Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£8107.00

1.    Cyflwyniad 

Mae Ynni Lleol yn fodel cyflenwi ynni sy'n galluogi defnyddwyr i brynu'r trydan gan rai sydd â generaduron ynni adnewyddadwy bach sy'n lleol iddynt, drwy drefniant gyda'u cwmni cyflenwi ynni. Mae generadur a grŵp o ddefnyddwyr yn ffurfio cwmni cydweithredol o'r enw Clwb Ynni Lleol. Mae'r Clwb hwn wedyn yn gwneud trefniant gyda chwmni cyflenwi ynni sy'n prynu'r trydan gan y generadur ac yn ei werthu i aelodau'r Clwb. Ar gyfer unedau o drydan a ddefnyddiwyd yn ystod yr un cyfnod awr ag y cânt eu cynhyrchu ynddo, gellir 'paru' y rhain drwy ddefnyddio mesuryddion clyfar. Mae'r unedau cyfatebol hyn yn cael eu prynu gan y defnyddwyr am bris y cytunwyd arno, sydd fel arfer tua hanner y gost arferol. Mae'r generadur hefyd yn derbyn pris uwch ar gyfer yr uned gyfatebol. Mae'r strwythur Ynni Lleol o fantais i bawb; costau is i'r defnyddwyr a mwy o incwm i'r cynhyrchydd.

2.    Her 

Mae nifer o elfennau technegol y mae angen eu hasesu cyn y gellir ffurfio Clwb. Yn gyntaf, rhaid i'r generadur a'r defnyddwyr fod o fewn yr un ardal a gyflenwir gan is-orsaf drydan. Mae hyn yn diffinio'r ardal y gall Clwb weithredu ynddi. Yn ail, mae angen i'r generadur gynhyrchu digon o unedau wedi’u hallforio o drydan i wasanaethu nifer o ddefnyddwyr. Os nad oes digon o allforio ar gael, ychydig iawn o fudd ariannol sydd i'r generadur a dim ond ychydig o ddefnyddwyr sy’n gallu cymryd rhan ac mae hyn yn annhebygol o wneud clwb llwyddiannus. Yn olaf, mae angen cryn dipyn o waith i ffurfio Clwb. Mae'n hanfodol y gellir annog generadur i ddod yn rhan o'r cynllun ac mae angen craidd o ddefnyddwyr lleol i greu clwb gweithredol, recriwtio aelodau sy'n ddefnyddwyr, ymdrin ag ymholiadau, cynorthwyo'r generadur a chofrestru'r Clwb fel cwmni cydweithredol.

3.    Atebion 

Mae Ynni Lleol yn dibynnu ar y tair elfen uchod; diffinio ardal y Clwb; dod o hyd i’r generadur; a chreu rhwydwaith i ddatblygu'r Clwb. Byddai clybiau'n cael eu ffurfio ar sail y cyntaf i'r felin, felly pe gallem asesu'r sir gyfan, byddai cymunedau Powys mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y buddion. Ein hateb oedd: Defnyddio ein harbenigedd a'r wybodaeth sydd ar gael gan weithredwr y rhwydwaith trydan, i fapio ffiniau'r clwb gan fod y rhain yn cael eu diffinio gan leoliad is-orsafoedd. Chwilio cronfeydd data sydd ar gael yn gyhoeddus i gael gwybodaeth am generaduron ynni adnewyddadwy wedi'u gosod a gosod y rhain o fewn ardal clwb. Ar gyfer yr ardaloedd hynny lle’r oedd generaduron addas, ffurfio rhwydwaith o generaduron a chymunedau lleol, a fyddai'n gallu cynorthwyo i wthio’r cwch i’r dŵr gyda datblygiad Clwb Ynni Lleol.

4.    Budd 

Mae'r generaduron lleol yn elwa drwy gynyddu'r incwm o'r trydan maent yn ei allforio. Efallai y byddant yn mwynhau'r gallu hefyd i gefnogi defnyddwyr lleol ac yn teimlo bod gan eu generadur fudd lleol ehangach. Mae defnyddwyr lleol yn elwa o brisiau trydan is, pan mae modd iddynt ddefnyddio unedau cyfatebol. Er mwyn sicrhau'r budd mwyaf, bydd angen i lawer o ddefnyddwyr feddwl yn fwy gofalus am y ffordd y maen nhw'n defnyddio trydan ac addasu eu hymddygiad.

5.    Canlyniad 

Ar ôl y rhaglen beilot llwyddiannus Ynni Lleol, roeddem wedi disgwyl y byddai Clwb Powys gweithredol erbyn dechrau 2019. Yna byddem yn defnyddio hwn fel model i sefydlu generaduron a ffurfio rhwydweithiau lleol. Fodd bynnag, roedd angen mynd i'r afael â nifer o rwystrau rheoleiddiol a oedd yn gohirio'r broses o ffurfio'r Clybiau cyntaf. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd recriwtio generaduron a ffurfio rhwydweithiau yn yr amser oedd ar gael. Fodd bynnag, cwblhawyd y mapio heb broblem. Roedd chwilio am generaduron yn cynhyrchu llawer mwy o ddata na'r disgwyl ac mae mwy o generaduron posibl ym Mhowys na'r disgwyl. Un peth a fydd yn cyfyngu ar y datblygiad yw bod llawer o'r systemau PV solar mwy yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer Clwb gan mai potensial allforio cyfyngedig iawn sydd ganddynt yn ystod y gaeaf - dim ond yr amser y mae llawer o alw am ynni gan y defnyddwyr. Mae generaduron gwynt a hydro yn llawer gwell gan fod y cyfnodau o allbwn mwyaf yn cyfateb i gyfnodau'r galw uchaf. 

Rydyn ni wedi cynhyrchu astudiaeth ddichonoldeb sy'n cwmpasu'r sir gyfan, a bydd hyn yn golygu y gellir datblygu Clybiau Ynni Lleol yn y dyfodol gan ei bod yn cynnwys asesiad o bob parth ynni o ran y generaduron sydd ar gael a'r tebygolrwydd o allu ffurfio clwb gweithredol, llwyddiannus. Rydyn ni’n gwybod pa feysydd i'w targedu ar gyfer hyrwyddo Ynni Lleol yn y dyfodol ac o ran cysylltiadau posibl â generaduron.
 

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Gareth Price
Rhif Ffôn:
01597 827378
Email project contact