Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd a Groundwork Cymru wedi dathlu’r ffaith bod eu rhwydwaith o wirfoddolwyr cymunedol - y Gwarcheidwaid - wedi cwblhau bron i 10,000* o oriau o waith gwirfoddol dros y tair blynedd diwethaf.
I ddathlu'r cyflawniad hwn — yn ogystal â'r 399,497 metr sgwâr o dir sydd wedi'u gwella gan y gwirfoddolwyr gwyrdd* — yr wythnos hon (29 Mawrth), cynhaliodd Parc Rhanbarthol y Cymoedd ddigwyddiad arbennig.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac roedd yn gyfle i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a drefnwyd gan Groundwork Cymru — sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu ag amgylcheddau lleol naturiol Cymoedd y De, eu gwarchod a'u datblygu.
Ers 2020, mae'r Gwarcheidwaid wedi gwneud pob math o waith gan gynnwys adfer pyllau, adeiladu pontydd, cynnal a chadw llwybrau, a chreu a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt.
Trwy'r gweithgareddau hyn, mae'r Cynllun wedi cynorthwyo cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau cadwraeth, llythrennedd eco, a hyder, gan wella eu sgiliau cyflogadwyedd wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Hefyd, mae'r gwaith gwirfoddol wedi cynyddu cyfradd lles yr holl gyfranogwyr 78.5%*.
Yn y digwyddiad yr wythnos hon, fe ddaeth gwirfoddolwyr, rhanddeiliaid ac unigolion pwysig at ei gilydd yn Nhŷ Bryngarw i ddathlu'r cyflawniadau hyn.
Fe wnaeth Alan Redfern, gwirfoddolwr 76 oed, siarad am y Cynllun a'r effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael ar ei les ers ymuno ym mis Medi 2022. Meddai: “Flwyddyn ar ôl ymddeol, doeddwn i ddim mewn sefyllfa dda — roedd angen i mi wneud rhywbeth i gadw fy hun yn brysur.
“Fe ges i wahoddiad i fynychu cyfarfod y Cynllun Gwarcheidwaid ac fe wnes i gofrestru am fy sesiwn gyntaf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, dwi heb edrych yn ôl. Rwy'n teimlo bod y sesiynau yn fy ngrymuso, yn caniatáu i fi helpu fy hun, a helpu eraill — ac maen nhw'n golygu bod fy ngwraig yn cael llonydd am ddiwrnod!”
Meddai Luke Garrood, sydd wedi bod yn gwirfoddoli i'r Gwarcheidwaid ers mis Mawrth 2022: “Mae'r Cynllun yn golygu llawer i mi gan fy mod i’n cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd. Ac ar ôl gwirfoddoli ym Mharc Gwledig Cwm Dâr am ychydig ddyddiau'r wythnos, fe ges i gynnig swydd ran-amser yn y caffi ar y safle.
“Oherwydd fy mod i'n awtistig, mae wedi bod yn anodd i mi ddod o hyd i waith — ond diolch i'r Cynllun, mae gen i swydd lle dwi'n teimlo'n gyfforddus ac yn fwy aeddfed, sydd wedi fy ngwella fel person.”
Mae Julie Smith wedi rhannu ei phrofiadau o’r cynllun hefyd: “Fe wnaeth ffrind i mi argymell sesiynau'r Cynllun Gwarcheidwaid er mwyn fy helpu i ryngweithio â phobl eto, gan wneud rhywbeth mae gen i ddiddordeb gwirioneddol ynddo — treulio amser yn yr awyr agored.
“Heb y cyfle i ddatblygu fy hyder a threulio amser yn y sesiynau, mae'n debyg na fyddai fy ngyrfa fyth wedi gadael y diwydiant lletygarwch. Erbyn hyn, mae diddordeb wedi troi'n yrfa gan mod i’n gweithio yn y ganolfan arddio leol. Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n gallu llwyddo yn y gwaith hwn, ond dyna sydd wedi digwydd!”
Meddai'r Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Bwrdd Gweithredol Parc Rhanbarthol y Cymoedd ac Arweinydd Cyngor Torfaen: “Ers lansio'r Cynllun yn 2021, rydw i wedi cael fy ysbrydoli'n gyson gan effaith sesiynau'r Cynllun Gwarcheidwaid — yn ogystal ag ymrwymiad a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr.
“Mae'r Cynllun Gwarcheidwaid yn creu cyfleoedd dysgu hamdden a sgiliau hanfodol ledled y Cymoedd — gan ddarparu gwybodaeth hanfodol i gymunedau am sut i ofalu am ein cynefinoedd a'n tirweddau naturiol cyfoethog, fel bod pobl yn gallu eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.”
Mae Cynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a drefnir gan Groundwork Cymru, wedi derbyn cyllid trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Gynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a drefnir gan Groundwork Cymru, ewch i: https://parcrhanbartholycymoedd.cymru/pobl-y-parc/gwarcheidwaid-parc-rhanbarthol-y-cymoedd/
*Ystadegau wedi'u cymryd o adroddiadau chwarterol Groundwork Cymru, yn ymwneud â chynllun peilot y Cynllun Gwarcheidwaid yn 2020, gwaith a gafodd ei wneud yn Discovery Gateways, sesiynau Wellies in the Woods a'r rhaglen Big Bocs Bwyd tan fis Rhagfyr 2022.
Gweler fideo dathliad o Gynllun Gwarcheidwaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a gyflwynir gan Groundwork Cymru: