Cynlluniwyd y prosiect i geisio cynyddur nifer syn ymweld chefn gwlad yng nghymoedd Castell-nedd Port Talbot gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (fwy cynaliadwy).
Y nod yw denu ymwelwyr dydd ac ymwelwyr sydd am aros yn yr ardal a bydd hefyd yn ceisio annog pobl Castell-nedd Port Talbot i fynd allan i fwynhau harddwch cefn gwlad. Rhaid cymryd nifer o gamau allweddol i gyflawnir nod hwn:
- Arfarniad llawn or atyniadau, y gweithgareddau ar teithiau cerdded y gellir eu cyrraedd ar fws yn yr holl wardiau gwledig
- Archwiliad or cyfleusterau aros ar wybodaeth am amserlenni yn y prif safleoedd bws syn gwasanaethur uchod
- Ymgysylltu sefydliadau lleol, busnesau twristiaeth a busnesau lleol iw darbwyllo or manteision o annog pobl i ddod ir ardal ar y bws ac i sicrhau bod lletygarwch a gwasanaethau ategol ar gael
- Dynodi llwybrau cerdded addas (naill ai cylchdeithiau neu deithiau syn dechrau ac yn gorffen yn yr un safle bws; neu deithiau syn dechrau ac yn gorffen mewn safleoedd bws gwahanol)
- cerdded ar hyd y llwybrau a ddewisir a pharatoi teithlyfrau syn cynnwys y daith gerdded ei hun, y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol (bwyd a diod, toiledau etc) a gwasanaethau bysiau addas yno ac yn l
- Paratoi posteri syn dangos gwybodaeth yn ymwneud safleoedd bysiau penodol, gan gynnwys map yn dangos llwybrau cerdded, atyniadau a gwasanaethau lleol; ynghyd ag amserlen ar gyfer y daith
- Paratoi posteri darluniadol iw dangos mewn gorsafoedd trenau a bysiau yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn cynnwys yr holl lwybrau bysiau syn cyrraedd y prif lwybrau cerdded ar atyniadau yng nghefn gwlad
- Paratoi posteri gwybodaeth yn dangos amseroedd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus y gellir eu defnyddio i deithio i westai, bwytai, caffis, tafarndai, gwersylloedd, parciau gwledig, llyfrgelloedd etc
- Cynnwys gwybodaeth am ardal Castell-nedd Port Talbot yn Arweiniad i Ymwelwyr Bae Abertawe
- E-farchnatan barhaus gan ddefnyddio ein gwefan www.swanseabaywithoutacar.com syn rhoir wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau trafnidiaeth i ymwelwyr theithwyr hamdden
- Marchnata i ddenu ymwelwyr syn aros yn ardal Bae Abertawe a Chaerdydd hyd yn oed i ddod ar y trn neur bws i dreulio diwrnod yng Nghastell-nedd Port Talbot
- Gweithio gyda chwmnau bysiau i helpu i wella a hyrwyddor gwasanaethau priodol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£20,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Castell-nedd Port Talbot
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- BayTrans: Countryside
Cyswllt:
- Enw:
- John Davies
- Rhif Ffôn:
-
07967 389329
- Cyfeiriad e-bost:
- johnbaytrans@btinternet.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts