Gosodwyd arwydd Hollywood LLANRWST enfawr yng Nghoedwig Gwydir er mwyn nodi’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, ariannwyd y prosiect hwn gan Raglen Datblygu Gwledig Conwy - Conwy Cynhaliol.

Cafodd yr arwydd, sydd wedi bod ar ddangos yn y goedwig ers mis Gorffennaf ac wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ei dynnu i lawr yr wythnos diwethaf oherwydd bod ei drwydded cynllunio wedi dod i ben. Ond mae trigolion lleol bellach yn awyddus iawn i osod strwythur mwy parhaol yno.