- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£40263.00
Disgrifiad o'r Prosiect:
Bydd y cyfle sector ynni adnewyddadwy’r môr (MRE) yn darparu arallgyfeirio a chlystyru’r gadwyn gyflenwi i gefnogi Sir Benfro. Mae busnesau yn Sir Benfro mewn safle da i dyfu eu busnes yn y sector mewn meysydd allweddol fel sylfaeni, gweithrediadau morol, gwasanaethau ymgynghori, caniatâd a chydrannau. Bydd y prosiect Datblygiad Cadwyn Gyflenwi yn darparu dealltwriaeth llinell sylfaen o’r gadwyn gyflenwi MRE yng Nghymru, gan nodi’r cwmnïau hynny sydd eisoes yn gweithio yn y sector a’r rhai gyda photensial cryf i arallgyfeirio.
Canlyniadau'r Prosiect:
Nod y prosiect hwn oedd hyrwyddo ynni adnewyddadwy morol fel cyfle i gwmnïau cadwyn gyflenwi lleol gael amrywiaeth i sectorau ynni tanwydd ffosil traddodiadol, i ffwrdd ohonynt. Mae adroddiad a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r prosiect hwn wedi canfod bod y sector eisoes yn cefnogi 137 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a 350 o flynyddoedd person o gyflogaeth ledled Cymru. Drwy arallgyfeirio i'r sector carbon isel newydd hwn, mae cyfleoedd i ddarparu swyddi ac incwm hirdymor, cynaliadwy i fusnesau lleol a hyrwyddo mewnfuddsoddiad i ddiwydiant ynni adnewyddadwy.
Gwersi a Ddysgwyd:
Roedd llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn dangos y byddai cyfleoedd rhwydweithio pellach o fudd i adeiladu ar y wybodaeth a ddysgwyd a'r cysylltiadau a wnaed. Hefyd, byddai angen edrych ar y gwaith o farchnata'r digwyddiad hwn.
"Canfu'r prosiect fod sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy sefydledig yn Sir Benfro mewn lleoliad delfrydol gyda chyfleusterau porthladd a hyb peirianneg. Mae'r prosiect hwn wedi gweithio i ganolbwyntio sylw'r cwmnïau medrus hyn yn y sector newydd hwn er mwyn cadarnhau sefyllfa Cymru fel arweinydd drwy alluogi'r diwydiant i wneud y camau hollbwysig tuag at ddefnyddio masnachol."
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Ceri Crichton
- Rhif Ffôn:
-
01646 405692
- Cyfeiriad e-bost:
- ceri.crichton@pembrokeshirecoastalforum.org.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.pembrokeshirecoastalforum.org.uk