Lleoliad:
Ceredigion
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£17507.00

Disgrifiad o’r Prosiect:

Mae Coleg Ceredigion, mewn cydweithrediad â'r Weinyddiaeth Arloesi Adeiladu ac Addysg, yn gweithio gyda'r sector adeiladu (yng Ngheredigion i ddechrau) mewn astudiaeth ddichonoldeb i adnabod bwlch sgiliau a dadansoddi a datblygu dulliau newydd o weithio i fodloni'r gofynion cynyddol yn y sector adeiladu.

Mae’r prosiect yn anelu at deall y bwlch sgiliau presennol o fewn cwmnïau adeiladu sy'n gweithio yng Ngheredigion, llunio cwricwlwm newydd ar gyfer y sector adeiladu trwy weithio gyda'r Weinyddiaeth Arloesi Adeiladu ac Addysg a Pearson, ysgogi ffyrdd newydd o feddwl gyda'r nod o drawsnewid adeiladu tai mewn i broses effeithlon a manwl a datblygu profiad gwaith a chyflogaeth ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r ystod newydd o gymwysterau.

Bydd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys nodi bwlch sgiliau ac archwilio ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi, cyflogi ymgynghorydd i ddatblygu holiadur ar y cyd â'r coleg, gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth gyda'r Sefydliad i ddatblygu cyrsiau Lefel 3 i ategu at eu cyfres bresennol o ddarpariaeth AU, bydd cynhadledd adeiladu yn cael i drefnu i crynhoi a rhannu gofynion y sector, er mwyn hysbysu'r diwydiant o'r hyn y mae busnesau ei angen a sut y gellir ei gyflawni a chreu adroddiad terfynol dwyieithog i sicrhau y rhennir y data yn unol, â hynny gyda'r ddogfen yn cael ei defnyddio i ddatblygu cwrs Lefel 3.

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Cyflwyniad a Chyd-destun Yn 2019, penodwyd Perspectif gan Goleg Ceredigion i gynnal ymgynghoriad gyda busnesau adeiladu, rhanddeiliaid a myfyrwyr allweddol er mwyn ennill dealltwriaeth ddyfnach o faterion ac anghenion sgiliau'r sector lleol.   

Amcanion yr ymgynghoriad oedd:

  • Ennill dealltwriaeth dda o anghenion sgiliau y busnesau adeiladu lleol 
  • Adnabod sut y gellir cryfhau cysylltiadau rhwng y coleg a busnesau er sicrhau datblygiad cyrsiau a set-sgiliau priodol ar gyfer myfyrwyr sy'n graddio 
  • Deall cymhellion bobl ifainc sy’n dewis adeladu fel gyrfa  
  • Deall anghenion yr iaith Gymraeg yn y gweithle 
  • Adnabod y cyfleoedd sy'n amlygu o fewn y sector adeiladu yng Ngheredigion

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Busnesau adeiladu, rhanddeiliaid a myfyrwyr

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Mae'r ymchwil yn dangos, er bod yna rai elfennau llwyddiannus o ran cyflwyno'r rhaglen brentisiaeth, byddai cydweithio agosach rhwng y sectorau adeiladu a darparwyr addysg yn eu gwella’n sylweddol. 

Mae'r ymgynghoriad yn nodi tri maes allweddol y mae angen eu datblygu:

  • Prinder Sgiliau 
  • Parodrwydd At Waith 
  • Adeiladu Cysylltiadau  

A. Prinder sgiliau 
 
Mae cyfran sylweddol o fusnesau sy'n profi prinder sgiliau, yn dweud eu bod yn chwilio am recriwtiaid â sgiliau arbenigol i ymuno â'u cwmni. Fel arfer maent yn chwilio am brofiad a'r gallu i ymgymryd â gwaith heb oruchwyliaeth ochr yn ochr â meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Mae'n ymddangos bod bwlch sylweddol rhwng yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant a’r sgiliau sydd ar gael ar hyn o bryd. Er na fydd prentisiaethau a chyrsiau arbenigol yn mynd i'r afael â'r angen hwn ar unwaith, fe fyddant yn sicrhau bod cyflenwad o'r sgiliau sydd eu hangen ar gael yn y dyfodol. Serch hynny, mae angen rhywbeth sy'n pontio'r bwlch er mwyn helpu newydd-ddyfodiaid i'r sector ddatblygu sgiliau arbenigol i’w galluogi i ddiwallu anghenion busnesau. Mae’r rhanddeiliaid yn awgrymu y dylid cyflwyno modwlau arbenigol i'r cwricwlwm a fyddai’n galluogi'r gweithlu presennol i uwchsgilio yn ogystal â chynnig mwy o ddewis i ddysgwyr newydd.  
 
Mae busnesau hefyd yn pwysleisio'r angen am sgiliau sylfaenol cadarn. Mae angen i brentisiaid feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol ond cadarn o dechnegau ac offer adeiladu cyn mynd i'r gweithle. Mae'r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod newydd-ddyfodiaid i'r gweithle yn brin o sgiliau sylfaenol, rhai personol a’r rhai sy’n gysylltiedig â'r sector, sy'n arafu eu cynnydd yn y gwaith. Mae llawer o fusnesau yn profi lefel gwael o addysg yn eu recriwtiaid ifainc newydd ac yn pwysleisio bod sgiliau rhifedd ac iaith yn hanfodol ar gyfer y gweithle a bod angen gwella'r rhain er mwyn gwella eu parodrwydd at waith.  
 
Mae hyn yn sylfaenol gan sicrhau bod y cysyniad o gyflogi prentisiaid yn gweithio'n dda i fusnesau. Bydd yn sicrhau bod gan recriwtiaid newydd y sgiliau sylfaenol a’r gallu i gyflawni tasgau syml yn syth.  
 
B. Parodrwydd at waith 
 
Gyda mwyafrif y busnesau sydd wedi cyflogi prentisiaid yn dweud nad yw’r bobl ifainc yn barod ar gyfer y gweithle (y sgôr cyfartalog yw 5.3 allan o 10),  mae mwy y gellir ei wneud i baratoi dysgwyr ar gyfer eu lleoliadau. Mae diffyg parodrwydd at waith yn cael ei gysylltu’n agos â phrinder sgiliau, ac mae busnesau unwaith eto yn tynnu sylw at y ffaith mai diffyg sgiliau sylfaenol yw’r broblem fwyaf.  
 
Yn fwyaf nodedig, mae busnesau'n awgrymu y byddai lefelau gwell o... 
 

  • Addysg sylfaenol – rhifedd, sgiliau iaith/cyfathreb a datrys problemau  
  • Sgiliau sylfaenol adeiladu, a
  • Dealltwriaeth dda o’r offer sylfaenol   
  • ...yn gwella parodrwydd at waith y prentisiaid yn sylweddol.  

Mae busnesau hefyd yn nodi bod y diwylliant gwaith yn dipyn o sioc i lawer o bobl ifainc ar y dechrau, yn enwedig yn y sector adeiladu lle mae disgwyl iddynt weithio oriau hir ac ym mhob tywydd. Mae agweddau penodol megis parodrwydd i ddysgu a dibynadwyedd yn nodweddion hanfodol a theimlir y dylai'r Coleg wneud mwy i baratoi myfyrwyr ar gyfer realiti’r sector adeiladu.  Er mwyn i'r prentisiaid gyrraedd eu potensial a sicrhau'r buddion gorau posibl iddynt hwy eu hunain ac i'r busnesau rhaid i fyfyrwyr ennill y sgiliau hyn cyn mynd i'r gweithle. Gyda'r sylfaen hon ar waith byddent mewn gwell sefyllfa i ymdopi â gofynion eraill y gweithle a chwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus. 
 
C. Adeiladu Cysylltiadau 
 
Cwmnïau adeiladu bach sy'n dominyddu'r sector yng Ngorllewin Cymru ond eto i gyd nid ydynt yn teimlo bod ganddynt berthynas â'r sector addysg. Yn ôl y cyfweliadau y dybiaeth ymysg y cwmnïau yw fod mwy o gysylltiad rhwng y sector addysg a’r cwmnïau mawr. Mae'r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith nad oes gan fusnesau meicro fawr ddim cysylltiad â'r coleg ar hyn o bryd. Maent yn awyddus i weld hyn yn newid a byddent yn croesawu cyfleoedd i weithio gyda'r coleg.  
 
Mae yna ddigon o sgôp i fwy o ryngweithio rhwng busnesau a'r coleg. Awgrymwyd creu grwpiau llywio dan arweiniad cyflogwyr i helpu i lunio'r cwricwlwm yn unol ag anghenion busnesau, diwrnodau agored i annog mwy o ryngweithio rhwng y coleg a busnesau a chyfathrebu uniongyrchol â busnesau fel ffyrdd o gynyddu ymgysylltiad â'r sector.  
 
Cydnabyddir hefyd y gallai gwella cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol ledled Gorllewin Cymru helpu i sicrhau bod cynnig Coleg Ceredigion yn unol â thueddiadau a blaenoriaethau ehangach y sector gan ei gadw'n berthnasol ac ar gof y sefydliadau sy'n gweithio yn y sector yn ddyddiol.  

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Cynnal y Cardi
Rhif Ffôn:
01545 572063
Email project contact