Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£10488.00

Crynodeb o’r prosiect:

ynodeb o’r prosiect: Cafodd Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF) gyllid LEADER ar gyfer dwy astudiaeth ddichonoldeb gysylltiedig a ymchwiliai i’r posibilrwydd o ddatblygu Ardal Brofi Ynni Morol (META) yn Noc Penfro. Canolbwyntiodd un astudiaeth ar sefydlu cadwyn gyflenwi leol ac edrychodd y llall ar bosibiliadau ar gyfer mewnfuddsoddiad a datblygu technolegau morol newydd.

Cynhaliwyd digwyddiadau rhwydweithio er mwyn dod â chyflenwyr posibl ynghyd, gan gynnwys cyrff strategol megis Adnoddau Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, a rhannwyd gwersi gan META Albanaidd yn Orkney. 

Cafwyd cefnogaeth lethol i’r cynigion a gyflwynwyd gan astudiaeth y gadwyn gyflenwi, gyda thros 50 o gyflenwyr lleol yn dymuno bod yn gysylltiedig, o arlwywyr i wneuthurwyr dur.  
 
Beth ddigwyddodd: 

Mae ynni tonnau a llanw yn adnodd dihysbydd yng Nghymru sydd â’r potensial enfawr i gyflenwi ein hanghenion ynni. 

Nod META yw prydlesu ardal o’r môr a gwely’r môr gan Ystad y Goron i brofi dyfeisiau arloesol graddfa fechan, gan nad oes un dechnoleg wedi’i safoni ar hyn o bryd. Felly mae angen profi er mwyn penderfynu pa ddyfeisiau fydd yn profi i osod y safon. Bydd angen i’r dyfeisiau hyn fod yn hyfyw yn economaidd gydag effaith amgylcheddol isel ac allbwn ynni uchel. 

Mae ecolegwyr morol yn gysylltiedig â’r prosiect er mwyn diogelu mamaliaid morol a bywyd gwyllt eraill. 

Disgwylir i’r datblygwyr ddod o bob cwr o’r byd i brofi gwahanol fathau o ddyfeisiau, pob un ohonynt wedi’u gweithgynhyrchu’n lleol. Mae cwmni Awstralaidd o ddatblygwyr ynni tonnau eisoes wedi adleoli i Ddoc Penfro a sicrhau £4m o gyllid yr UE, gan gyflogi 30 o bobl leol i ddatblygu prototeipiau. Yn amlwg, mae gan META gryn botensial i gefnogi economi Sir Benfro, gan greu swyddi cynaliadwy â chyflogau uchel. 

Dim ond un rhan o brosiect ynni morol mwy yn Noc Penfro yw META, sy’n cynnwys cynigion ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Ynni Morol gysylltiedig. Byddai’r ganolfan yn addysgu sgiliau peirianyddol lefel addysg uwch i bobl ifanc leol ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa da iddynt yn y sir.  

Mae PCF yn gyffrous ynglŷn â’r potensial i ddatblygu sector economaidd yn Sir Benfro sy’n gyfartal â diwydiant adeiladu llongau mawr y gorffennol. Eu nod yw rhoi Sir Benfro ar y map byd-eang ym maes datblygu ynni morol, wrth greu gyrfaoedd i bobl ifanc yn y sir a hybu’r economi leol.  

Rhoddodd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr astudiaethau dichonoldeb yr hyder i PCF wneud cais am fuddsoddiad pellach gan Gronfeydd Strwythurol yr UE am ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Sicrhawyd £3m ganddynt i ddatblygu cam nesaf y prosiect, gyda chefnogaeth gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe a buddsoddiad preifat cyfatebol. Bydd hyn yn ehangu’r staffio yn PCF, gan greu 4.25 o swyddi llawn amser mewn prosiect pum-mlynedd. Bydd y cam hwn yn cynnwys gwaith gydag ysgolion a phobl ifanc, gan eu hysbrydoli i hyfforddi mewn peirianneg a bod yn rhan o ddatrysiad ynni adnewyddadwy arloesol ar raddfa fawr ar gyfer y dyfodol.    

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ceri Crichton
Rhif Ffôn:
01646 405692
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.pembrokeshirecoastalforum.org.uk