Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£127607.00

Cyflwyniad

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd bum partner i gydweithio i sefydlu Clwstwr Sgiliau Cynaliadwyedd ar gyfer Powys. 

Bydd y Clwstwr yn triongli tri o gryfderau'r sir er mwyn creu USP a fydd o fudd i gyflogwyr, dysgwyr a'r economi ehangach. 

Mae gan Goleg Castell-nedd Port Talbot ddwy ganolfan yn y sir sy'n darparu sgiliau galwedigaethol. Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) enw da byd-eang ar gynaliadwyedd. Mae Cwm Harry a Choleg y Mynydd Du yn arloesi mathau newydd o hyfforddiant yn y gymuned sy'n addasu ac yn mabwysiadu cwricwla galwedigaethol sy’n bodoli eisoes i ehangu mynediad at gyfleoedd hyfforddi mewn cymunedau gwledig. 

Nod y prosiect yw cyfuno'r tri chryfder hyn i archwilio dichonoldeb creu un porth ar gyfer sgiliau cynaliadwy ym Mhowys gydag amrywiaeth o gyrsiau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â busnes ac amaethyddiaeth gyda chymorth Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth a Ffermwyr Ifanc Cymru, a'u darparu mewn sawl safle ar draws y sir. 

Her

Rydym yn wynebu problem sylfaenol driphlyg:

  • Yn gymdeithasol rydym yn colli ein cenhedlaeth iau o Bowys gan nad oes digon o gyfleoedd i'w cadw yma. Ac nid oes digon o lefydd i ddysgu sgiliau perthnasol.
  • Yn amgylcheddol, rydym yn wynebu argyfwng deuol o ran y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, gyda'r effeithiau yn fyd-eang ac yn lleol.
  • Yn economaidd mae angen economi hyfyw arnom, ond un yn seiliedig ar ymateb i heriau amgylcheddol a darparu mwy o gyfleoedd. 

Atebion

Mae sgiliau – sgiliau cynaliadwy – yn un ffordd o fynd i'r afael â'r tri mater ac aeth y prosiect hwn ati i archwilio beth oedd yr angen a sut gellid ei ddiwallu drwy gydweithrediad o bum sefydliad a phob un ohonynt yn ymwneud â datblygu sgiliau a / neu fentrau.

Budd

Drwy waith ymchwil ffurfiol a datblygu'r cwricwlwm yn ymarferol gyda gwaith treialu cysylltiedig ym meysydd adeiladu (ôl-osod) a rheoli tir (garddwriaeth adfywiol), rydym yn gwybod bod yr angen yn aruthrol ac y gallwn ddechrau diwallu'r angen hwnnw.
Ar hyd y ffordd, roedd amrywiaeth eang o fuddion, partneriaethau a mentrau ategol yn ymwneud â'r gwaith, yn ei ysgogi, neu'n ei gychwyn hyd yn oed, i gyd yn ychwanegu at y dystiolaeth o angen a chyfle. 

Canlyniad

  • Er i’r prosiect wynebu oedi ac anawsterau, cyflawnodd ei weithgareddau craidd, er fel gyda'r rhan fwyaf o brosiectau, byddai mwy o amser wedi bod yn fuddiol. 
  • Yn llawn mor bwysig, roedd yn cysylltu ag amrywiaeth eang o fentrau ategol yn y maes hwn, yn eu hysgogi ac ar adegau yn eu cychwyn, gan ddod â gwerth ychwanegol sylweddol.
  • Er na wnaeth y prosiect ganfod ffordd hyfyw o gynnal Clwstwr Sgiliau Cynaliadwy ffurfiol tymor hwy o fewn yr amserlen dynn; mae'r ymchwil, canfyddiadau'r prosiect a'r partneriaid sy'n cymryd rhan i gyd yn cytuno bod yr angen am sgiliau cynaliadwy yn parhau'n sylweddol ac mae'r cyfle i gydweithio – i wneud y cyfanbeth yn fwy na chyfanswm ei rannau – yn dal i fod yn bresennol. 
  • Ac mae'n debyg ei fod yn fwy taer nag erioed wrth i'r argyfwng hinsawdd gynyddu ac wrth i'r angen i sefydlu economi fwy gwydn dyfu. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ceri Stephens
Rhif Ffôn:
01686 628 778
Email project contact