Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol, Sioe Frenhinol Cymru, ddychwelyd yr wythnos nesaf (18-21 Gorffennaf), bydd Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnal Lolfa Masnach Busnes yn y Neuadd Fwyd, gan roi cyfle i gwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i gwrdd â phrynwyr o bob sector, gan gynnwys gwasanaethau bwyd, manwerthu, cyfanwerthu, caffael cyhoeddus a lletygarwch.

Bydd y Lolfa Fusnes yn darparu arddangosfa o’r 60 o gynhyrchwyr sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd yn y Sioe eleni ochr yn ochr â llawer iawn o gynnyrch bwyd a diod Cymreig o safon. Mae'n lle hanfodol i'r diwydiant o ran cyfarfod â manwerthwyr a tharo bargeinion a allai fod yn broffidiol.

Mae’r Neuadd Fwyd ar agor bob dydd o 8am tan 6pm, ac yn cynnig cyfle i ystod eang o gwmnïau gymryd rhan yn yr arddangosfa fwyd flynyddol gan greu microcosm go iawn o ddiwydiant bwyd a diod Cymru o ddanteithion sawrus i ddanteithion melys. Bydd ymwelwyr yn gallu blasu a phrynu amrywiaeth enfawr o gynnyrch bwyd a diod sydd gan Gymru i’w gynnig, llawer ohono wedi ennill gwobrau, a’r cyfan o dan yr un to.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Mae’r Lolfa Fusnes yn gyfle gwych i arddangos cynnyrch bwyd a diod Cymreig o ansawdd gwych i brynwyr o bob sector o’r diwydiant, gan gynnwys rhai o’r prif adwerthwyr, ac yn y pen draw cynyddu masnach gyda chynhyrchwyr.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y cynnyrch yn y Neuadd Fwyd eleni ac mae’n lle hanfodol i bawb sy’n ymweld â’r Sioe Frenhinol. Mae’n llwyfan bendigedig i’n cynhyrchwyr bwyd a diod ac mae ei llwyddiant yn amlwg o’r nifer y bobl sy’n llifo drwy’r drysau.

“Mae bwyd a diod o Gymru gyda’r gorau yn y byd a gwelwyd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod o bedair gwlad y DU rhwng 2020 a 2021 gan godi £89 miliwn, sef twf o 16.1%.”

Nod Bwyd a Diod Cymru eleni yw cynnig cyfleoedd pellach yn y Lolfa Fusnes i gwmnïau sydd â diddordeb mewn arddangos eu cynnyrch i fanwerthwyr a phrynwyr masnach blaenllaw o bob rhan o’r DU.

Mae uchafbwyntiau gweithgarwch yn y Lolfa Fusnes yn cynnwys:

  • Arddangos cynnyrch gan 250 o gynhyrchwyr o amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys yr holl gwmnïau sy’n arddangos yn y Neuadd Fwyd (yn cynnwys cwmnïau o BlasCymru/TasteWales, Sêr y Dyfodol Cywain, ac argymhellion gan grwpiau Clwstwr Bwyd a Diod Cymru gan gynnwys Diodydd, Cynaliadwyedd, Uwchraddio Cynaliadwy, Garddwriaeth, Mêl, Bwyd Da a Bwyd Môr).
  • Cynnyrch Dynodiad Daearyddol Cymru (GI). Bydd cynhyrchion newydd yn cael eu harddangos yn cwmpasu holl sectorau allweddol y diwydiant; yn ogystal â brandiau sydd wedi ennill achrediad B Corp.
  • Bydd prynwyr blaenllaw o'r prif fanwerthwyr, gwasanaethau bwyd, cyfanwerthu a'r sector cyhoeddus yn bresennol. Mae amserlenni pwrpasol yn cael eu creu ar gyfer eu hymweliad â Sioe Frenhinol Cymru 2022.
  • Bydd ehangder a dyfnder yr arlwy o fwyd a diod Cymreig yn cael ei amlygu gyda bwydlen ddyddiol o luniaeth, byrbrydau a phrydau ysgafn yn cael eu cynnig i westeion. Anogir gwesteion i flasu a mwynhau gwahanol flasau, gweadau a blasau bwyd a diod Cymreig sydd wedi’u paratoi’n ffres wrth ddysgu am darddiad a chynaliadwyedd y cynhyrchion.
  • Bydd cyflwyniadau i brynwyr masnach yn cael eu cynnal i amlygu ymchwil Gwerth Cymreictod Llywodraeth Cymru. Bydd ystafell gyflwyno yn cael ei sefydlu i groesawu uwch dimau prynu i ddysgu mwy am ymchwil ‘Gwerth Cymreictod’ ac i gael diweddariadau ar ddata’r farchnad gan dimau Datblygu Masnach a Mewnwelediad Llywodraeth Cymru.
  • Am 6pm ar ddydd Mercher 20 Gorffennaf gwahoddir cwmnïau sy'n arddangos yn y Neuadd Fwyd i sgwrs gan Ross Taylor, Uwch Reolwr Masnachu yn Creed Foodservice a fydd yn rhannu ei syniadau a'i gyngor ar sut i wneud busnes yn y farchnad gwasanaeth bwyd.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Nod ein strategaeth bwyd a diod yw creu diwydiant bwyd a diod cryf, bywiog, gydag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, a chadwyni cyflenwi cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn ganolog iddo.

“Yn ogystal â lansio’r strategaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Cynllun Manwerthu i helpu cwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i roi eu cynnyrch ar silffoedd prif fanwerthwyr.

“Mae ein gwaith yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith datblygu masnach ehangach.”

Bob blwyddyn mae Sioe Frenhinol Cymru yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr sy’n dod at ei gilydd i ddathlu goreuon amaethyddiaeth Cymru. Mae Sioe Frenhinol Cymru eleni yn cael ei chynnal rhwng 18-21 Gorffennaf yn Llanfair-ym-Muallt, Powys.

Share this page

Print this page