Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£56905.38

Cyflwyniad

Cynllun grant bychan oedd y prosiect hwn ar gyfer grwpiau a phrosiectau llai ar draws Powys a fyddai fel arall heb y gallu i gael mynediad at gronfeydd Lywodraeth Cymru a chronfeydd Ewropeaidd. Cynigiwyd y gefnogaeth i'r grwpiau wneud hynny mewn modd sy'n gymesur â maint yr arian a ddyfarnwyd.

Roedd y prosiect yn gweithredu o dan thema iechyd a lles ac roedd yn gysylltiedig â chefnogi sefydliadau a phrosiectau a oedd wedi datblygu neu addasu gwasanaethau i gefnogi pobl yn ystod pandemig COVID-19, ac yr oedd angen iddynt addasu eto i anghenion oedd yn newid wrth i'r broses adfer ddechrau 

Roedd y cynllun grant yn ceisio cefnogi prosiectau a oedd yn treialu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gweithgareddau iechyd a lles ar raddfa fach a gynlluniwyd ac a ddarparwyd gan gyfranogwyr yn y gymuned leol.

Her

Galluogi sefydliadau llai i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd drwy ysgogi a mentora grwpiau gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ym Mhowys. Roedd y cynllun yn fyw ar adeg pan oedd sawl cynllun grant arall ar agor i'r sector a oedd yn canolbwyntio ar geisio cefnogi'r trydydd sector drwy'r anawsterau a achoswyd gan y pandemig, a chafodd hynny effaith ar lefel y ceisiadau a dderbyniwyd. Cafodd y pandemig effaith hefyd ar yr adrodd, gan fod grwpiau yn canolbwyntio gymaint ar gyflawni.

Atebion

Roedd y gronfa ar agor i geisiadau gan grwpiau gwirfoddol y mae ganddynt gyfansoddiad, sefydliadau'r trydydd sector a mentrau cymdeithasol gydag incwm blynyddol o lai na £100,000. Gallai grwpiau/rhwydweithiau cymunedol anffurfiol a oedd yn dymuno gwneud cais wneud hynny drwy gydweithio â grŵp a gyfansoddwyd a allai weithredu fel yr ymgeisydd arweiniol. Roedd cymorth Datblygu PAVO ar gael i gynorthwyo grwpiau anffurfiol gyda hyn.

Roedd yn rhaid i'r cais ddangos yn glir sut y byddai'r gweithgaredd yn parhau y tu hwnt i 2021.

Gallai ymgeiswyr wneud cais am hyd at uchafswm o £4,000. Nod y gronfa oedd cefnogi costau refeniw. Roedd gwariant cyfalaf wedi'i gyfyngu i uchafswm o 10% o gyfanswm y cais. 
Roedd rhaid cyfrannu o leiaf 20% o arian cyfatebol.

Gallai cyllid cyfatebol fod ar ffurf naill ai arian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector.  

Gyda PAVO yn gweithredu fel y corff dyfarnu grantiau, roedd modd symleiddio'r gofynion adrodd sy'n cyd-fynd â chyllid Ewropeaidd.

Methodd y rownd gyntaf â sicrhau digon o geisiadau i wario'r pot grantiau yn llawn, felly awgrymodd y Swyddog Arwain ein bod yn cynnal rownd arall.

  • Budd
  • Galluogi sefydliadau llai i gael gafael ar gyllid Ewropeaidd drwy ysgogi a mentora grwpiau gwirfoddol ffurfiol ac anffurfiol ym Mhowys
  • Helpu datblygiad o'r gwaelod i fyny a gwaith treialu mentrau micro mewn cymunedau ledled Powys, ynghyd ag addasu gwasanaethau presennol sy'n darparu buddion iechyd a lles i drigolion lleol
  • Gwella gallu sefydliadau Trydydd sector a gwirfoddolwyr lleol i gynllunio a chyflawni prosiectau yn eu cymunedau
  • Cafwyd cyfanswm o 36 cais ar gyfer y ddwy rownd a hysbysebwyd yn haf 2021 am gyfanswm o £113,715.77.  

Canlyniad

Ariannwyd 12 prosiect o amgylch sir Powys am gyfanswm o £35,966.57.

Fe wnaeth y grwpiau gwmpasu amrywiaeth eang o weithgarwch prosiect, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles cyffredinol. Roedd gweithgareddau'n llawn dychymyg ac yn newydd yn y cymunedau lle’r oeddent yn cael eu profi. Darparwyd rhai gweithgareddau ar-lein er mwyn helpu i gynyddu hygyrchedd i'r rhai a oedd yn wynebu rhwystrau o ran cymryd rhan. Roedd grwpiau'n awyddus i gael gweithgareddau wyneb yn wyneb yn dilyn cyfnodau clo hir.

Fe wnaeth amrywiaeth eang o fuddiolwyr fanteisio ar y prosiect - o'r ifanc i'r henoed ac o fabanod i bobl hŷn. Fe wnaeth grwpiau ganfod bod aelodau newydd o'r gymuned yn ymgysylltu â'u gweithgareddau, efallai yn sgil Covid a'i effeithiau.
Roedd iechyd a lles yr holl gyfranogwyr yn well yn sgil cymryd rhan yn y prosiectau a ariannwyd. Adroddwyd am fanteision iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal â mwy o hyder a llai o deimlad o ynysigrwydd gyda chysylltiadau cymunedol newydd yn cael eu gwneud. Mantais arall yw bod sefydliadau lleol yn cysylltu â'i gilydd ac yn gysylltiedig, gyda gwaith cyfeirio'n cael ei wneud yn rheolaidd er mwyn i fuddiolwyr gael mynediad at y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt. Fe wnaeth lleoliadau lleol hefyd weld mwy o ddefnydd o gyfleusterau ac ymwybyddiaeth o weithgareddau eraill maen nhw'n eu darparu.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Michele Muireasgha
Rhif Ffôn:
01597 822 191
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.pavo.org.uk/home.html