Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£6400.00

Cyflwyniad 

Mae pandemig COVID-19 wedi gwneud i'r Gwasanaethau Diwylliannol ail-werthuso'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu i ddefnyddwyr, ac yn 2020 cydnabuwyd bod diffyg strategaeth a dealltwriaeth ynghylch manteision defnyddio technolegau digidol yn atal y gwasanaeth rhag cyflawni ei amcanion strategol ehangach. Mewn ymateb i hyn, datblygodd Gwasanaethau Diwylliannol Powys Strategaeth Ddigidol yn 2021 sy’n cynnwys map trywydd tri cham: 

  • Cychwyn 
  • Cysylltu a Chydweithio 
  • Cynnal 

Bydd pob cam yn gweld graddau gwahanol o weithgarwch ar draws pedair elfen gyflenwi, wedi'u hategu gan y ddwy elfen gefnogol: 

Presenoldeb Digidol Dull cydlynol, cyson, cydgysylltiedig a llawn ffocws o gyfathrebu â'n cynulleidfaoedd - ar draws pob sianel yn cynnwys y wefan, y cyfryngau cymdeithasol, negeseuon e-bost, Google.

Dysgu ac Addysgu Trawsnewid a throsi arbenigedd a gwybodaeth staff yn wybodaeth a chynigion digidol. 

Chwilio'r Asedau Agor mynediad i asedau a chasgliadau o bob rhan o'r gwasanaeth. Cynhyrchu metadata i gynorthwyo gyda chwilio ac yn y pen draw cynhyrchu incwm. 

Mynd yn Glyfar Cysylltu'r adeiladau â'r profiad digidol - ymestyn hunanwasanaeth; cyflwyno technolegau ymgolli; integreiddio technoleg i olrhain a deall y defnydd o'r adeilad ac yn y pen draw hybu cynilion. 

Meysydd Cymorth: 

Rhannu'r Llwyth Dysgu gan y gorau a'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn mannau eraill. Adeiladu partneriaethau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. 

Datblygu ein Gwybodaeth Strategaeth ganolog ar gyfer dal holl ddata defnyddwyr - gan ddefnyddio dadansoddi i fireinio a datblygu gwasanaethau newydd yn seiliedig ar anghenion a deallusrwydd defnyddwyr. 

Drwy'r cyllid grant hwn, comisiynwyd cymorth arbenigwr allanol i'n helpu i ddatblygu gwaith yn ymwneud â’r llinyn cyflenwi Chwilio'r Asedau.

Her 

Mae'r uchelgais i edrych ar draws yr archif, casgliadau amgueddfeydd, a chasgliadau llyfrgelloedd lleol, i ddatblygu dull cyffredin a chynaliadwy o baratoi deunyddiau casgliadau at ddefnydd ar-lein yn greiddiol i wireddu amcanion y Strategaeth Ddigidol a ffurfiwyd yn ddiweddar. Yn ystod datblygiad y Strategaeth Ddigidol, daeth yn amlwg bod gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o blatfformau a chysoni amlygiad casgliadau ac asedau yn faes datblygu pwysig i Wasanaethau Diwylliannol Powys. 
Mae llinyn cyflawni 'Chwilio'r Asedau' y Strategaeth Ddigidol yn canolbwyntio ar gyflawni'r nod hwn. Yn y pen draw, bydd hyn yn cefnogi'r gwasanaeth wrth i ni weithio tuag at gyflawni ein nod digidol i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ac ehangach, yn ogystal â cheisio dod yn fwy cynaliadwy yn fasnachol fel sefydliad. 

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yn ymgysylltu â'r curaduron a'r archifyddion sy'n gweithio ar draws yr archif, casgliadau amgueddfeydd, a chasgliadau astudiaethau lleol, i ddeall sut y gellid dod â'r asedau at ei gilydd a'u cyflwyno drwy un rhyngwyneb.

Atebion 

Mae'r adroddiad dichonoldeb yn manylu ar ganfyddiadau'r astudiaeth, gan edrych ar sut gall Gwasanaethau Diwylliannol Powys ddod â'r archif, casgliadau amgueddfeydd, a chasgliadau astudiaethau lleol ynghyd, i gyflwyno'r asedau drwy blatfform casgliadau unigol a rhyngwyneb pen blaen i ddefnyddwyr ar-lein. 

Roedd yr ymchwil yn ceisio deall tirwedd gyfredol yr archif a'r casgliadau, gan gynnwys pa fetadata sydd ar gael o ddigideiddio a chatalogio blaenorol; pa gysylltiadau thematig y gellir eu gwneud ar draws yr archif a'r casgliadau; beth yw'r opsiynau ar gyfer un platfform casgliadau i Wasanaethau Diwylliannol Powys; a sut mae angen i'r canfyddiadau hyn lywio digideiddio'r casgliadau a'r broses o gynhyrchu metadata yn y dyfodol. 

Mae'r adroddiad yn darparu'r canfyddiadau ac yn manylu ar gynllun gweithredu er mwyn gweithio tuag at blatfform casglu ar-lein y gellir ei chwilio ar gyfer y Gwasanaethau Diwylliannol, er mwyn annog ymgysylltiad cymunedol â'r casgliadau, ond hefyd i ddenu cynulleidfa ehangach yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gael mynediad at y cynnig treftadaeth a diwylliannol o Bowys.

Budd 

Mae nifer o fanteision allweddol sy'n sail i'r ymgyrch tuag at ddatblygu platfform casgliadau sengl a rhyngwyneb pen blaen: 

  • Arddangos Casgliadau Powys fel un ac ymgysylltu â phobl leol a'r rhai sydd ymhellach i ffwrdd i edrych ar asedau yn y casgliadau a rhyngweithio â nhw, er enghraifft sgorio, rhannu a gwneud sylwadau 
  • Datblygu dull cyffredin o gynhyrchu geiriau allweddol a metadata ar gyfer chwiliad pen blaen 
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer masnachu

Canlyniad 

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb hon wedi cyflawni'r canlynol: 

  • Astudiaeth sylfaenol o'r dull metadata cyfredol ar draws amgueddfeydd, yr archif, a'r casgliadau astudiaethau lleol 
  • Nodi data catalog cyfredol perthnasol y gellir ei ddefnyddio i gefnogi chwiliad ar-lein pen blaen 
  • Cyflawni dealltwriaeth o sut gallai gosod gair allweddol ychwanegol a metadata emosiynol wella chwilio ar draws yr asedau 
  • Ymchwilio i sut gellir cyflwyno'r archif a'r casgliadau fel un 
  • Datblygu cynllun gweithgarwch gweithredu cynaliadwy ar gyfer datblygu cronfa ddata chwiliadwy gyda gwybodaeth a delweddau o eitemau o bob rhan o'r casgliadau ac archifau amrywiol sydd gan Wasanaethau Diwylliannol Powys
     

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Catherine Richards
Rhif Ffôn:
01597 826086
Email project contact