Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£46,877.00

Cyflwyniad

Roedd ein prosiect cychwynnol yn canolbwyntio ar sefydlu Hwb Menter yn y Drenewydd a daeth i ben yn gynnar yn 2019, oherwydd bod prosiect tebyg ond mwy o faint wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael ei sefydlu yn y Drenewydd, a fyddai'n dyblygu llawer o agweddau allweddol ar ein prosiect.   

Ar ôl edrych ar y cymorth a fyddai'n cael ei ddarparu drwy fenter newydd LlC/Busnes mewn Ffocws, dechreuon ni edrych ar y bylchau o ran hyfforddiant a chymorth.  

Nodwyd gennym fod yna unigolion a fyddai â diddordeb mewn hunangyflogaeth neu ymuno â'i gilydd i weithio fel cydweithfa fach, nad ydynt yn cael eu cefnogi gan y gwasanaethau presennol, sydd â'r nod o gynnig gweithdai llawn gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar faterion penodol fel ysgrifennu cynllun busnes/cadw cofnodion/marchnata.  Nid oedd llawer ar gael i helpu rhywun sy'n cael ei ddenu i weithio'n hyblyg i'w helpu i feddwl pa feysydd gwaith a allai fod yn hygyrch ac yn bleserus, gan ystyried eu cefndir a'u sgiliau eu hunain, yn ogystal â'r economi leol. 

Yr her

Y cam cyntaf yn ein barn ni oedd cael pobl allan o'u cartrefi am ychydig oriau gydag eraill ar gam tebyg, gan eu dwyn ynghyd mewn grŵp bach o amgylch bwrdd i drafod syniadau a nodi rhwystrau a chyfleoedd. Byddai pob sesiwn yn cael ei llunio o amgylch gweithdy, ond dim ond rhan o'r ffocws fyddai'r gweithdy. Byddem yn ceisio nodi rhwystrau penodol a oedd gan unigolion neu oedd yn gyffredin i'r grŵp, ac edrych i weld a allem helpu i ddatrys neu leihau'r rhain drwy ein cysylltiadau ein hunain. Byddai seibiannau coffi heb eu strwythuro a byddai cinio yn cael ei weini wrth y bwrdd, yn oll gyda'r syniad o annog y grŵp i rannu syniadau a chwalu rhwystrau a gwneud cysylltiadau. 

Roeddem yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai a'r gobaith oedd y byddent yn denu carfan fach a fyddai'n aros gyda'r rhaglen a dod yn gymuned gefnogol i'n gilydd.  

Ein blaenoriaethau oedd:

  • Cyflwyno'r rhai nad oedd efallai wedi cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant ers nifer o flynyddoedd yn ôl i amgylchedd dysgu cymunedol.
  • Annog ymgysylltu mewn perthynas â datblygu menter sy'n adeiladu ar sgiliau a phrofiad sy’n bodoli’n barod.  
  • Hwyluso trafodaeth grŵp, gan annog pobl i wrando a chefnogi ei gilydd yn eu hymdrechion.
  • Pan fo’n briodol, cyflwyno pobl i unigolion/busnesau a allai gynghori a darparu cymorth ynghylch meysydd gwaith penodol.
  • Nodi pa gymorth arall sydd ar gael sy'n berthnasol i unigolion neu'r grŵp.
  • Darparu gweithdai busnes lefel mynediad gyda'r nod o fagu hyder a galluogi unigolion i gynllunio eu camau nesaf.  

Roedd y rhaglen ddiwygiedig hefyd yn ceisio ymestyn egwyddorion menter i weithgareddau anariannol, cydweithredol, dan arweiniad gwirfoddolwyr a oedd yn diwallu anghenion cymunedau heb fod o reidrwydd yn 'fusnes' yng ngwir ystyr y gair. Cysyniad roeddem yn ceisio ei grynhoi fel 'gwirfoddolimenter.’  

Fe wnaethon ni ymchwilio i grwpiau Hunan-ddibynnol lle mae nifer o unigolion sydd â chwlwm cyffredin yn dod at ei gilydd. Gallai'r cwlwm fod yn un daearyddol, corfforol, neu heriau eraill mewn bywyd sy’n golygu cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer cyflogaeth drwy lwybrau traddodiadol.  Gyda'i gilydd, maen nhw'n datblygu menter fach sy'n adeiladu ar eu cryfderau a'u sgiliau, gan ddiwallu angen yn y gymuned leol a dod ag ychydig bach o incwm i'r grŵp benderfynu sut i wario.  

Ein hymchwil

Buom yn siarad â gwasanaethau cymorth busnes / addysg eraill yn y Drenewydd i fesur beth oedd ar gael a lle mae bylchau. Buom yn siarad hefyd â sefydliadau sy'n cefnogi unigolion ag anghenion penodol i gael eu barn ar y cymorth a allai helpu i symud unigolion nad oedd yn ymgymryd ag unrhyw fath o waith ar hyn o bryd.

Sefydliadau rydym wedi ymgynghori â hwy:

  •         Kaleidoscope (gwasanaeth cymorth dibyniaeth)
  •         Coleg Castell-nedd Port Talbot – coleg addysg bellach lleol
  •         Staff y Ganolfan Waith
  •         Pont Hafren – elusen iechyd meddwl
  •         Gweithwyr cymorth i ffoaduriaid

Nododd Kaleidoscope a'r gweithwyr cymorth i ffoaduriaid rwystrau penodol a oedd yn ei gwneud hi'n anodd i'w grŵp cleientiaid symud y tu hwnt i fudd-daliadau ac i mewn i ryw fath o waith.  

Mynegodd y rhai oedd yn gweithio gyda ffoaduriaid rwystredigaeth am y diffyg cefnogaeth i'r rhai sydd ag ychydig iawn o iaith Saesneg i ennill cymwysterau ymarferol sylfaenol mewn iaith y gallent gyfathrebu ynddi, neu i allu marchnata eu sgiliau yn y gymuned leol.  

I'r rhai sy'n gadael gwasanaethau dibyniaeth, nodwyd bwlch rhwng y gwaith a wnaethant gyda chleientiaid a hynny yn dod i ben, heb neb ar wahân i'r ganolfan waith i barhau gyda nhw a'u helpu i gael gwaith. Roeddent yn teimlo nad oedd gan y ganolfan waith yr adnoddau na'r sgiliau i ddarparu'r cymorth yr oedd ei angen. Mae'r ganolfan waith dan bwysau i gynorthwyo defnyddwyr i sicrhau cyflogaeth yn gyflym, ac os nad oeddent yn cyd-fynd yn dda, gallai hynny fod yn niweidiol i ddefnyddwyr gwasanaethau. Roeddent yn teimlo y gellid sicrhau gwell canlyniad pe gellid cymryd mwy o amser i helpu unigolion i ddatblygu menter lle maen nhw'n rheoli a lle mae ganddynt rywfaint o hyblygrwydd.  

Beth wnaethom ni

Lluniwyd cyfres o weithdai, oedd wedi’u cynllunio i ddarparu sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sy'n ymwneud â sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol.  

  • Roedd y gweithdai cychwynnol yn ymdrin â phynciau gan gynnwys:
  • Hanfodion cynllunio busnes
  • Tyfu incwm
  • Hanfodion codi arian
  • Denu gwirfoddolwyr a gweithio gyda nhw
  • Llywodraethu Da

I ddechrau, cynhaliwyd y 3 gweithdy a oedd wedi'u targedu'n well at unigolion sy'n datblygu menter fach, yn hytrach na'r rhai a gynlluniwyd o amgylch menter gymdeithasol.
Buom yn cynnal y gweithdai ganol wythnos ar wythnosau olynol yn y gofod hwb bach yn adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd.  

Gofynnom i unigolion gofrestru ar gyfer y gyfres lawn o weithdai.  

Cynlluniwyd sesiynau cychwynnol i fod yn gymharol ysgafn ond addysgiadol gan barhau'n hyblyg fel y gallent fynd i gyfeiriad ac ar lefel sy'n briodol i'r grŵp. Fe wnaethom drefnu gweithdai i ddechrau'n weddol hwyr yn y bore, fel bod y rhai oedd â phlant oedd angen cyrraedd yr ysgol neu'r rhai a oedd â chyfrifoldebau gofalu yn cael cyfle i fynychu.  

Darparwyd cinio a seibiannau coffi wedi'u trefnu ac aeth y gweithdy ymlaen am awr a hanner arall wedyn. Gallem fod wedi cwblhau gweithdy yn hawdd mewn bore neu brynhawn, ond drwy fynd ar draws amser cinio a darparu bwyd da, roeddem yn gobeithio annog pobl i ymlacio a thrafod eu hamgylchiadau a'u dyheadau gyda'i gilydd. 

Marchnata

Gwnaed y marchnata drwy'r cyfryngau cymdeithasol, Facebook yn bennaf, ac fe osodwyd posteri hefyd gyda'r amserlen o ddigwyddiadau mewn ffenestri siopau yn y Drenewydd er mwyn denu pobl nad ydynt efallai ar y cyfryngau cymdeithasol. Sefydlwyd gwefan annibynnol hefyd, gan ddarparu rhagor o wybodaeth am y gweithdai, o dan yr enw Llwybrau at Fenter gyda system archebu ar-lein.  

Budd

Denwyd rhwng 6 a 10 o bobl i bob digwyddiad, gyda nifer o bobl yn mynychu pob gweithdy, gan ddod i adnabod ei gilydd a staff ROCBF.  

Mewn rhai achosion, fel gyda nifer fach o ffoaduriaid, roeddem yn gallu eu helpu i ddatrys problemau penodol, yn ymwneud ag iaith a marchnata sgiliau.  

Fe wnaethom ni hefyd lwyddo i gyflwyno mynychwyr eraill i fusnesau/unigolion oedd â sgiliau a phrofiad perthnasol ac oedd yn barod i'w helpu. 

Gan fod ein gweithdai yn yr ystafell drws nesaf i'r Hyb Menter newydd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, roeddem yn gallu eu cyflwyno i staff yr hyb a oedd yn eu tro yn gallu trafod gweithdai dilynol a fyddai'n helpu gyda'r camau nesaf tuag at hunangyflogaeth.  

Canlyniad

Oherwydd y pandemig, ni aeth ein rhaglen ymlaen y tu hwnt i'r rownd gychwynnol o weithdai oherwydd cyfnodau clo a ddaeth wedyn. Nid oeddem yn credu y byddai’r prosiect yn gweithio fel un digidol gan mai'r hyn a oedd yn werthfawr oedd pobl yn cyfarfod ac yn treulio amser mewn lleoliad grŵp.  

Roedd y gweithdai a gynhaliwyd gennym yn llwyddiannus gan arwain at nifer o gyfranogwyr yn symud ymlaen i gyrsiau mwy ffurfiol a sefydlu mentrau bach.   

Roeddem yn llai llwyddiannus wrth gefnogi'r rhai sy'n dod allan o wasanaethau dibyniaeth oherwydd bod eu gweithiwr achos wedi gadael cyn iddynt fynychu gweithdai. 

Roedd unigolion a gyfeiriwyd atom gan y Ganolfan Waith yn tueddu i ymgysylltu llai, ac mae'n debyg oherwydd eu bod nhw a staff y ganolfan waith dan bwysau i ddarparu atebion cyflym - nad oedd yn cyd-fynd â'r rhaglen mewn gwirionedd.  

Dysgu o'n prosiect

O ystyried bod ein prosiect yn rhedeg am gyfnod cyfyngedig iawn, roeddem ni’n ei weld fel llwyddiant, o ran cael pobl i leoliad cymdeithasol a meddwl am ddatblygu menter, a symud ymlaen i amgylcheddau addysgol eraill.  

Yr elfen fwyaf llwyddiannus oedd pan oedd y cysylltiadau a'r adnoddau gennym i ddatrys rhai problemau ymarferol yn ymwneud ag iaith a marchnata, ac i wneud cyflwyniadau a oedd, gobeithio, yn symud pobl ymlaen.  

Rydym yn gweld bwlch yn y ddarpariaeth o ran cefnogi pobl sydd â heriau penodol yn ymwneud ag iechyd meddwl a heriau corfforol. Credwn fod llawer mwy y gellir ei wneud yn y maes hwn ar y cyd â gwasanaethau cymorth eraill sydd â'r pwrpas o alluogi unigolion i mewn i fywyd gweithredol a hapus, ond heb offer i ymdrin â'r heriau o ddod o hyd i waith a dod yn gynaliadwy yn ariannol.    

Oherwydd y cyfnodau clo, ni chawsom gyfle i  oeddem ychwaith yn archwilio'n drylwyr y cyfleoedd sydd ar gael i grwpiau hunanddibynnol a pha mor hyfyw y gallai hyn fod ar gyfer rhai unigolion. Er, mae’r math hwn o fenter yn ennill momentwm mewn rhannau eraill o'r DU.  
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mick Brown
Rhif Ffôn:
01686 626234
Email project contact