- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
£51876.00
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae’r prosiect hwn ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb, Cynllun Busnes a Chynllun Gweithredu a bydd yn amlinellu rhwydwaith o academïau hyfforddiant dan arweiniad diwydiant ar gyfer y diwydiant twristiaeth ac a reolir gan y diwydiant twristiaeth. Mae Cam 1 yn Academi Beilot yn Sir Benfro a fydd yn creu templed i’w gyflwyno’n genedlaethol. Bydd rhwydweithio cenedlaethol a rhyngwladol yn allweddol, a bydd yn galluogi symudedd myfyrwyr, rhannu gwybodaeth ac ymarfer dda, cronfa cyflogaeth byd eang a chydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru. Cynlluniwyd yr academïau i fod yn llwybr galwedigaethol yn hytrach na llwybr academaidd at yrfa. Nid pawb sydd wedi’u hadeiladu ar gyfer amgylchedd ysgol ffurfiol a byddant yn fwy addas i fframwaith dysgu sydd wedi’i seilio ar waith. Rhaid i’r rheiny sydd yn mynychu’r coleg dreulio mwy o amser mewn amgylchedd dysgu galwedigaethol i’w cyfarparu ar gyfer y byd gwaith. Mae’r sgiliau ymarferol hyn yn hanfodol i’r diwydiant twristiaeth ac ar hyn o bryd ni ddarperir ar eu cyfer yn ddigonol gan y ddarpariaeth hyfforddiant ac addysg bresennol.
Canlyniadau'r Prosiect:
Cyflawnwyd camau cyntaf y prosiect ac yn llwyddiannus gyda chynhyrchwyd adroddiad manwl yn amlinellu sut y gellir cyflwyno'r academi. Mae'r tîm yn parhau i archwilio syniadau gyda chynllun hirdymor i sefydlu'r academi gan ddefnyddio model hyfforddi arloesol.
Penodwyd Miller Research gan Bluestone Resorts Ltd i amlinellu cyd-destun a gweledigaeth academi hyfforddiant twristiaeth a lletygarwch newydd yng Ngorllewin Cymru. ''Mae'r adroddiad hwn wedi dangos tuedd barhaus mewn twristiaeth tuag at fwy o brofiadau, chwilio am ddilysrwydd ac awydd am ôl-stori benodol ymhlith ymwelwyr. Felly mae cyfle i ddatblygu academi dwristiaeth sy'n adlewyrchu hyn; cynnig amrywiaeth o gyrsiau a modiwlau pwrpasol sy'n diwallu anghenion grwpiau allweddol o weithwyr, newydd-ddyfodiaid ac entrepreneuriaid ac, yn feirniadol, anghenion cyflogwyr yn y rhanbarth'. (Miller Research, Mehefin 2019).
''Er ein bod yn credu bod achos dros ddatblygu adeilad academi twristiaeth eiconig i gyflawni'r anghenion a nodwyd ac i ddarparu ffocws i'r diwydiant yn y rhanbarth, mae'n hanfodol cytuno ar ffurf, perchnogaeth a lleoliad hyn drwy ymgynghori ymhellach ar draws y sector a chyda phartneriaid'.
Gwersi a Ddysgwyd:
Mae'r prosiect yn dweud wrthym y gallai eu hamserlen wreiddiol fod wedi bod yn rhy uchelgeisiol ac efallai bod y pwyllgor wedi bod yn rhy fawr a arweiniodd at heriau wrth wneud penderfyniadau.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Emma Davies
- Rhif Ffôn:
-
01834 862440
- Cyfeiriad e-bost:
- edavies@bluestonewales.com
- Email project contact