Galwad agored

Cyfle i gymunedau Gwynedd a Môn beilota modelau buddsoddi lleol yn eu hardal.

Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn, dau o gynlluniau Menter Môn, wedi cyhoeddi eu bod yn ehangu eu prosiect ‘buddsoddiad mewnol’ i sawl ardal newydd ar draws Gwynedd a Môn.

Nôl yn 2015 sefydlwyd Be Nesa Llŷn - cronfa benthyciadau di-log i bobl ifanc Pen Llŷn gychwyn neu ddatblygu busnes neu fenter gymdeithasol yn yr ardal.

Buddsoddodd 11 o bobl busnes Llŷn eu harian yn y gronfa, sydd erbyn hyn wedi cael ei ailgylchu drosodd a throsodd, nes bod 15 busnes a menter gymdeithasol wedi derbyn gwerth dros £70,000 o fenthyciadau di-log ganddynt. Roedd y benthyciadau hyd at £5,000 yn helpu tuag at brynu offer, costau hyfforddiant, marchnata a llogi gofod i weithio.

Becws Islyn

Un sydd wedi buddsoddi yn y gronfa yw Geraint Jones, Becws Islyn:

“Da ni isio trio gwneud gymaint a gallwn ni i’r gymuned a chadw pobl ifanc yma... sa ni’n cael mwy o bobl ifanc yn dechrau busnesau eu hunain yma bysa mwy o arian yn aros yn y pentrefi wedyn. Mae’n amser da i bobl busnes rhoi arian mewn a helpu pobl ifanc i ddechrau.”

Mae’r cynllun wedi galluogi nifer o bobl ar draws Llŷn i gychwyn busnes er mwyn gallu byw a gweithio yn eu milltir sgwâr, gan gynnwys Tanya Whitebits, Wyau Llŷn a Tylino.

“Mae’r benthyciad wedi helpu yn fawr iawn hefo’r busnes - mae o wedi helpu fi ddatblygu’r busnes o ran refeniw… dwi’n gobeithio neith o ddatblygu a rhoi cyfle i rywun arall lleol ddechrau busnes eu hun hefyd.” Rebecca Hughes, Tylino.

Clwb hoci Pwllheli

Mae’r gronfa ar gael i fentrau cymdeithasol hefyd. Defnyddiodd Clwb Hoci Pwllheli cyllid o’r gronfa i brynu llifoleuadau ar gyfer y cae:

“Oedd y broses yn ofnadwy o hawdd, a gath ni lot o gyngor. Heb yr arian yna byswn ni ddim hefo’r llifoleuadau yma heddiw - ac mae hynny wedi galluogi ni i fwcio’r cae allan. Mae 'na lot o bethau’n mynd ymlaen rŵan a bydda’r holl bobl ddim yn cael mynediad i’r cae yma heb y gefnogaeth yna.”

Yn dilyn llwyddiant cronfa Be Nesa Llŷn a nifer o ymholiadau o du hwnt i’r ardal, mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn am ariannu a sefydlu nifer o gronfeydd newydd sbon i gymunedau ar draws y ddwy sir.

Mae galwad nawr i gymunedau eraill yng Ngwynedd a chymunedau Môn wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun. Mae ffurflen gais ar gael yma i geisio neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â betsan@mentermon.com cyn 11 Gorffennaf 2022.

Darparwyd cefnogaeth ariannol ar gyfer rhaglenni Arloesi Gwynedd Wledig gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.