Mae cwmni coffi o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2022.

O’r saith cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2022, dyfarnwyd Golden Fork Cymru i Bay Coffee Roasters am eu coffi Indonesian Sumatran Masnach Deg Organig.

Mae coffi Bay Coffee Roasters yn cael ei rostio yn eu safle rhostio yn Nhanygroes, yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae eu detholiad o goffi’n unigryw gan fod eu holl waith rhostio yn cael ei wneud gan ddefnyddio trydan o ynni 100% adnewyddadwy fel solar a gwynt, gan osgoi defnyddio nwy, yn wahanol i lawer o rostwyr coffi eraill.

Dywedodd Duncan Gray, perchennog Bay Coffee Roasters:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn ennill gwobr Great Taste Golden Fork Cymru am ein coffi Indonesian Sumatran. Roedd yn wych i ennill gwobr 3-seren ond mae hyn yn wych. Dyma’r 5ed flwyddyn i ni ennill gwobr Great Taste ac rydyn ni’n teimlo ei fod yn arwydd parhaus o’n dymuniad i barhau i wneud yn well.

“Mae ein coffi yn cael ei fewnforio gan ddefnyddio cwmnïau sydd â pholisïau cynaliadwyedd cryf. Ar hyn o bryd rydyn ni’n ceisio dod â mwy o gynhyrchion ardystiedig Masnach Deg ac Organig i'r farchnad, yn ogystal â gwella ansawdd. Teimlwn mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod gweithwyr ar lefel fferm yn cael eu trin yn deg. Heb gynllun olrhain fel Masnach Deg, dim ond cymryd gair pobl rydych chi.

“Rydyn ni wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan ein cwsmeriaid, ac yn gwerthfawrogi sut mae Llywodraeth Cymru wedi ein hannog drwy amrywiaeth o gynlluniau gwahanol. Mae wedi rhoi’r cyfle i ni hyrwyddo ein cynnyrch trwy ddigwyddiadau a marchnadoedd lleol.”

Mae eu coffi Organig Masnach Deg Indonesian Sumatran yn cael ei dyfu ar lethrau uchel, folcanig Mynydd Leuser, ger porthladd Padang yng ngorllewin canolbarth Sumatra. Nid yw'r enw'n cyfeirio at le, serch hynny, ond yn hytrach mae'n anrhydeddu pobl Mandailing, grŵp ethnig yn ardal Batak sy'n defnyddio’r ail sillafiad hwn.

Mae gan flas y coffi fel espresso crema dwfn, tywyll, cyfoethog. Mae'r arogleuon yn adleisio'r blas arwynebol o gedrwydd a geir mewn tiwbiau sigâr o ansawdd. Mae blasau ysgafn, melys, sbeislyd yn dawnsio o gwmpas y geg ac yn dod at ei gilydd mewn cytgord cytbwys sy'n gorffen gyda blas melys, wedi'i eplesu ychydig. Mae hwn yn goffi rhyfeddol, yn gymhleth ond yn hollol hawdd ei yfed.

Wrth longyfarch Bay Coffee Roasters ar eu llwyddiannau, dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths AS,

“Hoffwn longyfarch Bay Coffee Roasters ar eu llwyddiannau yng Ngwobrau Great Taste eleni. Mae’n wych gweld busnesau Cymreig yn cael eu cydnabod am eu cynnyrch o safon uchel.

“Mae’r beirniaid o’r Guild of Fine Foods wedi nodi cynnyrch o’r ansawdd gorau o bob rhan o Gymru, gan adlewyrchu’r gwaith caled a’r creadigrwydd sy’n nodweddiadol o’n diwydiant bwyd o safon fyd-eang.

 “Byddwn yn annog pobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr i gefnogi ein busnesau bwyd a diod Cymreig a rhoi cynnig ar rai o’u cynnyrch gwych.

 “Dylai pawb yn Bay Coffee Roasters fod yn falch iawn o’u llwyddiannau a dymunaf y gorau iddynt i’r dyfodol.”

Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy’r byd sy’n profi bwyd a diod. Mae'r gwobrau wedi bod yn rhedeg ers 1994 ac mae'r cynhyrchion yn cael eu blasu'n ddall gan gogyddion, chefs, prynwyr, manwerthwyr, perchnogion bwytai, beirniaid bwyd ac awduron dethol.

Mae 182 o gynhyrchion Cymreig, yn amrywio o gynhyrchwyr crefftus annibynnol bach i ddosbarthwyr ar raddfa fawr, wedi bod yn llwyddiannus yng ngwobrau 2022, gyda 129 o gynhyrchion yn cael 1-seren, 46 yn derbyn 2 seren a 7 yn ennill y stamp aur o gymeradwyaeth gyda 3 seren.

Gellir gweld rhestr lawn o enillwyr Gwobrau Great Taste eleni yn www.greattasteawards.co.uk

I ddarganfod mwy am Bay Coffee Roasters ewch i https://www.baycoffeeroasters.com/

Share this page

Print this page