Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£2397.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Mae'r prosiect yn gam cyntaf yr ymgais i wella effeithlonrwydd adeiladau cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd.  

  • Meincnodi y defnydd o drydan mewn hyd at 15 o adeiladau cymunedol ledled pob Sir  
  • Addysgu pobl sut i reoli yr adeiladau sy'n cymryd rhan o ran patrymau defnyddio a monitro a yw hyn yn arwain at leihad mewn defnydd a chostau cysylltiedig.

Yna byddwn yn gweithio gyda'r grwpiau i gael Archwiliadau Effeithlonrwydd Adnoddau Cymru o'r adeiladau. Mae'r archwiliadau hyn yn nodi ffyrdd o arbed ynni a dŵr. Byddwn hefyd yn helpu 5 adeilad solar ffotofoltaig, i fonitro patrymau mewnbwn ac allforio. Yna byddwn yn gweithio gyda'r adeiladau hyn i newid patrymau ymddygiad i wneud y defnydd gorau o gynhyrchu adnewyddadwy ar y safle, h.y. gwresogi dŵr yn ystod cynhyrchu ar oriau brig. Yn olaf, byddwn yn cydweithio â'r grwpiau i gael mynediad at gyllid i roi unrhyw newidiadau ar waith.  Byddwn yn edrych ar ffynonellau megis yr Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig a chyllid y Loteri. Gellid datblygu prosiectau adnewyddadwy a defnyddio ynni'n effeithlon yn y gymuned o ganlyniad i'r prosiect.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Bydd yn helpu'r rhai hynny sy'n rhedeg adeiladau cymunedol i ddeall eu biliau ynni yn well.  

Pwy ddylai elwa ar y prosiect?

Adeiladau Cymunedol.

Beth oedd canlyniad y prosiect?

Mae'r prosiect yn gam cyntaf yr ymgais i wella effeithlonrwydd adeiladau cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd.
Y prosiect:

  • Meincnodi y defnydd o drydan mewn hyd at 15 o adeiladau cymunedol ar draws bob Sir 
  • Addysgu ar y dull o reoli yr adeiladau sy'n cymryd rhan o ran patrymau defnyddio a monitro ac yw hyn yn arwain at leihad yn y defnydd a chostau cysylltiedig. 
  • Gweithio gyda'r grwpiau i gael Archwiliadau Defnyddio Adnoddau'n Effeithiol Cymru o'r adeiladau.  Mae'r archwiliadau hyn yn nodi ffyrdd y gellid arbed ynni a dŵr.  
  • Helpu 5 o adeiladau gyda solar ffotofoltaig i fonitro patrymau mewnbwn ac allforio. Rydym wedi gweithio gyda'r adeiladau hyn i newid patrymau ymddygiad i wneud y defnydd gorau o gynhyrchu adnewyddadwy ar y safle, sef gwresogi dŵr yn ystod cynhyrchu oriau brig.   
  • Gweithio gyda'r grwpiau i gael mynediad i gyllid i weithredu unrhyw newidiadau.  Edrychwyd ar ffynonellau megis y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig a chyllid y Loteri.

Sut y dechreuodd y prosiect

Cyflwynwyd galwad agored i wahodd grwpiau i enwebu eu hadeilad ar gyfer monitor.  Roedd yr alwad agored yn golygu creu datganiad i'r wasg yn rhoi manylion y prosiect, yn amlinellu'r manteision posibl ac yn galw ar gynnig adeiladau cymunedol i gymryd rhan.  Cafodd yr wybodaeth ei chyhoeddi hefyd ar-lein ar wefan Cadwyn Clwyd a'r Cyfryngau Cymdeithasol, megis Facebook a Twitter.

Roeddem yn ceisio defnyddio amrywiol adeiladau oedd wedi'u hadeiladu yn wahanol a chanddynt ddefnydd gwahanol.
Cafodd pob adeilad fesurydd trydan a dangoswyd iddynt sut i'w ddefnyddio.

Yna roedd y data yn cael ei gasglu o bob monitor dros gyfnod o ddeuddeg mis. Roedd y monitorau oedd yn cael eu defnyddio yn casglu data y gellid ei lawrlwytho i feddalwedd oedd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddadansoddi faint o ynni a ddefnyddiwyd.

Roedd y cam cyntaf yn helpu cymunedau i ddeall faint o ynni oeddent yn ei ddefnyddio gan roi meincnod i fesur gwelliannau yn y dyfodol yn ei erbyn.  
Roedd y prosiect yn defnyddio dull LEADER mewn sawl ffordd:

  • Roedd y Swyddog Prosiect yn gweithio'n uniongyrchol gyda grwpiau cymunedol.  Roedd camau gweithredu ac atebion penodol wedi'u trefnu gyda'r grwpiau hyn ar gyfer eu gofynion lleol. Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio ar lawr gwlad.
  • Wrth weithio gyda grwpiau cymunedol, roedd Swyddog y Prosiect yn cynyddu capasiti gwirfoddolwyr
  • Roedd y cymunedau yn chwarae rhan egnïol yn canfod camau gweithredu ac atebion, gan ychwanegu at y data a grëwyd o'r prosiect i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
  • Mae prosiectau peilot, yn profi dulliau a thechnolegau newydd ar gyfer defnyddio ynni'n effeithlon, wedi'u trefnu drwy'r prosiect a'u darparu i adeiladau cymunedol sy'n cymryd rhan.
  • Gall adeiladau cymunedol gymharu data - gan ddangos gweithio mewn partneriaeth cryf.
  • Bydd cefnogi adeiladau cymunedol yn y ffordd yma a helpu iddynt leihau eu costau yn eu gwneud yn fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen.


Canlyniadau'r prosiect

  • Nifer y gweithgareddau Peilot a gynhaliwyd (dulliau newydd/cynnyrch newydd/prosesau newydd/gwasanaethau newydd) / Nifer y gweithgarwch Peilot a gynhaliwyd (dulliau newydd/cynnyrch newydd/prosesau newydd/gwasanaethau newydd) = 1
  • Nifer y camau gweithredu dosbarthu gwybodaeth ac/neu weithgareddau marchnata a gynhaliwyd / nifer y camau dosbarthu gwybodaeth /hyrwyddo ac/neu weithgareddau marchnata a gynhaliwyd = 1
  • Nifer y Cyfranogwyr a gefnogwyd / Nifer y Cyfranogwyr a gefnogwyd = 15
     

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Silas Jones
Rhif Ffôn:
01490 340500
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.cadwynclwyd.co.uk