Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£20400.00

Cyflwyniad 

Roedd y prosiect yn canolbwyntio'n llwyr ar weithio gyda grŵp clwstwr â chyfansoddiad o'r enw Grŵp Clwstwr Gwledig Dyffryn Trefaldwyn (VMRC). Y pwrpas oedd cynorthwyo'r grŵp clwstwr i nodi a hyfforddi eu gwirfoddolwyr eu hunain i flaenoriaethu a rheoli'r hawliau tramwy cyhoeddus o fewn eu ffiniau, a chymryd rhywfaint o berchnogaeth o fynediad cyhoeddus i wella iechyd a lles eu preswylwyr a lles yr economi leol drwy hyrwyddo'r hawliau tramwy cyhoeddus sy'n cael eu hagor a'u cynnal.

Un o'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y VMRC oedd y ddarpariaeth gynyddol ar gyfer mynediad i'r cyhoedd, ac agor a chynnal y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus a oedd wedi dod yn amhosibl oherwydd rhwystr bwriadol. Cafodd y gymuned ei hysgogi i sicrhau nad oedd hyn yn parhau, ac, fel y digwyddodd, ar yr un pryd, roedd y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn bwriadu mabwysiadu dull a arweinir mwy gan y gymuned o reoli'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

Yr heriau 

Y broblem allweddol a wynebodd y prosiect oedd cadw Tîm o Wirfoddolwyr gweithgar a hyfforddedig. 

Arweinydd (VTL). Mae swydd VTL yn un allweddol a chaiff y deiliad ei hyfforddi'n addas ar gyfer y swydd, ac mae’n wirfoddolwr sy'n cymryd y cyfrifoldeb am oruchwylio gwirfoddolwyr ar lawr gwlad.

Mae'r VTL yn swydd allweddol, ac, er i'r prosiect recriwtio VTL, nid oedd modd cadw'r swydd yn ystod oes y prosiect.

Atebion

Yr ateb oedd bod amrywiaeth o deithiau cerdded wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio Trefaldwyn fel hyb canolog ar gyfer yr Ŵyl Gerdded mewn cydweithrediad â'r VMRC. Roedd hyn yn rhoi ffocws ar gyfer nodi a hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol ar gyfer amcanion canol a thymor hir y prosiect.

Roedd y VMRC, fel grŵp clwstwr â chyfansoddiad, yn ystyried bod rheoli ei rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus er mwyn datblygu teithiau cerdded a'r economi leol fel blaenoriaeth allweddol. Felly, roedd dyheadau'r Gwasanaethau Cefn Gwlad fel yr awdurdod priffyrdd a'r VMRC yn bartneriaeth ddelfrydol.

Mae'r hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr a VTL yn seiliedig yn gyfan gwbl ar yr hyn y mae'r Gwasanaethau Cefn Gwlad eisoes yn ei ddarparu, ac ar hyn o bryd mae wyth o wirfoddolwyr gweithredol yn gweithio gyda'r gymuned ac yn cael eu rheoli gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad.

Budd 

Gyda gweithlu cadarn o wirfoddolwyr, gall y gymuned reoli hawliau tramwy cyhoeddus, sy'n golygu y gallant nodi a blaenoriaethu gwaith fel y gwelant yn dda. Bydd cyngor a deialog barhaus gyda'r Cyngor fel yr awdurdod priffyrdd, yn ogystal â'r gorchmynion cyfreithiol a'r orfodaeth ffurfiol os bydd angen. Mae'r fethodoleg hon, a gweithio mwy gyda'r gymuned, yn rhywbeth y mae'r gwasanaeth yn ymdrechu i’w gyflawni ac wedi ei fabwysiadu yn ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft 10 mlynedd.

Canlyniad 

  • Mae llawer iawn o waith llwybrau troed wedi'i wneud mewn ardal sydd â rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus sylweddol ond sydd â llawer o broblemau yn ymwneud â seilwaith, cyfeirnodi a llwybrau sydd wedi'u rhwystro.
  • Grŵp o wirfoddolwyr llwybrau troed sydd wedi'u hyfforddi'n lleol ac sydd â chyfarpar i gyflawni gwaith wedi'i flaenoriaethu ar draws y Clwstwr. 
  • Gwaith â ffocws ar yr ardal gan gontractwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad lle na all gwirfoddolwyr wneud tasgau'n hawdd.
  • Prosiect cymunedol cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar lwybrau sy'n bwysig i'r cymunedau a all fod yn hunan-raglennu unwaith y bydd Arweinwyr y Tîm Gwirfoddol wedi derbyn hyfforddiant.
  • Cynnydd mewn cerdded yn yr ardal gyda dau grŵp cerdded newydd a dau grŵp arall yn gweld cynnydd sylweddol mewn aelodaeth.
  • Helpu Walkers are Welcome Trefaldwyn i sefydlu Gŵyl Gerdded flynyddol drwy sicrhau bod y llwybrau a gynlluniwyd yn hawdd eu cyrraedd a thrwy gynorthwyo gyda deunydd hyrwyddo. Daeth hyn â dros 80 o bobl i'r ardal a oedd y tu allan iddi, ac mae llawer yn dychwelyd ar gyfer Gŵyl 2018, sy'n hwb i'w groesawu i'r economi leol.
  • Cyhoeddi nifer o daflenni cerdded cylchol ar draws y Clwstwr sy'n disgrifio llwybrau sydd bellach yn hygyrch. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio'n dda gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Unwaith eto o fudd sylweddol i economi dwristiaeth y VMRC.
  • Cysylltiadau gwaith da â'r VMRC a Gwasanaethau Cefn Gwlad, gyda'r VMRC yn cael gwell dealltwriaeth o'r hawliau a'r cyfrifoldebau o ran y rhwydwaith.

Ar hyn o bryd, mae'r clwstwr yn sefydlu grŵp llywio i fwrw ymlaen â'r prosiect Llwybrau Troed. 

Bydd hyn yn gynrychioliadol o'r clwstwr; i gysylltu â'r gymuned pan fydd materion llwybrau troed yn codi a chysylltu â'r Gwasanaethau Cefn Gwlad i gael cyngor a chefnogaeth. Bydd y grŵp yn blaenoriaethu'r rhaglen waith ar gyfer y gwirfoddolwyr ac yn sicrhau bod hyn yn deg ar draws y Clwstwr. 

Ar y cyfan, mae'r rhaglen wedi bod yn fuddiol o ran gwella mynediad; hyrwyddo Hawliau Tramwy a sefydlu protocolau ar gyfer gweithio traws-gymunedol a chysylltiadau ag adrannau'r Cyngor.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mark Stafford-Tolley
Rhif Ffôn:
01597 827677
Email project contact