Lleoliad:
Castell-nedd Port Talbot
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£20000.00

Hyrwyddo Cludiant Cyhoeddus i Gefn Gwlad

Dechreuodd y prosiect ar 1 Chwefror 2016 yn dda gyda thaith maes i fyfyrwyr twristiaeth a ddefnyddiodd y bws X55 ar eu hantur arbennig i'r rhaeadr Sgwd Gwladus ym Mhontneddfechan. Wedi'i hysbrydoli gan 2016: Blwyddyn Antur Croeso Cymru, dechreuodd BayTrans y thema ‘Bws i Antur’ a chysylltu â bysus First Cymru i hyrwyddo teithio ar ei lwybrau ‘Clipiwr Cymru’ o Abertawe a Chastell-nedd i Gymoedd Nedd a Dulais, sy'n enwog am dreftadaeth, rhaeadrau a llwybrau cerdded.

Mae gwefan BayTrans http://www.swanseabaywithoutacar.com/ yn cael ei diweddaru'n gynhwysfawr, yn enwedig gyda gwybodaeth am lwybrau cerdded diddorol yn ardaloedd gwledig Castell-nedd Port Talbot. Meddai John Davies, Swyddog Partneriaeth BayTrans,

“Mae'r wefan yn rhoi cefnogaeth farchnata helaeth i lwybrau bws lleol a byddwn yn rhoi gwybod i fusnesau yn y wardiau gwledig trwy ein e-gylchlythyrau i'w cynnwys yn y prosiect. Rwyf wedi ymweld â thros 14 o randdeiliaid a sefydliadau ers dechrau'r prosiect i drafod sut gallai cludiant cyhoeddus fod yn berthnasol i'w busnesau, gan roi gwybodaeth am drafnidiaeth leol; a dosbarthu amserlenni bws i amrywiaeth llawer ehangach o fusnesau.”

Mae John yn mynd ymlaen i esbonio,

“Mae dros 130 o gysylltiadau yn ein cronfa ddata a fydd yn cael e-gylchlythyrau a negeseuon rheolaidd. Mae strategaeth marchnata a chynllun marchnata penodol i'r ardal yn cael eu cyflwyno i ardaloedd Castell-nedd a Dulais ar y cyd â ‘Bws i Antur’.”

Be nesaf?

“Mae cynllun newydd ar gyfer enwebu llwybrau cerdded addas yn cael ei lunio ac, ar y cyd â llwybrau cerdded BayTrans, maen nhw'n cael eu dylunio'n benodol i apelio at ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus. Mae ein llwybrau cerdded cyffrous wedi'u hadolygu a'u diwygio lle y bo angen ac mae dau lwybr cerdded newydd – Parc Jersey Llansawel i Efail Fach a Phont-rhyd-y-fen, a Glyncorrowg i'r Cymer, wedi'u tirfesur a thynnwyd lluniau ohonyn nhw'n ddiweddar gyda golwg ar eu hychwanegu at y wefan yn fuan. Mae gennym gynlluniau i ychwanegu mwy o lwybrau cerdded newydd yn y dyfodol.”

“Rydym hefyd yn datblygu cynlluniau marchnata ar gyfer ardaloedd Afan/Margam ac Abertawe/Aman, gyda golwg ar gysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau yn yr ardaloedd hynny. Bydd ‘Bws i Antur’ yn cael ei estyn yn fuan i gynnwys Parc Margam a Pharc Coedwig Afan.”

Gyda rhaglen yn yr arfaeth ar gyfer datblygu gwybodaeth ddigidol a phrint er mwyn i fusnesau lleol gael y data trafnidiaeth diweddaraf ar gyfer eu hymwelwyr, mae'n addo bod yn adeg brysur a diddorol i BayTrans.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
John Davies
Rhif Ffôn:
07967 389329
Email project contact