Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£64990.00

Cyflwyniad

Roedd y prosiect Estyn Allan, Denu i Mewn yn cynnwys dau brosiect peilot a oedd yn ceisio profi effaith ymgysylltu tymor hir drwy'r celfyddydau ac yn yr amgylchedd ar oedolion ag anableddau dysgu a phobl sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys gofalwyr a theulu'r person â Dementia. 

Roedd y rhaglen beilot gyntaf, oedd yn ceisio cefnogi unigolion sy'n byw gyda Dementia a’u teuluoedd, yn cynnig sesiynau celf personol yng nghartrefi pobl ochr yn ochr â sesiynau celf rheolaidd 2 awr yr wythnos yn Centre Celf. Roedd yr ail brosiect peilot yn canolbwyntio ar oedolion ag anableddau dysgu gan gynnig blociau rheolaidd o gyrsiau celf chwe wythnos am 2 awr yr wythnos yn Centre Celf, ,a hynny dros gyfnod o ddwy flynedd.  

Yr Heriau

Yr her benodol dan ystyriaeth gyda'r peilot Dementia oedd ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia mewn sesiynau celf rheolaidd lle’r oedden nhw’n gallu cymryd rhan. Yn aml nid oedd pobl yn cofio profiadau blaenorol o gael mwynhad o'r celfyddydau, nac ychwaith yn cofio cysylltu â sgiliau yr oeddent yn eu defnyddio ar un adeg. Nid oedd gan Ofalwyr yr amser i gefnogi rhywun i ddod. 

Roedd yr heriau o gynnal prosiect peilot ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu yn ymwneud yn bennaf ag anghenion penodol y rhai oedd yn cymryd rhan a'u hamgylchedd, gan gynnwys lle’r  oeddent yn byw yn gorfforol ac yn ddaearyddol. Un peth sy’n anodd, yn enwedig i'r rhai sy'n byw mewn llety â chymorth, yw cael staff sydd ar gael i ddod â chyfranogwyr i weithdai, yn enwedig y rhai sy'n byw gyda nifer fach o ddefnyddwyr gwasanaethau.  

Roedd y sefydliad hefyd yn wynebu ei heriau ei hun ar gyfer y prosiect cyfan oherwydd newidiadau staff. Gadawodd staff oherwydd ymrwymiadau eraill, hanner ffordd drwodd, oedd yn golygu bod angen penodi aelodau staff newydd. Roedd yn rhaid i staff presennol ymgymryd â rolau newydd ond roedd diffyg amser neu gyfnod pontio i drosglwyddo'n briodol yn golygu colli cysylltiadau, gwybodaeth a dilyniant.

Atebion

Rhoddodd y peilot Dementia gynnig ar ddau ddull i ymdrin â rhai o'r heriau a wynebwyd. 

Roedd un yn cynnwys gweithdai celfyddydol parhaus yn adeilad Centre Celf. Lluniwyd rhaglen o weithdai celf, gan archwilio llawer o wahanol ffurfiau celf. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain yn rhaglenni chwe wythnos. Roedd y gweithdai'n amrywio o dorri leino i ddyfrlliw, argraffu, paentio sidan, cardiau post a chwiltio atgofion. Drwy ddarparu gweithdai rheolaidd, y bwriad oedd meithrin ymdeimlad o fod yn gyfarwydd â'r adeilad, yr artistiaid a'r defnydd o ddeunyddiau celf. 

Drwy gynnwys gofalwyr, y bwriad oedd darparu gofod y gellir ymlacio ynddo i bobl gael mwynhau gyda'i gilydd, lle mae pawb yn gyfartal, gan roi profiad i deuluoedd fwynhau rhywbeth gyda'i gilydd er gwaetha’r dementia, yn hytrach na bod y gofalwr/gofalwyr yn teimlo eu bod yn gorfod cefnogi'r person â dementia yn ystod y sesiwn.  

Yr ail ddull oedd cynnig sesiynau celf un-i-un yn uniongyrchol i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Roedd hyn ar gyfer hyd at ddeg sesiwn yr un. Roedd y prosiect hefyd yn ceisio gweithio gyda chartrefi preswyl a chartrefi nyrsio a'r ysbyty lleol er mwyn sicrhau mynediad i ddioddefwyr dementia sy'n byw mewn unedau ar gyfer Henoed Bregus eu Meddwl (EMI) gyda'r posibilrwydd o gynnal rhai gweithdai yn y lleoliadau hyn.

Daeth y rhaglen beilot ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu hefyd o hyd i atebion i'w heriau. Gweithiodd staff y Prosiect yn galed i sefydlu a chynllunio rhaglen ddwy flynedd o weithdai. Roedd dilyniant a threfn yn allweddol er mwyn galluogi ymrwymiad, felly roedd sefydlu rhaglen ddwy flynedd yn allweddol i lwyddiant y prosiect peilot hwn. Roedd yn amlwg hefyd nad cyfathrebu drwy e-bost oedd y dull mwyaf addas ar gyfer y rhai sy'n byw mewn cartrefi â chymorth. Roedd negeseuon e-bost yn cael eu darllen ond ddim yn cael eu hargraffu ac wedyn yn mynd yn angof. Roedd hyn yn golygu nad oedd yr wybodaeth am weithdai yn cael ei throsglwyddo i'r oedolion ag anableddau dysgu eu hunain, nac i’r rhai oedd yn archebu gweithgareddau na’r rhai ar sifft ar ddiwrnod y gweithdai. Cynhyrchwyd posteri papur lliwgar, hawdd eu darllen ar gyfer pob cyfres o weithdai, argraffwyd y rhain a'u dosbarthu i’r rhai oedd yn mynychu gweithdy fel taflenni. Anfonwyd posteri maint A4 at gyfranogwyr oedd eisoes wedi'u cysylltu â chyfeiriadau post Celf o Gwmpas. I ddechrau, byddai staff y prosiect yn ffonio gwahanol bobl oedd yn mynychu’r sesiynau a chartrefi â chymorth ychydig ddyddiau cyn y gweithdai i'w hatgoffa amdanynt ac i weld pwy oedd yn bwriadu mynychu. Wrth i'r sesiynau sefydlu’n well daeth hyn yn llai angenrheidiol.

Canlyniad

Mantais y prosiect peilot Dementia oedd bod Celf wedi gallu cynnal gweithdai wythnosol am ddwy flynedd. Golygodd hyn bod grŵp bach craidd o bobl wedi gallu mynychu sesiynau wythnosol. Preswylwyr cartrefi gofal lleol oedd y rhain yn bennaf ond hefyd un neu ddau o bobl a oedd yn byw gartref i ddechrau. Llwyddodd y prosiect i gynnal 88 sesiwn gweithdy dros gyfnod o ddwy flynedd
Mantais y prosiect i oedolion ag anableddau dysgu oedd gallu cynnal gweithdai wythnosol yn gyson ar gyfer hyd at 9 o bobl (a'u gofalwyr) am nifer o flynyddoedd. Daeth y sesiynau yn rhan o arferion rheolaidd pobl. Roedd y rhaglen beilot yn llwyddiant mawr, ac roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn mwynhau cydweithio â'r un artistiaid, gan wybod beth oedd yn digwydd o wythnos i wythnos a gallu cynllunio ar gyfer cymryd rhan. Gan fod pob cyfres o weithdai fel arfer yn 6 wythnos o hyd, roedd hyn yn golygu bod modd datblygu gwaith a sgiliau. Roedd mynychu gyda'r un bobl bob wythnos yn golygu bod cyfeillgarwch yn tyfu ac roedd llawer wedi mwynhau'r agwedd gymdeithasol mwy na dim byd arall.  
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Kayte Phillips
Rhif Ffôn:
01597 822777
Email project contact