Lleoliad:
Dyffryn Wysg
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£40000.00

Tyfu asbaragws i lenwi'r bwlch newynog 

Mae gan asbaragws lawer o botensial yng Nghymru oherwydd ei fod yn gynnyrch gwerth uchel sy’n gwerthu’n dda wrth gât y fferm. Mae hefyd yn un o’r ychydig gnydau y gellir ei gynaeafu i’w fwyta yn ystod ‘cyfnod y bwlch newynog’ o ddiwedd mis Ebrill i fis Mehefin pan nad oes llawer o gnydau eraill ar gael yn y DU.

Gan weithio gyda dwy fferm organig yn Sir Fynwy, roedd Chris Creed o dîm Garddwriaeth ADAS yn gallu monitro allbynnau a meincnodi asbaragws organig o’i sefydlu hyd at y prif gynhaeaf cyntaf. Byddai asesu hyfywedd asbaragws organig drwy ddarparu dealltwriaeth drylwyr o ofynion ymarferol ac ariannol tyfu’r cnwd yn cynorthwyo’r sector ehangach a thyfwyr asbaragws yng Nghymru yn y dyfodol.

 

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact