Mae grŵp o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ar eu ffordd i Lundain i fwynhau lunch! – y digwyddiad hanfodol i’r sector bwyd i fynd (Medi 14 a 15).

Cynhelir y digwyddiad hwn yn ExCel Llundain a chynhelir ei chwaer-sioeau Commercial Kitchen a Casual Dining yn yr un lle. Mae lunch! sy’n cynnig toreth o fwydydd a diodydd blasus, rhwydweithio, seminarau, a’r dechnoleg ac arloesi diweddaraf yn siop un alwad i fusnesau bwyd i fynd.

Bydd chwe chynhyrchydd o Gymru i’w gweld ar stondin L731, lle maen nhw’n arddangos o dan nawdd Clwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru.

Mae’r Clwstwr Bwyd Da, a hwylusir gan Menter a Busnes a Cywain, yn dod â busnesau o natur debyg at ei gilydd i rannu gwybodaeth, cynyddu cynhyrchiant, ac ysgogi busnes newydd.

Disgrifir lunch! fel ‘sioe bwyd-i-fynd gyfoes’, ac mae’n orlawn â chynhyrchion a syniadau newydd ar gyfer y sector, sy’n cynnwys busnesau caffi, bariau brechdanau a siopau coffi.

Dyma’r busnesau sy’n cymryd rhan yn lunch! ac sy’n mynd ati ar y cyd i dargedu prynwyr masnachol y DU yn y categori “bwyd i fynd”: Cradoc's Savoury Biscuits Ltd, Do Goodly Dips, Drop Bear Beer Co, Trailhead Fine Foods Ltd, Tregroes Waffles, a Welsh Lady Preserves. Mae’r cwmnïau hyn i gyd wedi eu hachredu naill ai gan BRC neu gan SALSA.

Mae dau o’r cwmnïau a fydd yn lansio cynhyrchion newydd yn lunch! wedi cael lle hefyd yn arddangosiad Her Arloesi’r digwyddiad: Do Goodly Dips (Dip Nacho Cheeze a Dip Pupur Coch Rhost), a Trailhead Fine Foods (Jyrci Cig Carw).

Meddai’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: “Mae’ Cymru’n cynhyrchu rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau un, ac mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle gwych i fusnesau Cymru arddangos eu cynhyrchion rhagorol.

“Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â busnesau eraill lle gallwn oll ddysgu gan ein gilydd. Dymunaf ddigwyddiad llwyddiannus iawn i’r chwe chwmni o’n Clwstwr Bwyd Da.”

 

Cradoc's Savoury Biscuits Ltd

Pobir Cradoc’s Crackers gyda gwenith, gwenith cyflawn, ceirch, a llwyth o lysiau, ffrwythau, blodau, hadau, perlysiau a sbeisys.

Cânt eu cynhyrchu yng nghrasdy pwrpasol y cwmni yn Aberhonddu, Canolbarth Cymru.

Bydd Cradoc’s yn lansio amrywiaeth newydd o Gracers Dim Glwten yn Lunch! Y tri blas yw Cracers Tsili, Sinsir a Garlleg (80g), Cracers Rhosmari a Garlleg (80g), a Chracers Halen a Phupur Du (80g).  

www.cradocssavourybiscuits.co.uk

 

Do Goodly Dips

Mae Do Goodly Dips yn cynhyrchu amrywiaeth o ddipiau sail planhigion unigryw sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n ‘well i’ch iechyd’.

Maen nhw’n naturiol 100%, heb glwten/llaeth ac maen nhw’n hynod o iach. Ethos y cwmni yw ‘gwnewch y peth da, byddwch yn dda, blaswch yn dda’, ac mae 10% o’r holl elw’n mynd i’r elusen iechyd meddwl Mind. Mae cynaliadwyedd yn bwysig, ac mae eu ffocws ar ostwng gwastraff bwyd drwy greu cynhyrchion sydd ag oes silff hirach yn naturiol.

Yn y sioe, byddent yn lansio eu dipiau Pupur Coch Rhost a’r Nacho Cheeze sy’n unigryw i’r farchnad.

www.dogoodlydips.com

 

Drop Bear Beer Co.

Drop Bear Beer Co. yw bragwr dialcohol carbon niwtral ardystiedig cyntaf y byd. Mae ei gyrfau crefft ABV 0.5% sy’n cael eu bragu’n draddodiadol ac sydd wedi ennill sawl gwobr, oll yn rhai calori isel, addas i feganiaid, heb glwten sy’n isel mewn siwgr.

Mae’r amrywiaethau Drop Bear rhyngwladol enwog yn cynnwys New World Lager (lager golau India), Yuzu Pale Ale (cwrw golau America), Tropical IPA (cwrw golau India) a Bonfire Stout (stowt).

www.dropbearbeers.com

 

Trailhead Fine Foods Ltd

Daw’r jyrci cig eidion Cymreig artisan hwn, sydd heb glwten ac sy’n uchel mewn protein, mewn wyth blas gwahanol, o’r sbeislyd i fyrbrydau archwaethus. Mae’r jyrci hyfryd o gytbwys hwn sy’n tynnu dŵr i’r dannedd, wedi ei wneud o’r toriadau gorau a mwyaf coch yn unig o Gig Eidion PGI o Gymru ac yn cael ei farinadu’n ofalus gan ddefnyddio ryseitiau cyfrinachol unigryw.

Bydd Trailhead Fine Foods, sydd wedi ei seilio yn y Trallwng, yn lansio dau gynnyrch newydd yn lunch! sef Jyrci Cig Carw Gwreiddiol a Jyrci Cig Carw Tsili Sbeislyd. 

www.trailheadfinefoods.co.uk

 

Tregroes Waffles

Mae Tregroes Waffles yn gwmni pobi ar ddull cydweithfa sydd wedi ei seilio ym mryniau eang hardd Dyffryn Teifi, Gorllewin Cymru.

Mae’r cwmni’n pobi ac yn cyflenwi amrywiaeth o gynhyrchion gwych i gwsmeriaid cyfanwerthu ac adwerthu. Mae’r cynhyrchion yn ddetholiad gwych o waffls taffi melys blasus a chracers sawrus cyfoethog i’w mwynhau gyda chaws.

www.tregroeswaffles.co.uk

 

Welsh Lady Preserves

Mae’r teulu Jones wedi bod yn gwneud cyffeithiau melys a chynfennau sawrus arobryn ar Ben Llŷn yng Ngogledd Cymru ers 1966.

Mae pob un o gynhyrchion Welsh Lady Preserves wedi eu gwneud â llaw yn y dull traddodiadol ac mae’r cwmni wedi ennill y teitl Pencampwr Uchaf ddwy waith yn y Great Taste Awards.

Mae’r cwmni hwn hefyd yn arbenigo mewn gwasanaethau gweithgynhyrchu label breifat yn benodol i’r cwsmer ac mae ganddynt gyfleusterau cynhyrchu hynod o hyblyg sy’n cynnig amrywiaeth eang o gynwysyddion a sypiau cynhyrchu o wahanol faint.

www.welshladypreserves.com

Share this page

Print this page