Lleoliad:
Sir Benfro
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£40000.00

Disgrifiad o'r Prosiect:

Mae dulliau biolegol o reoli plâu wedi dod yn ymarfer safonol i lawer o ffermydd garddwriaeth mwy sy’n cyflenwi archfarchnadoedd, ond nid yw eto’n ymarfer cyffredin i lawer o dyfwyr ffrwythau llai yng Nghymru. Mae dulliau rheoli biolegol yn golygu defnyddio ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, bacteria, ac weithiau blanhigion i reoli plâu a chwyn fel rhan o raglen rheoli plâu integredig, yn bennaf mewn tai gwydr a thwnelau polythen. Mae gan lawer o dyfwyr ffrwythau bychain ddiddordeb mewn defnyddio’r dull hwn er mwyn gallu defnyddio llai o blaladdwyr confensiynol a lleihau’r siawns bod plâu yn datblygu ymwrthedd i'r plaladdwyr hyn. Y prif rwystr i dyfwyr bychain yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i adnabod plâu, pa ddulliau rheoli biolegol sydd ar gael, sut orau i'w defnyddio, a sut i'w hintegreiddio i'r rhaglen rheoli plâu a chlefydau sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Fel rhan o'r prosiect hwn bydd gwahanol strategaethau rheoli plâu biolegol yn cael eu treialu ar ddwy fferm ffrwythau fasnachol yn ne-orllewin Cymru, gydag ardal dyfu gyfunol o oddeutu 1.3ha.

Bydd y tyfwyr yn gweithio’n agos ag arbenigwyr i ddatblygu rhaglen a fydd yn addas i'w systemau tyfu nhw. Caiff yr union ddulliau a ddefnyddir eu dewis ar sail pa blâu sydd i'w cael ym mhob safle, fodd bynnag disgwylir y bydd o leiaf pedwar pla yn cael eu targedu. Bydd y tyfwyr yn cael hyfforddiant parhaus ar adnabod plâu, dulliau monitro, a dewisiadau rheoli biolegol.  Ar ddiwedd y prosiect, cyhoeddir argymhellion arferion da ar gyfer y sector ehangach.

Amcanion y prosiect;

  • A oes manteision sylweddol i ddulliau rheoli plâu biolegol o ran eu gallu i reoli plâu o’u cymharu â systemau confensiynol?
  • A yw dulliau rheoli plâu biolegol yn fuddsoddiad cost-effeithiol o’u cymharu â dulliau rheoli confensiynol?
  • Pa addasiadau sy’n angenrheidiol i allu gweithredu rhaglen rheoli plâu fiolegol yn effeithiol mewn busnes ffrwythau meddal?
  • Pa broblemau/anfanteision cyffredin a welir â rhaglenni rheoli biolegol, a sut gellid delio â’r rhain neu eu hosgoi?

Crynodeb Gweithredol:

Mae cnydau tyfwyr yn dod yn fwy fwy agored i ddifrod gan widdon, pryfed gleision a thripsod (pryfed taranau) wrth i blaleiddiad ddod yn llai effeithiol ac mae llai ohonynt ar gael. Wrth i’r diwydiant geisio defnyddio llai o blaleiddiaid mae rhai heriau newydd yn wynebu’r diwydiant yng Nghymru. Mae dulliau biolegol o reoli plâu wedi dod yn gyffredin ar ffermydd mawr sy’n cyflenwi’r archfarchnadoedd, yn enwedig mewn ymateb i brinder cemegion actif ac ymwrthedd cynyddol, ond hyd yma, nid yw rhai o safleoedd tyfu ffrwythau Cymru wedi manteisio ar y buddion hyn mewn ffordd effeithiol. Mae dewis o ddulliau rheoli biolegol ar gael yn fasnachol (e.e. Aphidius, Amblyseius, Phytoseiulus a nemotodau) a gallant reoli plâu i’r un graddau a dulliau cemegol, os nad yn well. Gall dulliau biolegol effeithiol helpu tyfwyr i leihau gwastraff, defnyddio llai o blaleiddiaid a’u diogelu rhag unrhyw brinder posibl o blaleiddiaid yn y dyfodol. Mae dulliau rheoli biolegol hefyd yn hanfodol i systemau cynhyrchu organig, gan alluogi tyfwyr i gael pris gorau’r farchnad am ffrwyth organig. 

Dylid nodi hefyd nad yw rheoli plâu drwy ddulliau confensiynol yn broses hawdd, oherwydd gall fod yn anodd defnyddio plaleiddiaid a’u graddnodi, ac nid ydynt yn 100% effeithiol. Nid yw’n bosibl prynu symiau bach sy’n addas i dyfwyr heb lawer o gyfleusterau cynhyrchu ac ni chaniateir rhannu plaleiddiad â thyfwyr eraill. Yn aml, bydd yn rhaid prynu a storio symiau mawr a gall y rhain gael eu tynnu’n ôl ar fyr rybudd gan olygu bod yn rhaid i’r tyfwyr gael gwared ar blaleiddiaid drud. 

Mae defnyddio dulliau biolegol i reoli plâu yn effeithiol yn gofyn am sylfaen wybodaeth eang am fioleg plâu a bioreolaeth, a sut mae hyn yn rhyngweithio â’r amgylchedd a dulliau rheoli eraill (e.e.,dulliau cemegol) sy’n benodol i’r safleoedd oherwydd arferion tyfu, cyltifarau a modelau marchnata. Yn hanesyddol, mae tyfwyr wedi bod yn amharod i ddefnyddio dulliau rheoli biolegol oherwydd diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth. Nifer bach iawn o’r ffermydd bach sy’n tyfu ffrwythau meddal yng Nghymru sy’n arbenigo yn y maes, ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt sawl menter arall sydd hefyd yn gofyn am wybodaeth fanwl a gwaith monitro. Mae system gasglu ‘tymor hir’ yn defnyddio nifer o dechnegau gwahanol sy’n anodd eu rheoli: e.e.plannu planhigion sydd wedi’u cadw mewn storfa oer un ar ôl y llall, a defnyddio mathau o blanhigion mafon a mefus sy’n dwyn sawl cnwd o ffrwyth. Mae angen dealltwriaeth fanwl o gylchredau oes y plâu a’r rhywogaethau rheolydd er mwyn sicrhau y gellir sefydlu poblogaethau digonol o’r cyfryngau rheoli. Mae cyfryngau rheoli biolegol newydd yn dod ar gael ar y farchnad, ac mae’r amgylchedd rheoleiddio yn newid yn barhaus wrth i actifau gael eu dadreoleiddio neu maent 
yn dod ar gael yn sgil cofrestriadau newydd neu Ymestyn Awdurdodiad ar gyfer Mân Ddefnydd (EAMUs), gan olygu y gellir defnyddio plaleiddiaid sydd heb eu cymeradwyo yn y tymor byr. Mae’r cwmnïau sy’n cyflenwi dulliau rheoli biolegol yn aml yn darparu rhestrau o dablau sy’n cymharu diogelwch plaleiddiaid â’r dulliau biolegol, ond mae’r rhain yn eithaf cymhleth i dyfwyr eu defnyddio ac ymgyfarwyddo â nhw a bydd rhywfaint o waith dehongli yn allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant 
a meithrin hyder yn y dyfodol. Yn aml, nid oes gan gynhyrchwyr llai y lefel hon o ddealltwriaeth a nod y prosiect hwn oedd defnyddio gwybodaeth y cynhyrchwyr mawr a’i throsglwyddo i’r tyfwyr llai sydd weithiau’n ei chael yn anodd dilyn datblygiadau technolegol diweddaraf y diwydiant.

Mae hyn yn her barhaus i dyfwyr sy’n awyddus i gyfuno dulliau rheoli cemegol a biolegol wrth roi rhaglen reoli plâu ac afiechydon integredig (IPDM: integrated pest and disease management) ar waith.reast of technological advancements within the industry. This results in an ongoing challenge for growers looking to combine chemical and biological control to implement an effective integrated pest and disease (IPDM) programme.

Argymhellion arfer gorau: 

  • Mae cadw’r cnwd a’r safle ehangach mor lân â phosibl yn gallu lleihau nifer y plâu yn sylweddol, neu gadw eu niferoedd yn isel. 
  • Dylid cael gwared ar unrhyw wastraff o’r planhigyn a’i waredu mor bell i ffwrdd o’r cnwd â phosibl – bydd plâu yn gadael llonydd i’r gwastraff hwn ac yn mynd yn ôl at y cnwd!
  • Mae glanhau a diheintio’n drylwyr ar ddiwedd y tymor o gymorth mawr i baratoi ar gyfer y tymor newydd. 
  • Mae monitro rheolaidd yn werthfawr iawn i wneud penderfyniadau effeithiol. Cadwch gofnod o’r ardaloedd lle rydych chi’n sylwi ar blâu yn aml, gall y rhain fod yn ddefnyddiol yn y blynyddoedd i ddod ar eich safle. 
  • Ystyriwch y newidynnau amgylcheddol, tymheredd a lleithder cymharol, a’u heffaith ar y plâu a’r ysglyfaethwyr a’u goroesiad. Mae tymereddau is fel arfer yn golygu bod plâu yn datblygu’n arafach yn ogystal ag ysglyfaethwyr.
  • Ystyriwch ddefnyddio cofnodwyr data mewn twnelau i fonitro’r amodau a’ch helpu i wybod pan fydd y tymereddau meincnod ar gyfer ysglyfaethwyr wedi’u cyrraedd (e.e. 15®C ar gyfer Orius).
  • Mae prynu stoc o blanhigion da yn bwysig, mae plâu yn aml yn cyrraedd ar y planhigion os cânt eu harchebu gan dyfwr llai adnabyddus. Er y gall hyn fod yn gostus ar y dechrau bydd yn arbed llawer o broblemau. Weithiau, planhigion newydd yw’r prif ddull o gyflwyno plâu newydd i safle glân. Dylech sicrhau eich bod yn archwilio’r planhigion newydd am blâu ac afiechydon ar unwaith.
  • Defnyddiwch gyfrwng tyfu newydd mewn cynwysyddion, mae hyn yn ddewis defnyddiol o’i gymharu â thyfu cnydau yn y pridd. Mae’n ffordd ddefnyddiol o ‘ail-osod’ lefelau plâu bob blwyddyn er mwyn eu hatal rhag cynyddu’n gyson bob blwyddyn, yn enwedig os ydych yn prynu planhigion newydd.
  • Pan fyddwch yn ystyried creu ardaloedd tyfu newydd, dylech ystyried yr amgychedd lleol ar gyfer plâu ac o ble y gallent ddod. Mae Alex a Tom Higgs wedi cael llawer o lwyddiant drwy osod eu twnnel newydd yng nghanol y cae lle mae’n fwy anodd i’r plâu eu cyrraedd. 
  • Mae gaeafau oer yn ffordd ddefnyddiol a rhad o leihau nifer y plâu, yn amlwg nid yw hyn yn gwbl ddibynadwy felly mae chwistrellu ar ddechrau’r tymor wedi bod yn ddefnyddiol yn y prosiect hwn.

Gwaith i’r dyfodol:

Mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio dulliau rheoli biolegol i leihau plâu mewn system rheoli plâu integredig (IPM). Mae’r defnydd o fioamddiffynwyr i drin plâu, afiechydon a chwyn yr un mor heriol ac mae cyfle mawr i gyflawni rhagor o waith yn y dyfodol er mwyn datblygu’r cynlluniau hyn ymhellach yng Nghymru. Mae mentora ac arweiniad arbenigol pellach ar adnabod plâu ac afiechydon yn faes arall y gellid ei ddatblygu ymhellach.

 

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact