Nod y prosiect hwn yw peilota nifer o syniadau gwahanol a fydd yn creu incwm, helpu tuag at gynnal gwasanaethau/ asedau newydd o fewn y cymunedau, cynnig gwasanaethau newydd a denu defnyddwyr newydd ir llyfrgelloedd rhwng nawr a diwedd mis Hydref 2017. Bydd y prosiect hefyd yn cadwr gwirfoddolwyr yn rhan or prosiect yn ystod y cyfnod interim hwn a gobeithio annog defnyddwyr presennol i gymryd rhan mewn gweithgareddau arloesol. Bydd pob un or 8 cymuned (Amlwch, Biwmares, Benllech, Cemaes, Porthaethwy, Moelfre, Niwbwrch, Rhosneigr) yn cael cyfle i gymryd rhan. Bydd y prosiect yn cynnwys dewislen" o wahanol weithgareddau iw treialu mewn gwahanol leoliadau lle byddwn nin cynorthwyor cymunedau i.
- Gynnal nifer o sesiynau 2-3 awr "gwahanol" syn cwmpasu ystod o bynciau gwahanol a fydd yn denu defnyddwyr newydd i lyfrgelloedd. Bydd hyn yn caniatu ir gwirfoddolwyr fonitro a chasglu data fel rhan ou hymchwil marchnad. Defnyddir y data hwn i fwydo iw Cynllun Busnes a fydd yn cael ei gyflwyno ir Cyngor.
- Gosod peiriannau gwerthu bwydydd iach te a choffi ar rai or safleoedd a gynhelir yn llawn gan y gwirfoddolwyr gydar holl incwm a gynhyrchir yn mynd yn l i gynnal y gwasanaethau ar adeiladau (a anelir yn bennaf at y safleoedd llai sydd heb gapasiti gwirfoddolwyr neu le i beilotar gweithdai a grybwyllir uchod)
- Cyflwyno gwasanaethau newydd fel y modelau "llyfrgell o bethau" neu "gaffi trwsio" y gellir eu treialu dros gyfnod o 6 i 10 wythnos. Maer modelau hyn wedi gweithion dda mewn ardaloedd ar draws y ffin ac maent yn cyfrannu tuag at greu canolfannau cymunedol gyda buddion iechyd a lles ar gyfer pob oedran a chyfleoedd dysgu ac adnabod y sgiliau sydd ar gael yn lleol.
- Yn olaf trefnir sesiwn grp ar gyfer pob un or 8 cymuned syn canolbwyntio ar lywodraethu cyfreithlondebau prydlesi trafodaethau HOTS rolau a chyfrifoldebau unigolion ayb. i baratoi ar gyfer cymryd drosodd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ywr brif astudiaeth achos ar allanoli llyfrgelloedd Cymru-gyfan ac maent wedi cytuno i gynnal sesiwn yma ar gyfer grp Ynys Mn. Maer rhestr fel y mae yn helpur cymunedau i nodir mathau o gynlluniau peilot syn bosibl o fewn cylch gwaith LEADER a bydd Arloesi Mn yn cynorthwyor cymunedau i gydlynur uchod yn y gwahanol leoliadau. Gall y cymunedau ddewis cymryd rhan mewn mwy nag un gweithgaredd ond bydd angen iddynt weithion agos gydag Arloesi Mn i sicrhau eu bod yn dewis y gweithgarwch cywir ar gyfer eu cymuned. Hefyd anogir y cymunedau i feddwl am weithgareddau nad ydynt wediu rhestru ar y "ddewislen" - man cychwyn yn unig yw hon. Disgwylir i gymunedau ymgymryd ag ymchwil marchnad fel rhan or cynllun peilot i gasglu data am y canlynol (mae cytundeb wrthin cael ei ddatblygu i sicrhau ymrwymiad y gymuned ir gwaith): - niferoedd a fydd yn mynychu neun defnyddior gwasanaeth - ffioedd rhesymol iw codi am y gwasanaeth - a ywr lleoliad yn addas ayb. Nod yr ymchwil yw nodi a ywr gwasanaethau peilot yn opsiwn ar gyfer denu incwm ychwanegol yn y tymor canolig / hir. Bydd hefyd yn ffurfio rhan ou Cynlluniau Busnes yn y dyfodol wrth fynd at y cyngor i drafod trosglwyddo Asedau. Bydd pob gweithgaredd yn cael ei ffilmio a bydd yr holl ffilmiau yn ogystal r ymchwil marchnad ar gael i gymunedau eraill yn y Sir a thu hwnt er mwyn ystyried ffrydiau incwm ychwanegol/ gwahanol ac arloesol. Yn olaf cynhelir digwyddiad lledaenu gwybodaeth ar ddiwedd y prosiect i rannu gwybodaeth y llwyddiannau ar gwersi a ddysgwyd gyda chymunedau a rhanddeiliaid perthnasol eraill yn y Sir.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£24,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Ynys Môn
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Bethan Fraser-Williams
- Rhif Ffôn:
-
01248 725741
- Cyfeiriad e-bost:
- bethan@mentermon.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts