Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£76810.00

1.    Cyflwyniad 

Crynodeb o'r Prosiect – Bwriad - y celfyddydau / newid hinsawdd / lles & digidol 

  • Nod ARTSCAPE yw ailfywiogi bywyd cymunedol drwy ailgysylltu pobl â'i gilydd, eu cymunedau a'r amgylchedd drwy rannu profiadau celfyddydol creadigol ar thema lles a Newid Hinsawdd. 
  • Mae lles unigolion, eu maeth diwylliannol, eu pryder am eu lleoedd a'u hanghenion i ymwneud â'u cymuned wrth wraidd ARTSCAPE. 
  • Bydd 'digwyddiadau' ARTSCAPE yn ail-danio'r celfyddydau ym Mhowys a sut rydym yn cyrraedd cymunedau gan ddefnyddio technoleg ddigidol, ail-ddychmygu sut rydym yn rhyngweithio â'r amgylchedd ac ailddeffro bywyd gwledig gan ddwyn pobl a natur yn agosach at ei gilydd. 
  • Bydd ARTSCAPE yn darparu'r 'lleoliad', yr adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen i archwilio ffyrdd beiddgar a newydd o weithio ar draws sectorau yn nhirwedd gymunedol Powys ar ôl COVID. 
  • Bydd ARTSCAPE, yn greadigol a thrwy'r celfyddydau, yn mynd i'r afael â'r themâu sydd bwysicaf yn fyd-eang, i ddynoliaeth ac yn lleol i gymunedau, nawr ac yn y dyfodol. 
  • Mae ARTSCAPE yn uno artistiaid, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol a chymunedau i gyd-guradu digwyddiadau creadigol cysylltiol yn yr amgylchedd naturiol, lleoliadau cymunedol a mannau gwyrdd mewn ffordd sy'n llawn cymhelliant a gwybodaeth fel y bydd unigolion a chymunedau'n barod i gyfranogi, cael eu hysbrydoli a'u cymell a'u hannog i fyfyrio ar newid hinsawdd a chymryd camau cadarnhaol.

Rydym yn ysbrydoli ac yn helpu ein cymuned:

  • Roedd ARTSCAPE yn cynnwys creu rhaglen o brofiadau a digwyddiadau celf greadigol cymunedol lleol ar thema’r amgylchedd mewn gofod ffisegol a digidol. 
  • Roedd ARTSCAPE yn gynghrair partneriaeth greadigol rhwng Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol Cyngor Sir Powys (fel arweinydd), Cyfoeth Naturiol Cymru, Impelo, 4Pi Productions ac Articulture yn cynnwys cysylltiadau a chymunedau celf lleol. 
  • Mae'r bartneriaeth wedi'i ffurfio i ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd llawn dychymyg i ysgogi ail-gysylltiad, ysgogi brwdfrydedd dros gymryd gofal o’r amgylchedd yn wyneb newid yn yr hinsawdd, a hyrwyddo lles pobl drwy brofiadau celf amgylchedd / seiliedig ar leoedd a rhithwir / digidol rhyng-gysylltiedig. • Darparwyd ARTSCAPE fel model partneriaeth gydweithredol greadigol.

2.    Her 

Fe wnaeth dechrau COVID ym mis Mawrth 2019 ac yna cau gweithgarwch cymunedol, fel yr oeddem yn ei adnabod, effeithio ar bob agwedd ar fywyd yn gyflym iawn, gan gynnwys diwylliant a'r celfyddydau. Gyda lleoliadau'n cau, gweithgarwch cyfranogi yn y celfyddydau cymunedol yn dod i ben a dim mynediad i ddigwyddiadau diwylliannol, perfformiadau a mannau celfyddydol - diflannodd manteision porthiant creadigol ar lefel bersonol a lefel y boblogaeth dros nos bron. Roedd artistiaid, cynhyrchwyr, gweithwyr proffesiynol y diwydiant creadigol a sefydliadau celfyddydau cymunedol yn wynebu datgysylltiad ar unwaith rhyngddyn nhw’u hunain fel cyflwynwyr diwylliannol a'r bobl y maen nhw'n cysylltu â nhw. Daeth pobl yn ynysig, fe wnaeth cymunedau gau i lawr, fe wnaeth unigrwydd ac iechyd meddwl gwael gynyddu mewn ardal sydd eisoes yn wledig ac yn anghysbell yn gymdeithasol yng Nghymru.

3.    Atebion 

Sefydlwyd ARTSCAPE fel ateb arbrofol i argyfwng cyfredol, ac nid oedd hyd a lled ei effaith barhaus yn hysbys ar y pryd (ac mae dal i fod yn ansicr hyd yma). Y prif nod oedd lliniaru'r cyfyngiadau llym a osodwyd ar symudiadau, rhyngweithio cymdeithasol a rhwystrau cymdeithasol pobl drwy fynd â'r broses o gynhyrchu a chyflwyno celfyddyd i'r amgylchedd awyr agored mewn modd diogel, lle gellid rheoli a chydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol a diogelwch, gan ganiatáu i bobl brofi ymarfer celfyddydol arloesol o ansawdd uchel mewn lleoliadau cefn gwlad a oedd yn llywio'r profiadau celfyddydol eu hunain.

4.    Budd 

Fe wnaeth pobl o bob oed gael budd o allu profi perfformiadau, digwyddiadau a chyflwyniadau celfyddydau creadigol hygyrch yn ddiogel yn eu cymunedau lleol gydag eraill (gan gadw pellter cymdeithasol ond wedi'u cysylltu drwy rannu profiad). Rhoddwyd ffenestr werthfawr i artistiaid wneud, creu, dychmygu a chydweithio ag ymarferwyr a chynulleidfaoedd/cyfranogwyr eraill a thrwy hynny ddatblygu eu hymarfer yn barod ar gyfer byd newydd. 

Roedd gan yr amgylchedd naturiol a'r Argyfwng Hinsawdd ran allweddol wrth lywio'r hyn a ysbrydolodd gwaith celf perfformiadol, gweledol, cymunedol, cyfranogol ac arbrofol i gael ei ddatblygu, ei greu a'i rannu - a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth o faterion hollbwysig.

5.    Canlyniad 

  • Treialu model partneriaeth prosiect newydd – celfyddydau – digidol – amgylchedd – cymunedau 
  • Cyflogi ymarferwyr artistiaid, sefydliadau celfyddydol a gweithwyr proffesiynol y diwydiant creadigol i ddatblygu eu harferion a'u proffesiynau mewn cymunedau ac ar gyfer cymunedau 
  • Cymunedau wedi'u hymgysylltu ac yn cael eu hysbrydoli gan arferion creadigol e.e. Puppet Soup, Glanio a'r Brecon Arts Collective lle'r oedd ymgysylltu yn ganolog i'r 'cyflwyniad gwaith celf’. 
  • Gwaddol y gwaith

Enghreifftiau: -

Artist sain ac ymarferydd cymunedol yw Matt Cook, sy'n angerddol dros helpu pobl i sylwi ar eu hamgylchedd a'i werthfawrogi. Mae'n aml yn dechrau prosiectau drwy gerdded drwy'r dirwedd, a defnyddio seiniau mae wedi'u casglu, siapiau a lliwiau er mwyn creu mapiau sonig-cinetig rhyngweithiol. Crëwyd 'Brecon Sound Forage' gyda chyfres o ryngweithiadau â'r adaregydd Andrew King, y Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a'r gweithwyr coed gwyrdd lleol, mewn ymateb i safle Island Fields yn Aberhonddu.

Yn gyfres o recordiadau maes a gasglwyd yn ystod yr hydref yn 2021, mae'r gwaith hwn yn dathlu, archifo a beirniadu bioamrywiaeth Island Fields yn Aberhonddu. Gosodwyd Brecon Sound Forage yn y Gaer yn ystod pythefnos Cop26 yn hydref 2021, gan gael ei chwarae allan o'r bocsys adar tu allan er mwyn creu seinwedd ymgolli. https://artscape.wales/cy/2021/12/21/matt-cook-2//

‘Mae 'Glanio' yn waith a ddyfeisiwyd ac a ddatblygwyd gan Marla King, Fin Jordão a Clara Rust. Fe'i perfformiwyd gyntaf yn Llyn Llandrindod fel taith dywys ymgolli, gan ddefnyddio coreograffi i archwilio themâu cof, colled a chysylltiad â lle. Dyfeisiwyd y perfformiad fel modd i’r cyhoedd ymgysylltu â'r newid yn yr hinsawdd, gan archwilio ein cysylltiad cynhenid â natur a darganfod posibiliadau a ddarperir gan sawl iaith. Cafodd hyn ei amseru i gyd-fynd â phythefnos Cop26 yn ystod hydref 2021.
Ni fyddai 'Glanio' wedi bodoli heb y canlynol: cyfieithiad Cymraeg creadigol gan Emyr Humphreys; seinwedd a grëwyd gan Jim Somniac gan ddefnyddio samplau sain penodol i safle; gwisgoedd a gafodd eu casglu’n ofalus a’u rhoi at ei gilydd gan Tegan James; cymorth Cai Tomos gyda'r coreograffi; darluniau ar fap y llwybr, arwyddion croesawu a chau wedi’u creu gan Suzy Bee gan ddefnyddio paent clai ecogyfeillgar, papur wedi'i ailgylchu a glud startsh tatws; y dawnswyr ychwanegol gwych Jodie Evans a Bethan Cooper. 

Mae Fin Jordão yn awdur, yn fiolegydd creadigol ac yn addysgwr ar ecoleg ddynol, sy'n ceisio ymgysylltu â'r corff cymdeithasol gyda thrafodaethau beirniadol am ormodedd, gwastraff a lluosrwydd gan ddefnyddio trosiadau materol. 

Mae Clara Rust yn artist amlddisgyblaethol, sy'n arbenigo mewn dawns a symud. Mae hi'n cymryd ymagwedd gyfannol, gan ddefnyddio'r corff dynol, natur, profiad a chysylltiad i greu ac arwain gweithdai. 

Mae Clara Rust hefyd yn rhan o'r Brecknock Arts Collective. 

Mae Marla King yn gweithio ar ei liwt ei hun fel artist dawns, cydweithredwr, eiriolwr cyfiawnder hinsawdd a chyflwynydd podlediad. Mae'n gweithio ar groesffordd rhwng cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol, gan ymgorffori'r celfyddydau fel modd i addysgu ac archwilio cysylltiad natur mewn ffordd fwy cynhwysol sy'n gweithio i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae Billie Ireland yn artist gweledol â’i gwaith wedi’i wreiddio'n ddwfn mewn darganfod, bregusrwydd a natur. Caiff ei denu at ddulliau ysbrydol, defodol ac aberthol o greu, gan fyfyrio'n aml ar bŵer bod yn fam a chysylltiad â lle.

Mae "The Source" yn brosiect celf dros dro penodol i safle mewn tair rhan; roedd 'The Barefoot Pilgrimage' yn daith i darddle Afon Hafren, i gasglu samplau dŵr o gorsydd mawn Pumlumon. Roedd cerdded yn droednoeth yn caniatáu i Billie Ireland gysylltu â'r fenyw sanctaidd a wêl yn y dŵr, yn ogystal â'r ffordd y mae'r tir wedi cael ei ddefnyddio'n hanesyddol fel safle claddu. 

Cafodd 'The Carbon Spiral' ei greu drwy fynd â phren wedi cwympo o Goedwig Hafren, ei droi'n bio-olosg, ac yna troi hwnnw'n baent a roddwyd wedyn ar ffurf troell ar foncyff coeden farw. Mae'n ffurfio totem sy'n myfyrio ar gylch genedigaeth, bywyd a marwolaeth. 

Yn 'Weaving Carbon Connection' cafodd patrwm gwehyddu Cymru ei dorri i'r dywarchen yn y ddôl yng Nghoedwig Hafren. Yna, cafodd ei lenwi â bio-olosg, fel symbol sy'n cysylltu lle a defnydd, a myfyrdod ar ddal a storio carbon.

Mae PuppetSoup yn gwmni theatr arobryn sy'n creu 'Pypedau. I bawb’. Maen nhw'n cynnig cyrsiau, dosbarthiadau a gweithdai yn ogystal â digwyddiadau a phrosiectau cymunedol. Mae PuppetSoup hefyd yn creu sioeau ar gyfer theatrau bach a mawr, ysgolion, mannau cymunedol, lleoliadau gwledig a gwyliau.

Cynhaliodd PuppetSoup gyfres o weithdai cymunedol yn Llanidloes a'r cyffiniau. Fe wnaeth cyfranogwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd archwilio, canfod ac ailgylchu deunyddiau i greu pypedau a datblygu eu sgiliau adrodd straeon. Yng Nghoedwig Hafren, nepell o Lanidloes, fe wnaethant adeiladu chwe llwyfan ar gyfer pypedau a gwahoddwyd cyfranogwyr y gweithdy i berfformio arnynt tra bod Cop26 yn datblygu yn ystod yr hydref yn 2021.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Lucy Bevan
Rhif Ffôn:
01597 827550
Email project contact