- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£53945.00
Disgrifiad o'r prosiect:
Nod y prosiect Treftadaeth Arloesol yw mynd â mentrau treftadaeth gymunedol i’r cylch digidol ac i gynyddu gwaith eco-amgueddfa Rhwydwaith Atseiniau. Bydd y prosiect yn darparu cefnogaeth, mentora a hyfforddiant i grwpiau treftadaeth i ddysgu sgiliau newydd ac i gynnwys amrediad mwy o bobl i sicrhau dyfodol cynaliadwy. Bydd yn cyfrannu i ddatblygu mudiad eco-amgueddfa Sir Benfro i wneud twristiaeth treftadaeth yn brofiad seiliedig ar ardal a thrwy’r flwyddyn. Wrth harneisio technoleg ddigidol i ddehongli casgliadau a threialu technegau newydd, bydd yn helpu creu cynnyrch twristiaeth arloesol, o ansawdd uchel.
Cyflawniadau prosiect:
Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda phum cymuned i archwilio defnydd digidol mewn cyd-destun treftadaeth ac i gyflawni rhaglen hyfforddi wedi ei theilwra at anghenion cymunedau, fel eu bod yn teimlo’n hyderus a medrus i ddatblygu eu syniadau digidol i gynnyrch twristiaeth treftadaeth. Bydd y prosiect yn cipio gwersi digidol ac yn bwydo i mewn i’r cam nesaf ac i’r Pecyn Offer Eco-Amgueddfa. Bydd y prosiect hefyd yn hwyluso ‘Rhwydwaith Atseiniau’, rhannu syniadau a mentora cyfoed i gyfoed.
Buddiolwyr y prosiect:
Cymunedau sy’n ymwneud â’r prosiect, hen ac ifanc; yn ogystal ag ymwelwyr i’r ardal.
Cysylltau:
https://anchor.fm/pembs-echoes
http://www.echoeswales.cymru/projects/innovative-heritage/
http://www.echoeswales.cymru/projects/pembrokeshire-heritage-forum/
https://www.facebook.com/PembsHeritageForum
https://www.facebook.com/groups/pembsheritageforum
https://www.facebook.com/PembrokeshireEchoes
https://twitter.com/PembsEchoes
https://www.planed.org.uk/work/heritage-culture-tourism/
https://directory.libsyn.com/episode/index/show/planed/id/19176401
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Helen Murray
- Rhif Ffôn:
-
01834 860965
- Cyfeiriad e-bost:
- LEADER@planed.org.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.planed.org.uk