Mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir o ei 100o gynhyrchwyr. Mae'r busnesau hyn yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd niche i eitemau cyfaint uchel ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu mawr.

Fel rhan o weledigaeth strategol gyffredinol Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, lansiwyd y Clwstwr Cynaliadwyedd ym mis Ionawr 2020 i gefnogi a datblygu arferion busnes cynaliadwy, wrth dyfu’r diwydiant, creu swyddi a chynhyrchu twf economaidd cynaliadwy ar draws diwydiant bwyd-amaeth Cymru.

Gan ddefnyddio dull helics triphlyg o lywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd yn gweithio law yn llaw i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin y diwydiant, mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd wedi tyfu i 100 o gynhyrchwyr, ynghyd â chyrff y llywodraeth a 30 o sefydliadau academaidd. Y clwstwr yw’r canolbwynt canolog, yn darparu gwybodaeth i fusnesau, dod yn llygaid a chlustiau i’r diwydiant gan ddatblygu rhwydweithiau ac arbenigedd yn y diwydiant i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd ym maes cynaliadwyedd.

Un o’r cwmnïau sy’n aelod o’r Clwstwr Cynaliadwyedd ac sydd wedi gosod cynaliadwyedd wrth galon ei waith ers ei sefydlu yw’r bragwr crefft Cymreig Drop Bear Beer Co. Wedi’i sefydlu yn 2019 gan Joelle Drummond a Sarah McNena, mae’r bragdy di-alcohol wedi dod yn gwmni bragu di-alcohol ardystiedig carbon niwtral cyntaf y byd, gan gryfhau ymrwymiad y busnes i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Daw’r cyhoeddiad am statws carbon niwtral y cwmni yn dynn ar sodlau Drop Bear Beer yn cael ei enwi’n ‘Busnes Newydd Gwyrdd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru 2022, yn ogystal ag ennill statws B-Corp fis Rhagfyr diwethaf gan eu gwneud y bragdy cyntaf yng Nghymru i ennill yr achrediad.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd Joelle Drummond, “Mae’r Clwstwr wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi ein rhoi mewn cysylltiad â chynhyrchwyr o’r un anian, ac rydyn ni wedi gallu cael mynediad at y cyfoeth o arbenigedd sydd ynddo. Rydyn ni bellach yn hyderus y gallwn barhau i dyfu ein busnes mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.”

Mae’r rhaglen Clwstwr Cynaliadwyedd yn cefnogi ac yn datblygu arferion busnes cynaliadwy ledled Cymru gan gynnwys:

  • Codi ymwybyddiaeth o Frand Cymru a chyflwyno ei bresenoldeb ar y llwyfan byd-eang
  • Cynhyrchu màs critigol o aelodau sy’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu gan gynnwys llysgenhadon busnes i arddangos arfer gorau
  • Meithrin gallu’r diwydiant yn gynaliadwy i gyflawni gwerthoedd gwytnwch, ansawdd, cyfrifoldeb a dilysrwydd
  • Cynyddu dealltwriaeth busnesau o fanteision ymgysylltu cynaliadwy, a thystiolaeth ar gyfer hynny, gan gynnwys meintioli buddion ariannol llwyddiannau cynaliadwy
  • Darparu mecanwaith ar gyfer rhannu arfer gorau a chynnydd ar eu taith o welliant parhaus, a'u hwyluso
  • Ymgysylltu â'r holl Glystyrau Bwyd eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol, a rhoi cyfeiriad iddynt

Mae Radnor Preserves yn aelod arall o Glwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Joanna Morgan,

“Mae gan Radnor Preserves, oherwydd ei union natur o gadw ffrwythau a llysiau, gynaliadwyedd yn greiddiol iddo. Dechreuodd y cwmni mewn bwthyn oddi ar y grid heb unrhyw drydan ac mae'n defnyddio technegau cadw traddodiadol.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau gwastraff bwyd, defnyddio pecynnau ailgylchadwy ac ynni gwyrdd. Rydyn ni’n angerddol am yr amgylchedd, yn dod o hyd i gynhwysion organig ac nid ydym yn ychwanegu unrhyw ychwanegion na chadwolion artiffisial. Mae pob cynnyrch yn rhydd o glwten ac yn addas ar gyfer feganiaid a llysieuwyr.

“Rydyn ni wedi pasio’r asesiad B-Corp cychwynnol, gyda’r nod o gyflawni statws B-Corp llawn gyda chymorth y Clwstwr Cynaliadwyedd. Drwy arddangos gyda’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn y Gynhadledd Cynaliadwyedd yn Llundain yn gynharach eleni, mae gennyn ni bellach restr gyda gwasanaeth dosbarthu bwyd seiliedig ar blanhigion, sy’n defnyddio faniau trydan i ddosbarthu cynnyrch.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths, “Rydyn ni’n cefnogi diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei hymgais i ddod yn un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cynaliadwy yn y byd ac mae’n newyddion gwych bod y Clwstwr wedi cyrraedd 100 o gynhyrchwyr ac yn gweithio gyda 30 o sefydliadau academaidd eraill.

“Mae’r Clwstwr Cynaliadwyedd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu busnesau ar eu taith o welliant parhaus i gyflawni gwerthoedd gwydnwch, ansawdd, cyfrifoldeb a dilysrwydd.”

Mae’r gwaith ar gynaliadwyedd yn estyniad naturiol o ewyllys Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau a bod yn rhagweithiol ym mhob agwedd ar ei diwydiant bwyd a diod a lles ei phobl, fel y dangosir yn ‘Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015’ y wlad a’r ffaith bod Cymru bellach yn rhif tri yn y byd am ailgylchu, yn ôl tîm Economi a Gwastraff Cylchol Llywodraeth Cymru.

Gweledigaeth Bwyd a Diod Cymru yw i’r wlad ddod yn wlad bwyd a diod fwyaf cynaliadwy’r byd.

Share this page

Print this page