Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£26976.00

Disgrifiad o'r prosiect:

Rhaglen beilot ac allgymorth yw hon yn targedu pobl ddifreintiedig ledled Powys yn lleoliad unigryw ac arbennig Cwm Elan. Bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth o raglen hyfforddi lawn Elan Links yn addas i bwrpas, wedi’i haddasu i fod yn addas i’r lleoliad ac i anghenion pobl Powys, ac yn cyflawni ei llawn botensial. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Mae Elan Links yn Bartneriaeth Tirwedd sy’n cynnwys nifer o bartneriaid, gan gynnwys Tir Coed, Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Dŵr Cymru a CARAD, a fydd yn diogelu treftadaeth unigryw ac arbennig Cwm Elan a hefyd yn cynyddu mwynhad a chyfleoedd addysg, hyfforddiant a hamdden er budd pawb. Bydd rhwydwaith eang o grwpiau difreintiedig yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol a hamdden pwrpasol gyda chyfleoedd cynnydd i hyfforddiant a phrofiad gwaith a arweinir gan gleientiaid.

Pwy fydd yn elwa ar y prosiect?

Grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys sesiynau ar ffurf ‘ysgol y goedwig’, ecoleg, helfa drysor yn y coetir a dyddiau i'r teulu.  Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys cyfranogwyr o gymunedau difreintiedig, gan gynnwys y bobl a oedd wedi ymddieithrio fwyaf o'r coetir ac o leoliadau awyr agored.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Datblygodd y rhaglen newydd yma o gwrs hyfforddi 12 wythnos achrededig Tir Coed, ac fe’i datblygwyd i gynnig hyfforddiant cynnydd i'r buddiolwyr oedd yn dymuno cynyddu eu sgiliau a’u cynnydd i ddiwydiannau gwahanol yn gysylltiedig â’r coetir. Roedd hyn yn cynnwys treialu logisteg darparu, asesu ac ardystio meysydd pwnc newydd sbon. 

Hefyd roedd rhaid i Tir Coed wneud y safleoedd coetir newydd yng Nghwm Elan yn ‘addas i bwrpas’ ac felly roedd yn cynnwys gosod/adeiladu cyfleusterau fel meinciau a chysgod ac ardaloedd cadw celfi.  Roedd yr hyfforddiant yn cynnig sgiliau mewn gwaith coed coetir a rheolaeth gynaliadwy ar goetiroedd, yn ogystal â darparu amgylchedd cefnogol i bobl ddatblygu cysylltiadau cymdeithasol, gwneud ffrindiau newydd a gwella eu hyder a’u lles. 

Cyflwynwyd deg diwrnod allgymorth i grwpiau cymunedol lleol gan gynnwys sesiynau ar ffurf ‘ysgol y goedwig’, ecoleg, helfa drysor yn y coetir a dyddiau i'r teulu. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys cyfranogwyr o gymunedau difreintiedig, gan gynnwys y bobl a oedd wedi ymddieithrio fwyaf o'r coetir ac o leoliadau awyr agored.  

Canlyniadau - Roedd y prosiect yn cynnwys manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a hefyd yn gwella lles ac iechyd meddwl. Roedd y peilot yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau mynediad i nifer o safleoedd yng Nghwm Elan, a gweithio drwy logisteg cael hyfforddeion a chyfranogwyr i ac o’r safleoedd, gwneud defnydd o gyfleusterau a materion diogelwch oherwydd y diffyg signal ffôn symudol ar draws Gwm Elan. Arweiniodd hyn at bontio llyfn i'r prosiect pum mlynedd mwy, a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a ddechreuodd yn gynnar yn 2018 ac adeiladu ar waith y peilot. Roedd yn cynnwys ychwanegu un mentor ym mhob sir i helpu gyda chynnydd y cyfranogwyr drwy raglenni Tir Coed ac i adael Tir Coed i brentisiaethau, hyfforddiant a chyflogaeth.

Darparodd y prosiect peilot dystiolaeth a dysgu a arweiniodd at brosiect Elan Links yn sicrhau £3m i gyflwyno prosiect tirwedd ar raddfa fawr ac uwchraddio gweithgarwch Tir Coed ar safle Cwm Elan. Mae elfen Tir Coed y prosiect hwn yn werth ychydig o dan £375,500 ac mae disgwyl i gyllid ychwanegol gael ei greu wrth i raglenni ychwanegol gael eu datblygu yn ystod oes y prosiect.  

Y Gwersi a Ddysgwyd - Cyllidwyd prosiect LEAF gan dri Grŵp Gweithredu Lleol ar wahân a’i gyflwyno mewn tair sir, gyda hawliadau ar wahân ac adrodd yn ôl i bob Grŵp Gweithredu. Ond efallai y byddai prosiect cydweithredu sengl ar draws y siroedd wedi bod yn fodel mwy priodol.  Effeithiodd trosiant y staff yn ystod y prosiect ar gysondeb cyflwyno’r prosiect ar adegau. Mae hyn wedi rhoi gwybodaeth i Tir Coed o ran y broses recriwtio staff, yn enwedig o ran hysbysebu ehangach. 

Hefyd maent wedi ysgrifennu a gweithredu polisi llesiant staff ac maent yn nodi bod tanstaffio arwyddocaol yn y prosiect peilot, sydd wedi cael ei gywiro ym mhrosiect llawn Elan Links, sydd ym mlwyddyn 2 ei ddarpariaeth nawr. Mae’r tîm o staff wedi cynyddu gan alluogi cefnogaeth ychwanegol i gydlynwyr y prosiect a’r tîm rheoli gyda swyddogaethau fel gweinyddu, cefnogi achrediadau a marchnata. Mae hyn’n lleihau baich gwaith a lefel straen staff y prosiect ac yn helpu Tir Coed i gadw eu staff yn y tymor hwy.   

Mae logisteg cael pobl ar draws y safle’n arwain at ddatblygu nifer o geisiadau cyllido i alluogi prynu bws mini. Mae Tir Coed yn aros canlyniad yn fuan iawn i weld a fydd hyn yn digwydd. Mae prynu a defnyddio ffonau lloeren wedi bod yn allweddol er mwyn sicrhau arferion iechyd a diogelwch da.

Beth nesaf i’ch prosiect?

Mae’r prosiect pum mlynedd yma’n cael ei ddatblygu ymhellach gan ofyn am ragor o gyllid i ddatblygu gwirfoddoli rheolaidd. Yn gyffredinol, mae model ymgysylltu a hyfforddi llawn Tir Coed wedi datblygu ac mae llwybrau cynnydd wedi symud ymlaen o ganlyniad i’r peilot a’r datblygiadau dilynol yr arweiniodd atynt.   

Hefyd mae Tir Coed yn edrych ar ffyrdd o fod yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir, ers datblygu mewn hyder yn ystod y cyfnodau peilot gyda’r strategaethau cynhyrchu incwm yn dechrau o ddifrif yn 2019.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ffion Farnell
Rhif Ffôn:
01970 636909
Email project contact