Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£48856.32

1.    Cyflwyniad

Datblygwyd y prosiect hwn i fynd i'r afael â'r materion canlynol:

  • Ynysu gwledig 
  • Diffyg gwasanaethau lleol 
  • Mynediad at wybodaeth
  • Gwasanaethau’n diflannu 
  • Lefelau cymwysterau isel ymhlith y boblogaeth
  • Swyddi sy'n talu'n wael
  • Lefelau uchel o dlodi plant
  • Yr angen am ganolbwynt ar gyfer gwasanaethau 

At ddibenion y prosiect hwn, diffiniwyd gwybodaeth iechyd fel gwybodaeth sy'n cefnogi pobl i fyw bywyd iach yn eu cymuned, felly mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gymunedol am sefydliadau, clybiau a chymdeithasau sy'n darparu rhyngweithio cymdeithasol, goresgyn unigrwydd a theimlo'n ynysig yn yr ardal wledig anghysbell hon o Ddwyrain Sir Faesyfed. Roedd y prosiect hefyd yn helpu gyda chwilio am waith, budd-daliadau a thai gyda'r uchelgais o gyfrannu at iechyd a lles cyffredinol.

Roedd y prosiect yn deall bod llawer o bobl yn yr ardal wledig anghysbell sydd angen cymorth i allu cael gafael ar wybodaeth o ansawdd a’i dehongli, yn enwedig yn yr oes hon o "newyddion ffug”; mae'r prosiect am eu helpu i ddatblygu'r sgiliau i allu adnabod a defnyddio ffynonellau dibynadwy o'r wybodaeth ddiweddaraf. 

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Canolfan Gymunedol Trefyclo a'r Cylch, elusen gofrestredig a Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Powys. Mae Llyfrgell y Cyngor Sir wedi cael ei chydleoli yng Nghanolfan Gymunedol Trefyclo ers 2017. Rhoddwyd y cyfle i ni i fanteisio i'r eithaf ar y gwaith partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys, a PAVO ein Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau gwirfoddol llai drwy ddyfarnu cyllid i ni o'r rhaglen Arwain-Leader.

2.    Her

Mae gweithredu a rheoli gwasanaeth newydd wedi bod yn hynod heriol yn ystod pandemig Covid am y rhesymau canlynol:

  1. Ni fu'n bosibl ailagor rhai o'r gwasanaethau a gynlluniwyd oherwydd rheoliadau Cymru ynglŷn â Covid;
  2. Lle mae gwasanaethau wedi ailagor, maen nhw wedi bod yn gyfyngedig.
  3. Bu rheoliadau gwahanol yn berthnasol i'r llyfrgell a'r ganolfan gymunedol. 

3.    Atebion

Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod cyfnodau clo a phan oedd y ganolfan wedi cau'n rhannol drwy Zoom, e-bost neu'r cyfryngau cymdeithasol. Ailenwyd tudalen Facebook flaenorol ar gyfer ymateb y Coronafeirws yn 'Cyngor o'r Hyb' a dosbarthwyd cylchlythyr rheolaidd â llaw sawl gwaith i bob aelwyd yn yr ardal gan wirfoddolwyr. Newidiodd y prosiect ei ffyrdd o gadw cofnodion hefyd. Yn sgil derbyn y grant Arwain, roedd rhaid i gyfranogwyr fewngofnodi gyda beiro a phapur - penderfynodd y prosiect roi'r gorau i'r dull hwn oherwydd y risgiau iechyd gan logio'r holl weithgarwch ar survey monkey i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint.

4.    Budd

Bu’r prosiect yn cydweithio’n agos iawn â Llyfrgellydd y Sir. Mae hi wedi gallu ein cyfeirio at adrannau eraill ac mae ei gwybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau ym Mhowys yn dda iawn ac mae hi wedi gallu ein helpu i ddatblygu'r gwasanaeth. Mae'r prosiect wedi gallu helpu'r Ganolfan Gymunedol i reoli adferiad gwasanaethau ar ôl diwedd y pandemig.

5.    Canlyniad

O ganlyniad i'r prosiect, rydym wedi gallu datblygu gwasanaethau newydd yn ein Sesiynau Galw Heibio a gynhelir ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Nodwyd problemau camddefnyddio alcohol a chyffuriau o ganlyniad i ailgartrefu ar frys bobl â phroblemau cyffuriau/alcohol yn ystod y pandemig a bu modd i ni drafod gydag elusen cyffuriau/alcohol 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Ruth Forrester
Rhif Ffôn:
07581055508
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.knightoncommunitycentre.com