Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£49400.00

1.    Cyflwyniad 
 

Nod cyffredinol y prosiect oedd ychwanegu at gynaliadwyedd y dref, sy'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth am ei hincwm drwy wneud y canlynol: 

  • Cynyddu nifer yr ymwelwyr i'r dref 
  • Annog y rhai sy'n ymweld â'r dref i aros, neu aros yn hirach 
  • Datblygu cynnig Trefaldwyn i gynnwys gweithgareddau strwythuredig, yn seiliedig ar dreftadaeth naturiol ac adeiledig yr ardal 
  • Darparu cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig yn y dref ddatblygu 
  • Annog busnesau newydd i ddiwallu anghenion sydd heb eu diwallu ar hyn o bryd 

Cynlluniwyd nifer o gamau gweithredu er mwyn cyflawni'r amcanion hyn: 

Cyflogi Swyddog Datblygu - Drwy’r prosiect, cafodd Swyddog Datblygu ei gyflogi i gydlynu gweithgareddau gan annog mwy o dwristiaeth a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r hyn y mae Trefaldwyn yn ei gynnig fel cyrchfan. Roedd cylch gwaith y swyddogion datblygu yn cynnwys cyflawni'r canlyniadau penodol canlynol: 

  • Datblygu Trefaldwyn fel lleoliad priodas a dathlu o ddewis. 
  • Datblygu cynnig Neuadd y Dref 
  • Digwyddiadau – datblygu rhaglen o atyniadau a digwyddiadau. 
  • Prosiect twristiaeth cynaliadwy. 

Datblygu Trefaldwyn fel lleoliad priodas unigryw. Mae'r Dref a'r ardal gyfagos yn gyfle unigryw i'r rhai sy'n chwilio am briodas sy'n wahanol i'r pecynnau masnachol a chorfforaethol sydd ar gael o westai a lleoliadau priodas confensiynol, neu rywbeth mwy na phrofiad "Canolfan Gymunedol.” Byddai priodasau yn rhoi cyfle i gynyddu ymwelwyr dydd a’r rhai sy’n aros dros nos yn ogystal â rhoi ffynhonnell incwm i nifer o fusnesau lleol presennol a newydd. 

Datblygu Cynnig Neuadd y Dref - Mae'r Neuadd y Dref Sioraidd yn tra-arglwyddiaethu canol Trefaldwyn ac mae'n rhan allweddol o ddelwedd y brand. Yn draddodiadol, mae'r adeilad wedi bod wrth galon gweithgarwch cymunedol a chydlyniant ers iddo gael ei adeiladu ym 1748. Yn ogystal â'r defnydd presennol o'r lleoliad hwn, gan gynnwys priodasau, mae lle i ddatblygu ymhellach, ac mae'r gwerth ychwanegol y byddai hyn yn ei gynnig i'r economi leol yn ganolbwynt allweddol i'r prosiect. Mae Neuadd y Dref yn darparu cyfleuster deniadol i gynnal nifer o ddigwyddiadau. Fodd bynnag, bydd yn cael ei wella'n sylweddol yn ei ddatblygiad fel lleoliad perfformio llwyddiannus drwy ddarparu gwell mynediad a chyfleusterau toiled i bobl anabl, ynghyd â gwell acwsteg, er mwyn bodloni safonau disgwyliedig cynulleidfaoedd modern. Mae yna bosibilrwydd hefyd y gellid datblygu Neuadd y Dref ymhellach i'w defnyddio fel lleoliad hyfforddi / cynhadledd a byddai hyn yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig lleol gynnig lletygarwch a gwasanaethau eraill ar gyfer digwyddiadau o'r fath. 

Datblygu Rhaglen o atyniadau a digwyddiadau - Dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhaglen o ddigwyddiadau wedi datblygu. Mae llawer o'r digwyddiadau cymunedol hyn, fel y Ffair Stryd yr Haf, yn cael eu rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr lleol ac maen nhw’n denu nifer sylweddol o ymwelwyr. Mae eraill, gan gynnwys er enghraifft, perfformiadau cerddorol o'r safon ryngwladol uchaf, yn annog math gwahanol o ymwelwyr â'r dref. Fodd bynnag, mae'r rhain wedi datblygu mewn ffordd ad hoc, fel y gall fod nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn weddol agos at ei gilydd, a rhai cyfnodau arwyddocaol lle nad oes digwyddiadau o gwbl. Byddai'r prosiect yn cefnogi'r gwaith o gydlynu'r digwyddiadau hyn er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu gwasgaru'n fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn, ac yn gweithio ar gyflwyno digwyddiadau ychwanegol a fyddai'n denu gwahanol fathau o gynulleidfaoedd / ymwelwyr ac yn ategu'r datblygiadau eraill. Byddai hyn yn cynnwys gwyliau cerdded / beicio arbenigol, a hefyd o leiaf un digwyddiad mawreddog mwy o faint, (e.e. ail-greu Brwydr Trefaldwyn) 

Prosiect Twristiaeth Cynaliadwy – 'LLWYBRAU TREFALDWYN’ - Mae'r elfen hon yn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi'i ddechrau a'i ddatblygu mewn ffordd fwy cydlynol a chydweithredol; mae rhai llwybrau beicio a llwybrau cerdded yn bodoli ar hyn o bryd, ar ôl cael eu datblygu gan ddau grŵp ar wahân a'u hyrwyddo ar wahân. Byddai'r prosiect yn annog twristiaeth awyr agored weithredol trwy ddod â'r llwybrau cerdded a beicio o amgylch Trefaldwyn at ei gilydd a hefyd cyflwyno llwybrau newydd gyda thema benodol. Bydd y prosiect yn cydlynu'r wybodaeth bresennol, ac yn datblygu llwybrau newydd, wedi'u brandio ar gyfer diddordeb arbenigol, e.e. llwybrau cerdded treftadaeth o amgylch y dref; llwybrau cerdded amgylcheddol o amgylch y cefn gwlad cyfagos, sy'n cysylltu â Chlawdd Offa; teithiau cerdded addas i deuluoedd a rhai ar gyfer cerddwyr profiadol sy'n chwilio am weithgaredd mwy heriol. Byddai hyn yn cael ei ailadrodd ar gyfer y llwybrau beicio, gan gynnwys, o ystyried lleoliad bryniog Trefaldwyn, y cyfle i ddatblygu cyfleuster llogi e-feiciau i ategu'r cyfleuster llogi beiciau presennol ar raddfa fach. Rhagwelir y byddai cysylltiad â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y pen draw, gan gynnig llwybrau byr (1-2 awr) yn ogystal â rhai hirach. Byddai'r pwyslais ar ddatblygu Trefaldwyn fel lle i aros, ac ymestyn proffil ymwelwyr (oedolion yn eu blynyddoedd canol ar hyn o bryd) i gynnwys mwy o ymwelwyr teuluol a phobl hŷn. Yn ogystal â gwella'r cynnig i ymwelwyr, byddai'r llwybrau hyn yn darparu gweithgareddau hefyd i drigolion lleol, a byddent o fudd i'w hiechyd a'u lles. 

2.    Her 

Wynebodd Destination Montgomery ychydig o heriau yn ystod y prosiect: 

  • Gwrthwynebiad lleol i newid Nodwyd yr her hon cyn dechrau'r prosiect fel rhwystr posibl i gyflawni llawer o nodau'r prosiect. 
  • Annog grwpiau cymunedol lleol, pwyllgorau digwyddiadau a sefydliadau i gydweithio mewn ffordd gydlynol 
  • Cyfathrebu a lledaenu gwybodaeth 
  • Brandio 

Atebion Roedd atebion i'r heriau uchod fel a ganlyn: 

Ymgynghori a chyfathrebu amserol ac effeithiol: 

  • Yn sgil sefydlu'r grŵp llywio, a oedd yn cynnwys aelodau o'r gymuned, perchnogion busnesau lleol ac aelodau pwyllgor y cyngor, llwyddwyd i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni, gan adolygu'r rhain lle y bo angen; Gosodwyd blaenoriaethau'r Swyddog Datblygu a sefydlwyd dulliau ymgynghori a chyfathrebu. Cyswllt, cefnogaeth a chyfathrebu – drwy wefan, tîm newyddion a swyddog datblygu gan ddefnyddio system CRM, cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau twristiaeth a'r wasg draddodiadol: 
  • Crëwyd tîm gwefan i ddylunio a gweithredu gwefan tref newydd i ddarparu platfform ar gyfer gwybodaeth am Drefaldwyn yn gyffredinol, digwyddiadau, grwpiau cymunedol a gwasanaethau lleol. 
  • Ffurfiwyd y tîm Newyddion a Digwyddiadau hefyd fel canolbwynt i reoli llif yr wybodaeth i randdeiliaid, cyfranogwyr a'r gymuned ehangach. Un o'u gweithredoedd cyntaf oedd creu tudalen facebook Trefaldwyn a rhestr o enwau cyswllt mewn cyhoeddiadau perthnasol. 
  • Sefydlwyd system CRM i gadw manylion am fusnesau, grwpiau ac unigolion lleol eraill er mwyn darparu gwybodaeth am y prosiect a newyddion neu ddata perthnasol arall. 
  • Cafodd nifer o rwydweithiau twristiaeth, fel Cwmni Twristiaeth Canolbarth Cymru, eu cyfuno fel ffordd o hyrwyddo Trefaldwyn a digwyddiadau mwy ar raddfa ehangach.
  • Cydweithiodd y swyddog datblygu yn agos â nifer o bwyllgorau digwyddiadau a grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol eraill, gan ddarparu pwynt cyswllt er mwyn sicrhau bod modd rhannu gwybodaeth yn hawdd. 

Cydweithiwyd hefyd â busnesau lleol a'u cefnogi a'u hannog i gydweithio er mwyn cryfhau eu cynnig. Cynhyrchu 'brand ymbarél' adnabyddadwy y gellid ei ddefnyddio i hyrwyddo Trefaldwyn: 

  • Defnyddiwyd dylunydd graffig proffesiynol, sydd wedi'i leoli yn Nhrefaldwyn, i greu arddull gyffredinol y gellid ei gymhwyso i amrywiaeth o ddulliau hyrwyddo o brint i’r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hyn yn golygu y byddai unrhyw broses o hyrwyddo'r dref gyfan, digwyddiadau unigol neu eitemau hyrwyddo yn hawdd eu hadnabod ac yn gyson. 

3.    Budd 

Mae cychwyn yr atebion i'r heriau wedi darparu dulliau tymor hir ar gyfer hyrwyddo Trefaldwyn yn barhaus a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. 

  • Bellach mae gennym wefan wedi’i sefydlu a thîm i'w rheoli 
  • Mae'r tîm Digwyddiadau-Newyddion wedi'u gwreiddio ac yn gallu hyrwyddo gweithgareddau a rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth 
  • Mae brand Trefaldwyn wedi cael ei groesawu ac mae'n darparu dull o hyrwyddo'r dref mewn modd cyson. 

4.    Canlyniad 

Mae'r rhwydweithiau sydd wedi'u creu wedi sefydlu'r sylfeini ar gyfer cydweithio ar draws y gymuned ac maent yn gallu hyrwyddo Trefaldwyn mewn ffordd glir ac adnabyddadwy ar draws pob math o gyfryngau yn y tymor hir. Mae cyfleoedd i ymestyn y rhaglen o ddigwyddiadau, yn enwedig yn Neuadd y Dref sydd wedi'i adnewyddu, wedi cael eu datblygu a'u cynnal. Mae'r gyfres o lwybrau cerdded a beicio wedi bod yn boblogaidd ac mae'r elfennau hyn, ynghyd ag arferion gwaith agosach rhwng busnesau, atyniadau a digwyddiadau a'r gwaith o'u hyrwyddo, wedi rhoi cyfle i fwy o ymwelwyr a gwahanol fathau o ymwelwyr â'r dref yn ystod tymhorau gwyliau traddodiadol a'r tu allan i’r tymhorau hynny
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mike Mills
Rhif Ffôn:
01686 611480
Email project contact