Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£670.00

Beth oedd y mater a ddyluniwyd y prosiect i fynd i’r afael ag o?

  1. Edrych ar y Rhyfel Byd Cyntaf, gweld sut effeithiodd ar Gastell Gwrych ac Abergele.
  2. Ymgysylltu plant ysgol leol â’r hyn yr oedd yn digwydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a hefyd gyda Chastell Gwrych.
  3. Ymgysylltu â'r gymuned, hanes a charu addysgu

Sut oedd y prosiect yn bwriadu mynd i'r afael â hyn?

Roedd y prosiect yn bwriadu mynd i’r afael â hyn drwy drafodaeth gyda disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan a oedd yn rhan o’r mwyafrif o’r prosiect, gan ddod â chymorth o’r tu allan i ddatblygu syniadau - h.y. ynghylch iechyd meddwl, bu i’r disgyblion wahodd Stewart Harris o Elusen y Milwyr i siarad am ei brofiadau, gwahoddwyd Elizabeth Duncan yr awdur, a Geoff Skellon y bardd i edrych ar ysgrifennu creadigol, roedd
Arlena Thornton o ART Theatre wedi helpu gyda’r ddrama.

Roedd gweithdai wythnosol rheolaidd gyda disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan gyda'r bobl uchod yn ymweld, yn ogystal â chydlynwyr digwyddiadau sydd yn rhan o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwrych.

Yn ogystal â disgyblion Emrys ap Iawn yn cymryd rhan, bu i Diane, Swyddog Addysg Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwrych fynd i ymweld ag ysgolion cynradd lleol i’w cael ei gymryd rhan â Gwrych a’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu i ysgolion cynradd Llanfair Talhaearn a Betws yn Rhos fynychu gweithdai yn y castell ym mis Ionawr a Chwefror, lle bu iddynt edrych ar y castell ac ysgrifennu barddoniaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf a Chastell Gwrych.

Gan fod yr ysgolion hyn wedi ymweld â Chastell Gwrych ar ddechrau’r flwyddyn roeddynt yn awyddus i ddod i’r perfformiad ar 4 Gorffennaf. Yn ogystal â’r 2 ysgol, bu i Ysgolion cynradd Llansan Siôr a Sant Elfod fynychu ar 4 Gorffennaf. Arweiniodd hyn at y 4 ysgol eisiau bod yn rhan gyda Gwrych. Felly mae effaith cyffrous iawn ar ôl pwynt 3.

Mae disgyblion Emrys ap Iwan drwy fynd y tu allan i’r cwricwlwm, wedi datblygu cariad at addysgu a fydd gobeithio yn eu rhoi mewn lle da fel mae’r rhai hŷn yn gwneud eu blwyddyn TGAU.

Pa wersi a ddysgwyd o gyflawni'r prosiect? A fyddech chi'n newid unrhyw beth os byddai'r prosiect yn cael ei redeg eto?

Os byddai’r prosiect yn cael ei redeg eto yna byddai’n llawer haws oherwydd y perthynas y mae Diane wedi ei ddatblygu gyda’r ysgolion a sefydliadau lleol megis Prosiect Fusion a Chastell Bodelwyddan.

Felly'r gwersi a ddysgwyd oedd datblygu perthynas gyntaf gydag ysgolion a sefydliadau eraill, ond heb gyflawni’r prosiect hwn ni fyddai unrhyw berthynas wedi cael ei greu beth bynnag. 

Bydd hi’n llawer yn haws y tro nesaf.

Mi wnaethom drio cael pobl leol yn rhan o’r prosiect drwy hysbysebu mewn gwahanol ddigwyddiadau’r Ymddiriedolaeth a diwrnodau agored, ond dim ond ychydig o bobl oedd â diddordeb. Rhoddodd rai eu cyfeiriadau e-bost i ni ond nid oeddynt yn ymateb o gwbl ar ôl ymholi. Y cyswllt gorau oedd drwy U3A lle aeth Diane ym mis Ionawr 2018 i siarad am y prosiect. O fan hyn, bu i Geoff Skellon, bardd lleol a rhywun brwdfrydig am y Rhyfel Byd Cyntaf, ymuno â’r tîm, a dod i siarad gyda’r disgyblion am y Rhyfel Byd Cyntaf, ynghylch barddoniaeth a’i safbwyntiau ei hun. Defnyddiodd y disgyblion
ei gerdd ef “Flanders Mud” yn y rhan gyntaf o’r perfformiad.

Gan edrych yn ôl ar y cais gwreiddiol, roedd pethau wedi cael eu hymdrin mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, ar ôl gweithio gyda disgyblion Emrys ap Iwan, roedd yn amlwg yr oedd angen addasu’r defnydd o archifau. Er mi wnaethom sôn am rhan ohono. Treuliodd Diane un sesiwn gyda disgyblion yn edrych ar gyfranogiad yr Iarlles gyda Gwersyll Carcharorion Rhyfel yn Llansannan, a arweiniodd at y gerdd "Escape?". a ysgrifennwyd gan un o’r disgyblion a’i berfformio gan ddisgybl arall a ddefnyddiwyd yn y perfformiad ar 4 Gorffennaf a oedd yn edrych ar agweddau iechyd meddwl, hunanladdiad a’r angen i ddianc. Efallai nid oedd yn eglur bod hyn wedi dod o wersyll Carcharorion Rhyfel, ond cafodd ei ysbrydoli ganddo ynghyd â
thrafodaeth dosbarth. Gofynnodd y disgyblion gan eu bod yn trafod problemau iechyd meddwl yn y Rhyfel Byd Cyntaf, i gael cwrdd â chyn-filwr Stewart Harris o Elusen y Milwyr, roedd yn gyn-filwr yn Afghan ac yn ddyn lleol (cyn ddisgybl Emrys ap Iwan sy’n byw yn y Rhyl) a daeth i siarad am ei brofiadau. Cafwyd trafodaethau wedyn ynghylch y gwahaniaethau.

Yn y diwedd penderfynwyd nad oedd angen hyfforddiant gan The People's Collection, oherwydd y diffyg deunydd archif gan y cyhoedd, a chan ystyried oedran a chyfyngiadau amser y rhai hynny a oedd ynghlwm - roedd gan ddisgyblion Emrys ap Iwan ond dwy awr yr wythnos yn ystod y tymor i roi yn hytrach nag aelodau o'r cyhoedd a oedd yn oedolion. Unwaith eto, nid oedd angen hyfforddiant hanes ar lafar gan nad oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd eisiau rhoi eu hanes. Ni wnaeth y sianel YouTube ddigwydd oherwydd ni ddaeth unrhyw wneuthurwyr ffilm ymlaen i gynnig ffilmio. Eto, fel y dywedais yn fy sylw blaenorol, rwy’n credu ein bod wedi ceisio anelu yn rhy uchel yn rhy fuan. Petawn yn gwneud y prosiect hwn eto, byddwn yn gwybod beth fyddai gennyf i weithio arno cyn cyflwyno cais am gyllid, ac yn gwybod, pwy i gysylltu â hwy i wneud ffilm, neu yn gwybod nad oedd unrhyw
un gyda’r amser neu’r sgiliau i wneud hyn.

Adborth gan ddisgyblion yr Ysgol:

  • Angen gwella marchnata, gwnaethpwyd taflenni ond nid oeddynt yn cyrraedd digon o bobl.
  • Cytunodd y plant bod angen cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo.
  • Roedd y perfformwyr yn poeni bod y plant ysgol (y gynulleidfa) ychydig yn ddiflas a bod y cynnwys
  • ar gyfer cynulleidfa hŷn.
  • Roedd y diffyg arwyddion yn golygu bod aelodau o’r cyhoedd a oedd yn talu yn ansicr lle’r oedd
  • angen iddynt fynd.
  • Byddai’r sefydliad wedi gallu bod yn well.
  • Byddai microffon wedi bod yn ddefnyddiol i bawb glywed

Beth oedd effaith y prosiect?

Effeithiau'r prosiect:

  • Perthynas gydag Ysgol Emrys ap Iwan a fyddai wedi bod yn hapus iawn i gael eu disgyblion yn rhan o Gastell Gwrych eto.
  • perthynas gyda 4 ysgol gynradd a fynychodd ar 4 Gorffennaf a ofynnodd i’r ochr addysg Gwrych wneud rhagor o weithdai gyda hwy.
  • perthynas gyda Shirley Williams o Brosiect Fusion sydd yn agor drysau i wneud llawer mwy yn yr ardal leol.
  • Ac rydym hefyd yn dysgu beth allwn ni ei wneud.
  • erthyglau yn y papur lleol sydd yn dangos bod Gwrych yn gwneud mwy na dim ond gwaith adfer sydd, gobeithio, am arwain at fwy o ymglymiad yn yr ardal leol.
  • Mae disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan wedi dysgu sut i garu addysgu, deall beth allent ei wneud, a gobeithio cael hyder da i wneud rhywbeth y tu allan i'w man cysurus.
  • gan rieni a oedd yn rhan o Gastell Gwrych sydd wedi cael rhagor o wirfoddolwyr ar gyfer ein digwyddiadau
  • Bu i 13 disgybl gymryd rhan.
  • Hwb hyder i berfformwyr gyda chynulleidfa o dros 100 o blant ysgol gynradd.
  • Byddai'r myfyrwyr wedi hoffi arwain yn lle'r athro.
  • Mae eu sgiliau ysgrifennu creadigol wedi gwella’n dda iawn.
  • Mae myfyrwyr nad oedd yn adnabod ei gilydd yn flaenorol wedi dod at ei gilydd ar gyfer y prosiect hwn ac wedi datrys problemau a gweithio gyda’i gilydd.
  • Perfformiad rhagorol gan ystyried nad yw'r mwyafrif o'r plant yn astudio drama.

Sut fydd y prosiect yn gynaliadwy yn y dyfodol? Beth yw’r camau nesaf?

  • Deunydd mwy diweddar i ychwanegu at archifau Gwrych megis llyfrau gwaith y mae'r disgyblion yn eu defnyddio, a ffotograffau o'r digwyddiad.
  • cynaliadwy drwy wybod y gallwn wneud prosiectau ysgolion a fydd yn arwain at yr angen am ystafell addysg.

Unrhyw sylwadau eraill:

“Roeddwn yn falch iawn ohonynt ddoe, roeddynt yn wych ac roedd gennyf ddeigryn yn fy llygad ar nifer o achlysuron. Mae’r dysgwyr wedi mwynhau gyda chi a rydych chi wedi bod yn dda gyda hwy.”

Anne Hickey, Cydlynydd Llythrennedd Emrys ap Iwan Charlie McCourbry - cefnogwr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gwrych, Cynghorydd Sir Conwy ac asiant tai lleol -

“Bu i fy mab ieuengaf fynychu ysgol gynradd Llansan Siôr heddiw a cyn mynd i’w wely heno dywedodd faint yr oedd wedi ei fwynhau a pha mor ddiddorol oedd hyn. Roedd y plant i gyd wedi cael amser da a dywedodd yr athrawon oedd gyda hwy bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus iawn. Daliwch ati."

Marion Beaumont - cefnogwr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych - drwy e-bost

“ Diolch yn fawr iawn, rwyf wedi fy mhlesio’n arw ac rwy’n falch bod y bobl ifanc wedi cymryd at Gwrych oherwydd fel yr ydych yn ei ddweud, nhw yw dyfodol y castell, hefyd rwy’n falch eu bod wedi dysgu am ba mor ddrwg oedd y rhyfel. Da iawn unwaith eto, llawer iawn o waith ac wedi’i wobrwyo’n gyfiawn. Cofion gorau, Marion”

Cath Waldron, Dirprwy Bennaeth Ysgol Sant Elfod, Abergele –

“Diolch yn fawr ichi am drefnu digwyddiad hyfryd ac am ein gwahodd i fynychu Castell Gwrych. Dywedodd Angharad Hughes, Athrawes ddosbarth
Blwyddyn 5 eich bod wedi cynnig i fod yn rhan o’n testunau, felly roeddwn yn credu y byddwn yn dweud wrthych chi beth ydym yn ei wneud ym mhob grŵp blwyddyn ac efallai y byddai’n gyfle braf i ni ymweld eto yn y dyfodol? (Mae’n rhestru’r testunau). Gadewch i mi wybod beth ydych yn ei feddwl a diolch eto am ein gwahodd i’ch digwyddiad arbennig.” 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elen Edwards
Rhif Ffôn:
01942 576670
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.ruralconwy.org.uk