Mae Great Taste, sef gwobrau bwyd a diod mwyaf poblogaidd y byd, wedi cyhoeddi ei sêr o 2022, ac mae llu o gynhyrchion bwyd a diod blasus o Gymru cael sêl bendith aur.
Mae 182 o gynhyrchion Cymreig rhyfeddol, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobrau 2022, gyda 129 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 46 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y stamp aur o gymeradwyaeth gyda 3 seren. .
Dyma’r saith cynnyrch Cymreig sydd wedi cael statws “bwydydd hynod flasus” 3-seren eleni:
- Bay Coffee Roasters – Sumatran Indonesiaidd Masnach Deg Organig
- Mario’s Luxury Dairy Ice Cream – Hufen Iâ Espresso Martini
- Parva Spices – Sambal Hijau
- Pembrokeshire Lamb Ltd – Briwgig Hesbin
- Pembrokeshire Sea Salt Co – Halen Môr gyda Saffrwm
- Tasty Bites @ Ionas Kitchen – Patti Gafr â blas cyrri
- The Wye Valley Meadery – Hive Mind: Big Smoke – Porter Mêl Mwg
Wrth longyfarch y cynhyrchwyr buddugol, dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch o’r nifer o wobrau sydd wedi’u hennill yn haeddiannol gan gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yng Ngwobrau Great Taste 2022.
“Mae gennyn ni rai o’r cynhyrchion bwyd a diod gorau yn y byd ac mae’n wych gweld ymrwymiad a gwaith caled busnesau’n cael eu cydnabod gan y beirniaid o’r Guild of Fine Food sy’n uchel eu parch.
“Byddwn yn annog pobl yng Nghymru yn ogystal ag ymwelwyr i gefnogi ein busnesau bwyd a diod Cymreig a rhoi cynnig ar rai o’u cynnyrch gwych.
“Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’n cwmnïau Cymreig ar eu llwyddiant yn y Gwobrau eleni a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r sector a’i helpu i ffynnu i’r dyfodol.”
Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd sy’n profi bwyd a diod. Mae'r gwobrau wedi bod yn rhedeg ers 1994 ac mae'r cynhyrchion yn cael eu blasu’n ddall gan gogyddion, chefs, prynwyr, manwerthwyr, perchnogion bwytai, beirniaid ac awduron bwyd dethol.
Meddai John Farrand, rheolwr gyfarwyddwr y Guild of Fine Food:
“Mae safon y ceisiadau Cymreig wedi bod yn rhagorol eto yn 2022. Rydyn ni’n gweld cynnyrch o ansawdd uchel, blaengaredd a chreadigedd.
“Cefais argraff fawr iawn o weld bod llawer o’r cynigion wedi dod gan fusnesau a ddechreuodd fasnachu yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, sef cwmnïau a ddechreuodd yng nghanol y cyfnod mwyaf heriol mewn hanes economaidd a chymdeithasol. Ac maen nhw'n ffynnu.
“Nid yw’n hawdd gwneud yr hyn y mae’r cynhyrchwyr hyn yn ei wneud, nac i’r busnesau newydd na’r busnesau sefydledig. Mae gan dyfu busnes a brand yn y diwydiant bwyd gymaint o newidynnau i’w hystyried o safonau, i bolisïau, dysgu gwerthu a marchnata’ch cynhyrchion, a hynny cyn i chi feddwl am anelu at ragoriaeth o ran blas a blas eich cynhyrchion. Mae gen i edmygedd llwyr tuag atyn nhw i gyd.”
Mae’r tri sydd wedi’u henwebu ar gyfer y teitl rhanbarthol ‘Golden Fork from Wales’ yn cynnwys Mario’s Luxury Dairy Ice Cream ar gyfer eu Hufen Iâ Espresso Martini; Tasty Bites @ Ionas Kitchen ar gyfer eu Patti Gafr â blas cyrri a Bay Coffee Roasters ar gyfer eu Sumatran Indonesiaidd Masnach Deg Organig. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun 5 Medi 2022.
Mae rhestr lawn o enillwyr eleni a ble i’w prynu ar gael yn www.greattasteawards.co.uk