Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£6781.00

Cyflwyniad

Mae’r Wilderness Trust wedi cael ei hariannu gan Arwain i wneud gwaith ymchwil ac i ysgrifennu Astudiaeth Ddichonoldeb ar amrywiaeth o adeiladau adfeiliedig yng nghanol Llanidloes ac ar gyfer eu haddasu at ddefnydd cymunedol. Mae'n nodi'r cyfleusterau presennol yn y dref a'r anghenion yn y gymuned ac yn pennu'r ail-bwrpasu tebygol ar gyfer pob elfen o'r cyfadeilad er mwyn diwallu'r anghenion hynny. 

Her

Cafodd hyd at 70 o grwpiau/sefydliadau rhanddeiliaid eu cynnwys yn yr astudiaeth yn ogystal ag adborth gan dros 340 o bobl mewn dau gyfnod ymgynghori. Mae'r adroddiad yn nodi manylion hanes ac elfennau strwythurol casgliad o adeiladau adfeiliedig sy'n cynnwys Capel Bethel, Neuadd Bethel, rhes o Garejys a Gardd Gymunedol, yn agos i ganol Llanidloes.

Atebion

Mae ail-bwrpasu'r adeiladau yn parhau â thraddodiad hir, gan fod y Neuadd wedi cael ei hail-bwrpasu deirgwaith yn barod (o warws, i gapel Cymraeg, i ganolfan gymdeithasol a siop nwyddau haearn). Bob tro, mae'r adeilad wedi'i addasu i ymateb i anghenion lleol heb ddifrod sylweddol i'r adeilad. Mae'r adroddiad hwn yn nodi anghenion yn y gymuned y gellir eu diwallu drwy adfer yr adeiladau mewn modd sensitif ar gyfer digwyddiadau cyfoes.

Budd

Mae cyfanswm o 43 o fusnesau lleol, 23 o grwpiau lleol a 120 o unigolion wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r cyfleusterau, unwaith y byddant wedi cael eu hadfer. Canfuwyd y bydd ystod eang o'r gymuned yn elwa o'r prosiect.

Canlyniad

Y casgliad yw y bydd y Neuadd yn cael ei defnyddio fel canolfan i’r celfyddydau gyda'r llwyfan gwreiddiol o'r 19eg ganrif yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar gyfer perfformiadau, ffilmiau a darlithoedd. I fyny'r grisiau gall y Neuadd fod yn gartref i stiwdios a swyddfeydd. Yn y Capel cynigir marchnad dan do gyda'r Festri a'r Ystafell Ysgol yn cael eu defnyddio fel canolfan ar gyfer yr economi gylchol/hyb bwyd, gyda fflat uwchben ar gyfer warden, teulu ffoaduriaid neu angen brys arall. Gellir adfer y Garejys a’u defnyddio fel gweithdai cymunedol. Gwnaed cyfraniad sylweddol i'r astudiaeth gan ymgynghorydd gwirfoddol a aeth ati i baratoi'r lluniadau a oedd yn cyd-fynd â'r astudiaeth.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Luc-Antoine Bonte
Rhif Ffôn:
01686 413 857
Email project contact