Vet Tywyn

Unwaith eto, mae Menter Moch Cymru a Chanolfan Milfeddygaeth Cymru (WVSC), mewn cydweithrediad ag Iechyd Da a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid, yn cyflwyno'r hyfforddiant DPP Moch poblogaidd i filfeddygon Cymru.

Bydd y rhaglen ddwys 6 diwrnod, a gynhelir rhwng mis Mai a mis Medi, yn cael ei chyflwyno gan y milfeddyg moch arbenigol Dr Annie Davis o Grŵp Milfeddygol George ynghyd â llu o siaradwyr gwadd arbenigol.

Bydd yr hyfforddiant yn cychwyn ar y 5ed o Fai ac mae'n ffordd arbennig i filfeddygon yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau ymarferol gyda moch mewn sesiynau ymarferol dan oruchwyliaeth tiwtoriaid arbenigol mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Disgrifiodd Hugh Williams, o Filfeddygon Williams yn Nhywyn yr hyfforddiant fel cyfle gwych.

“Roedd y cwrs cyfan yn wych gyda chymysgedd o ddiwrnodau ymarferol a darlithoedd. Roedd y dyddiau ymarferol yn arbennig, roeddem fyny yng Nglynllifon ar fferm foch dan do ddwys, yn profi gwaed ac yn ymarfer y technegau hynny ac yna ar fferm yn Y Fenni uned foch awyr agored a rhoddodd y ddau brofiad gwych i ni ac roedd yn gyfle i’r holl aelodau oedd ar y cwrs i ddysgu sgiliau newydd a gwella ein gwybodaeth am wyddor filfeddygol moch.

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn llwyr, gan ei fod wedi gwella fy hyder wrth weithio gyda moch a hefyd wedi ehangu fy ngwybodaeth am y byd milfeddygol moch,” ychwanegodd.

Bydd y sesiwn gyntaf yn un rhithiol a bydd yn cynnwys edrych am fygythiadau o afiechydon all effeithio ar foch, TB mewn moch, maeth, cynhyrchu moch, hwsmonaeth a dangosyddion perfformiad tra bydd yr ail ddiwrnod hyfforddi yn cael ei gynnal yng Nglynllifon, Caernarfon ar yr 17eg o Fai ac yn edrych ar feichiogrwydd, porchella, proffilio iechyd clinigol a chynllunio ar gyfer iechyd cadarnhaol.

Bydd trydydd diwrnod yr hyfforddiant yng Nglynllifon ar y 18fed o Fai yn cynnwys taith o amgylch eu huned foch dan do, edrych ar samplu gwaed, sut i lunio cynllun iechyd a defnydd cyfrifol o wrthfiotigau, a chynhelir y pedwerydd diwrnod ar y 13eg o Orffennaf yn Forest Coalpit, Y Fenni a bydd yn cynnwys taith fferm o amgylch eu huned awyr agored yn ogystal â dulliau asesu ar gyfer archwilio moch a hwsmonaeth a rheolaeth.

Cynhelir y ddau ddiwrnod olaf ar y 7fed a'r 8fed o Fedi yn y WVSC yn Aberystwyth a bydd yn cynnwys edrych ar bost mortem mochyn, y gwaith ymarferol a’r theori.

Dywedodd Beverley Hopkins o WVSC: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y cwrs DPP manwl hwn ar foch yn dychwelyd, o dan arweiniad Annie Davis o Grŵp Milfeddygon George. Bydd yn gyfle gwych i filfeddygon yng Nghymru a bydd yn braf cael cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto ar gyfer gwaith theori a llawer o hyfforddiant ymarferol hefyd.”

Ychwanegodd Melanie Cargill Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Rydym wrth ein boddau yn gweithio unwaith eto gyda WVSC, Iechyd Da a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid i gyflwyno’r cwrs DPP hwn sy’n canolbwyntio ar foch ar gyfer milfeddygon Cymru. Roedd y cwrs yn hynod boblogaidd pan wnaethom ei gynnal yn 2019. Roedd y milfeddygon a oedd yn bresennol yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gael profiad ymarferol o drin moch a chael gwybodaeth fanwl i’w cynorthwyo ymhellach i ddarparu gwasanaethau o’r natur hon i’w cleientiaid.”

Am fwy o fanylion ac i archebu lle cysylltwch â WVSC: enquiries@wvsc.wales