Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
£37826.00

Roedd prosiect Amethyst yn brosiect peilot gan Theatr Byd Bychan a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc 9-18 oed a oedd yn profi materion yn ymwneud â phryder, iselder, hwyliau isel, hunan-niweidio, syniadaeth hunanladdol, hyder isel a hunan-barch isel.

Datblygodd y rhaglen ddwy flynedd wahanol sesiynau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, yn ogystal â sesiynau i rieni a theuluoedd i feithrin dealltwriaeth o sut i gefnogi plant sy'n dioddef o'r materion hyn. Fe wnaeth y pecyn cymorth unigryw o dechnegau helpu i archwilio eu perthynas â nhw eu hunain ac eraill, i nodi rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau a chwilio am atebion cadarnhaol. Roedd y technegau’n cynnwys ‘amser cylch’ i feithrin ymddiriedaeth a sgiliau gwrando; ymarferion drama a gemau hwyliog i dawelu'r cyfranogwyr; edrych ar ymdopi â phryder, hwyliau isel a lles emosiynol cyffredinol; a chodi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl sy'n effeithio ar bobl ifanc trwy berfformiadau dwyieithog rhyngweithiol.

 

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Cynal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cynnalycardi.org.uk/