn seiliedig ar y Cynllun Glastir a oedd yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Y cyllid ar gael i gyfnod y Datganiad o Ddiddordeb (DOD) yw £1 filiwn. Bydd y cyfnod hwn yn agor ar 14 Mawrth 2022 ac yn cau am hanner nos ar 22 Ebrill 2022.

Mae’r DOD yma ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn gallu cwblhau yr holl waith cyfalaf a phlannu erbyn 31 Mawrth 2023.

Cewch gyflwyno DOD yn WRS os oes gennych trwydded cwympo coed, cyfeirnod cais trwydded cwympo neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sydd yn cynnwys llarwydd.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno y trwydded cwympo, cais am drwydded cwympo gyda rhif cofnodi neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) gyda eich DOD, neu cyn 22 Ebrill 2022 ar gyfer asesiad gan Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i ategu unrhyw DOD a gyflwynwyd mewn rownd hanesyddol o GWR. Bydd methiant i wneud hyn yn arwain i’r caeau gael eu gwrthod.

Mae WRS yn arlwyo gwaith cyfalaf ar gyfer ail-blannu, ffensio a gweithgareddau cysylltiedig ar safleoedd ble mae llarwydd ac hyd at 50% o rhywogaethau sydd ddim yn llarwydd.

I fod yn gymwys am gefnogaeth i ail-blannu eich coetir, bydd rhaid i chi gyflwyno Cynllun Rheoli Coedwig am y safle sydd yn gymwys yw adfer.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/cynllun-adfer-coetir