Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
£72059.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Roedd hwn yn brosiect i ddarparu rhaglenni Addysg Awyr Agored penodol ar gyfer pobl wedi’u hymddieithrio a phobl ifanc yn enwedig, sy’n cynnwys cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol.  Digwyddodd hyn ym Mharc Riverside Glantawe, Parc Cymunedol 25 erw sy’n cael ei weinyddu gan Arena Pontardawe, elusen gofrestredig.   Cafodd y prosiect ddechrau araf oherwydd bod defnyddwyr yn anfodolon ymrwymo – ond wrth i ganlynaidau positif y prosiect ddod yn hysbys, arweiniodd at fwy o alw am Addysg Awyr Agored nag y gallem ei fodloni.  Roedd y rhaglenni hyn yn cynnig adnodd a lleoliad na allai’r system ysgolion arferol eu cynnig.

Am ddwy flynedd gyntaf y rhaglen, daeth yn amlwg ein bod yn ymdrin â demograffeg sydd eisoes yn profi problemau ymddygiad.  Roeddem yn llwyddiannus yn ein hamcanion i newid nodweddion ymddygiad a chynnig cymwysterau, fodd bynnag dangosodd gwaith ymchwil pellach y gallai ymyrraeth cynnar o fewn ysgolion cynradd, ble yr oedd plant mor ifanc â 5 yn cael eu catergoreiddio fel plant wedi ymddieithrio, roi canlyniadau mwy positif.

Roeddem yn llwyddiannus ym Mlwyddyn 3 o gael estyniad i’r rhaglen wreiddiol, er mwyn edrych ymhellach ar hyn.  Yn ystod y flwyddyn hon, rydym wedi darparu rhaglenni i bedair ysgol gynradd, dwy oedd â grwpiau blwyddyn cyfan, ble y cynhaliwyd rhaglenni peilot yn seiliedig ar gynhwysiant er mwyn gwahanu llai ar ddosbarthiadau.  

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae’n deg dweud ein bod wedi gwneud yn well na’n disgwyliadau o ystyried ein hamcanion cychwynnol: 

  • Rydym wedi darparu cymhwyster lefel 2 i bobl ifanc mewn Ysgolion Uwchradd pan nad oedd yn disgwyl derbyn unrhyw gymwysterau.  
  • Rydym wedi cynnwys pobl ifanc mewn prosiectau menter ble yr oeddent yn cynnal gwaith ymchwil a chwblhau prosiectau adeiladu a gweithgynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu.  
  • O ganlyniad i gymryd rhan yn ein rhaglenni, mae unigolion wedi dychwelyd ac yn trosglwyddo sgiliau a ddysgwyd i eraill.  
  • Mae gennym dîm sy’n ehangu o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu at gynnal a chadw y parc tra’n magu sgiliau personol trosglwyddadwy.  
  • Rydym wedi nodi y cymwysterau mwyaf priodol gan Agored Cymru ac wedi cynnwys rhain yn llwyddiannus o fewn rhaglenni’r gorffennol a’r dyfodol.  
  • Mae tir y parc wedi ei gynnal a’i gadw a’i ddatblygu i sicrhau bod cynefin gymysg yn annog nifer yr ymwelwyr a bywyd gwyllt.  Rydym wedi dechrau rhaglen nodi planhigion ble yr ydym yn mynd ati i nodi a gwarchod rhywogaethau prin megis y rhywogaethau tegeirianau Dwysflodeuog, Y Gors a Pêr.  
  • Mae gennym rhywun ar y safle rhwng 5 – 7 diwrnod yr wythnos gan ganiatâu mwy o ymwelwyr.  
  • Yn 2019 gwelwyd cam olaf y broses o glirio’r tir i ganiatâu i laswelltir a phlanhigion dyfu a chael eu gweld.  Mae gennym bellach ardal hyfryd o barc sy’n destun balchder a phleser i’r gymuned leol tra’n cyfrannu’n bositif at lesiant ac addysg nifer o blant a phobl ifanc yn ardal Castell-nedd Port Talbot.  
  • Rydym yn datblygu cymwysterau ar gyfer sgiliau’r gweithle sydd wedi helpu i unigolion gael gwaith a chyfleoedd am ragor o addysg.  
  • Rydym wedi sicrhau llwyddiant mawr o fewn ein rhaglenni ysgolion cynradd, ble rydym wedi cynnal rhaglenni peilot o gysylltiad â’r amgylchedd naturiol ar gyfer grwpiau blwyddyn gyfan dros y flwyddyn academaidd, a’u cynnwys mewn canlyniadau maes llafur ysgolion.  Mae plant wedi dangos newid positif o gymharu â grwpiau blynyddoedd eriall o ran ymddygiad, presenoldeb a chyflawni yn y dosbarth.  
Teepee

Pwy sy’n elwa o’r prosiect?

Disgyblion Ysgolion Uwchradd sydd wedi’u categareiddio fel disgyblion wedi ymddieithrio.  

Plant ysgolion cynradd wrth ddatblygu y gallu i ymdopi a lleihau ymddieithrio.  

Beth oedd canlyniad eich prosiect?

Roedd hwn yn brosiect oedd wedi’i reoli’n dda, a ddechreuodd yn dawel a gorffen yn brosiect mawr.  Nid oedd y gwaith ymchwil cychwynnol yn denu diddordeb pobl ar y cychwyn – roedd rhan fwyaf o flwyddyn 1 yn golygu ymrwymo i sefydlu gwerthoedd a magu hyder yn y prosesau dan sylw gan ddefnyddio’r amgylchedd naturiol o fewn y system ysgolion.  Roedd felly yn broses o ddatblygu araf ond cyson o’r camau cyntaf i’r lefelau uchel presennol ar y rhaglen.  Rydym wedi dysgu a chynnwys ein canlyniadau o fewn gwaith ymchwil cyfredol ac yn arloesi gyda methodoleg ymyrraeth gynnar o fewn y system ysgolion arfeol.  Rydym yn cydweithio â grwpiau blynyddoedd cyfan o ysgolion lleol i leihau ymddieithrio a gwella gallu disgyblion i ymdopi, sy’n cael ei adlewyrchu yn yr ystafell ddosbarth.  Rydym hefyd yn gweithio i gynnwys ysgolion lleol o fewn y broses o reoli’r rhaglenni. 

Beth oedd yr heriau?

Roedd yn rhaid inni addysgu staff yr ysgol i ddeall beth yr oeddem yn ei wneud, gan bod defnyddio y term “addysg awyr agored” wedi awgrymu gweithgareddau anturus tymor byr.  Mae hyn ymhell iawn o’r strategaethau datblygu organig hirdymor yr ydym yn eu cynnwys o fewn ein rhaglenni.

Y syniad cychwynnol mae’n debyg y dylem ddarparu ymyraethau i bobl ifanc sydd eisoes wedi’u heithrio o addysg arferol.  Mae hwn yn amlwg yn strategaeth sydd wedi cael rhywfaint o lwyddiant, fel a welir gan lwyddiant sefydliadau addysgol eraill, ond rydym yn sylweddoli bod llawer iawn o ymdrech ac adnoddau yn cael eu buddsoddi gan nifer o sefydliadau eraill wrth geisio datrys problem sy’n bodoli eisoes – gyda llwyddiant cymysg.  Fodd bynnag, heb y gwaith ychwanegol hwn, mae’n anhebygol y byddem wedi datblygu y strategaethau llwyddiannus presennol.  

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Rydym yn gweithio i gynnwys ysgolion lleol o fewn y broses o reoli y rhaglenni.  

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Robert Clapham
Rhif Ffôn:
07787 123739
Email project contact