Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y Byd.
Hwb yn nifer y busnesau bwyd a diod o Gymru sy’n datblygu arferion cynaliadwy
Mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir o ei 100 o gynhyrchwyr. Mae'r busnesau hyn yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd niche i eitemau cyfaint uchel ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu mawr. Fel rhan o weledigaeth strategol gyffredinol Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd ym mis Ionawr 2020 i gefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy, wrth dyfu’r...
CYNHYRCHWYR BWYD A DIOD O GYMRU AM GAEL BLASU LUNCH! 2022
Mae grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar eu ffordd i Lundain i fwynhau lunch! – y digwyddiad hanfodol i’r sector bwyd i fynd (Medi 14 a 15). Cynhelir y digwyddiad hwn yn ExCel Llundain a chynhelir ei chwaer-sioeau Commercial Kitchen a Casual Dining yn yr un lle. Mae lunch! sy’n cynnig toreth o fwydydd a diodydd blasus, rhwydweithio, seminarau, a’r dechnoleg ac arloesi diweddaraf yn siop un alwad i fusnesau bwyd i...
Cwmni coffi o Gymru yn cael blas ar lwyddiant wrth ennill gwobr ranbarthol Great Taste
Mae cwmni coffi o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2022. O’r saith cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2022, dyfarnwyd Golden Fork Cymru i Bay Coffee Roasters am eu coffi Indonesian Sumatran Masnach Deg Organig. Mae coffi Bay Coffee Roasters yn cael ei rostio yn eu safle rhostio yn Nhanygroes, yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae...
CYMORTHFEYDD UWCHRADDIO AR GYFER BUSNESAU BWYD A DIOD
Dewch i siarad a'r tim am gynyddu eich busnes bwyd neu ddiod! Rydyn ni’n crwydro’r ffyrdd gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio. Ymunwch â ni am sgwrs gyfrinachol gyda’n harbenigwyr uwchraddio am eich cynlluniau i dyfu eich busnes a sut gallwn ni eich helpu i’w gwireddu.
Gweithdai Datgarboneiddio
Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2022 byddwn yn cynnal cyfres o weithdai hyfforddi datgarboneiddio a fydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net ar gyfer y sector, Cymru, y DU a buddion byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr a rhoi newidiadau ar waith i’w strategaethau busnes, technoleg a dylunio prosesau mewn arferion...
Lansio Clwstwr Perllannau Treftadaeth Cymru i hyrwyddo Ffrwythau Amrywiol Cymru.
Mae Garddwriaeth Cymru wedi helpu i ffurfio Cwmni Budd Cymunedol, nid er elw, Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf., er mwyn helpu i hyrwyddo ffrwythau amrywiaethau Treftadaeth Gymreig. Nod Perllannau Treftadaeth Cymru Cyf. yw bod o fudd i berchnogion Perllannau Treftadaeth ledled Cymru, gan amddiffyn amrywiaethau Cymreig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yn rhoi llais i berchnogion a chynhyrchwyr Perllannau Treftadaeth Cymru ac yn eu galluogi i sefydlu Brand Cymreig a fydd yn helpu i hyrwyddo diogelwch...
Sêr bwyd a diod Cymreig Great Taste yn disgleirio
Mae Great Taste, sef gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi ei sêr o 2022, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru cael sêl bendith aur. Mae 182 o gynhyrchion Cymreig rhyfeddol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobrau 2022, gyda 129 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 46 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y...
Mwy na 100 o bobl yn cael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru
Cafodd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni i annog pobl i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y mae’r diwydiant yn eu cynnig. Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobl i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hestyn tan ddiwedd mis Tachwedd. Gan gydweithio’n glos â busnesau, targedwyd amrywiaeth o dalentau, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael...
Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn gobeithio sicrhau cytundebau yn Sioe Frenhinol Cymru
Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol, Sioe Frenhinol Cymru, ddychwelyd yr wythnos nesaf (18-21 Gorffennaf), bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnal Lolfa Masnach Busnes yn y Neuadd Fwyd, gan roi cyfle i gwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i gwrdd â phrynwyr o bob sector, gan gynnwys gwasanaethau bwyd, manwerthu, cyfanwerthu, caffael cyhoeddus a lletygarwch. Bydd y Lolfa Fusnes yn darparu arddangosfa o’r 60 o gynhyrchwyr sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd...