Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
£4999.00

Technoleg wedi'i datblygu'n lleol yn helpu busnesau Gwynedd a Môn yn ystod pandemig Covid-19

Mae COVID-19 wedi ac yn parhau i osod heriau mawr i fusnesau Gwynedd ac Ynys Môn. Pwrpas ein technoleg newydd, Store Tally yw ceisio datrys rhai o’r heriau hynny. Dyfais Rheoli Dwysedd Ymwelwyr ydyw, i amlygu pwysigrwydd iechyd a diogelwch cwsmeriaid a staff i fusnesau’r ardal.

Crëwyd y dechnoleg gan gwmni lleol yn M-Sparc er mwyn cyfri’r nifer o bobl sy’n mynd mewn ac allan o adeiladau. Ar ôl cyrraedd capasiti, bydd croes goch yn ymddangos i hysbysu pobl i beidio â mynd mewn i’r adeilad tan fydd arwydd gwyrdd yn caniatáu iddynt fynd mewn. Caniatâ hyn i aelodau staff barhau gyda’u cyfrifoldebau arferol, yn lle gorfod rheoli/cynorthwyo’r ciwiau y tu allan i’r adeilad.


Yn ystod y peilot, gosodwyd y dechnoleg mewn sawl busnes gwahanol yng Ngwynedd ac Ynys Môn:

  • Halen Môn
  • Siop Ellis Llangefni
  • Tafarn y Rhos
  • Canolfan Arddio Holland Arms
  • Fferm Foel

Gwynedd-

 

  • Canolfan Arddio Fron Goch
  • Spar Nefyn
  • Spar Pwllheli
  • Emrys House Beddgelert
  • Siop Hosbis Dewi Sant Pwllheli

Mae AGW ac Arloesi Mon yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar fusnesau, a rhoi sicrwydd ychwanegol i gwsmeriaid. Gan fod hwn yn beilot, byddant yn dysgu pa mor effeithiol yw'r dechnoleg, ac yn rhannu'r wybodaeth hon gyda busnesau eraill ar draws y ddwy sir.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rhian Hughes
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact