Lleoliad:
Conwy
Swm cyllido:
£3372.00

Beth oedd y mater a ddyluniwyd y prosiect i fynd i’r afael ag o? 

Mae Trefriw yn bentref llawn treftadaeth ddiwylliannol sydd yn anaml iawn yn cael ei drafod, archwilio, chwilota, mynegi neu ddogfennu mewn unrhyw ffordd gydlynol. Mae chwedlau a llên gwerin yn gwbl ddieithr i ymwelwyr ac i lawer iawn o’r bobl leol hefyd.

Mae gan Drefriw, sydd yn un o lond llaw o leoliadau yng Ngogledd Cymru, statws Croeso i Gerddwyr: www.walkersarewelcome.org.uk

Mae gan y pentref grŵp gwirfoddol ymroddedig sydd yn datblygu a rheoli amryw o weithgareddau yn cynnwys yr Ŵyl Gerdded flynyddol sy’n mynd yn fwy poblogaidd bob blwyddyn: www.trefriwwalkingfestival.co.uk

Llwybrau Trefriw ac Awyr Agored Trefriw: www.trefriwoutdoors.co.uk

Hefyd cynhaliwyd y Rasys Melin yn Hydref 2016 a 2017 ac un arall yn cael ei gynnal yn Awst 2018.

Nod y prosiect oedd darganfod a chwilio am chwedlau a llên gwerin leol a’i ddogfennu mewn ffordd sy’n hawdd ei ddefnyddio i’r gymuned leol ac ymwelwyr, i ychwanegu diddordeb a gwerth i Ŵyl Gerdded 2017 trwy wybodaeth a theithiau cerdded newydd, i gynnig sesiynau celf/creadigol i greu darnau o ‘gelf chwedloniaeth’ ac i annog pobl i ymweld a mwynhau ein hardal.

Sut oedd y prosiect yn bwriadu mynd i'r afael â hyn?

Yn 2017, Blwyddyn y Chwedl, fe ddatblygodd y grŵp Croeso i Gerddwyr syniadau am chwedlau, straeon a llên gwerin Trefriw gan edrych ar ffyrdd o ddogfennu a rhannu’r rhain a’u cysylltu nhw â Gŵyl Gerdded 2017 (19 – 21 Mai). Yn wreiddiol awgrymwyd y syniad o sefydlu ap, ond wedi
rhagor o ymchwil nid hynny oedd y ffordd fwyaf priodol ymlaen.

Ychwanegwyd aelodau newydd i’r grŵp Croeso i Gerddwyr oedd yn cynnig sgiliau penodol (hanes, yr iaith Gymraeg, arweinwyr cerdded, gweinyddol ac ati) a gyda chefnogaeth cyllid LEADER roedd modd gwneud ymchwil, datblygu a chynnig nifer o weithgareddau yn ystod 2017 oedd yn dogfennu a rhannu ein chwedlau, straeon a llên gwerin yn y gymuned leol a thu hwnt.

Mae hyn yn cynnwys: 

  • Llwybr Chwedlau newydd a darparu gwybodaeth am chwedlau, straeon a llên gwerin yn gysylltiedig â holl deithiau cerdded yr Ŵyl Gerdded,
  • darparu gweithgareddau yn benodol i 'chwedlau' newydd ar gyfer yr Ŵyl Gerdded gan gynnwys creu rap chwedlau, teithiau cerdded ag adrodd straeon.
  • datblygu a chynnig hyfforddiant i ‘lysgenhadon’ a fyddai’n meddu ar fwy o wybodaeth fanwl am yr ardal, chwedlau, straeon a llên gwerin
  • artist lleol yn rhedeg cyfres o sesiynau crefft gyda’r thema chwedlau gan gynnig y cyfle i ‘adrodd stori’ trwy dechnegau gwahanol
  • darn o gelf i’w gadw fel etifeddiaeth

Roedd hefyd rhywbeth cadarnhaol yn deillio ohono gyda Threfriw yn cystadlu yng nghystadleuaeth pentref yn ei blodau yr RHS am y tro cyntaf a chynhaliwyd Gŵyl Bwganod Brain (gyda dros 80 o fwganod brain – llawer wedi defnyddio'r thema chwedlau) gan olygu Gwobr Arian
i'r pentref. 

Pa wersi a ddysgwyd o gyflawni'r prosiect? A fyddech chi'n newid unrhyw beth os byddai'r prosiect yn cael ei redeg eto?

Roedd yn rhaglen heriol a addaswyd wrth fynd ymlaen. Un syniad allweddol yn wreiddiol oedd datblygu ap (neu debyg), ond ar ôl gwneud mwy o waith ymchwil daethpwyd i'r canlyniad nad oedd yn weithgaredd cost effeithiol.

Roedd y Pentref yn ei Blodau / Gŵyl Bwganod Brain a ddeilliodd o’r gwaith blaenorol yn hynod bositif ac wedi denu llawer mwy o bobl i gymryd rhan.

Roedd galw sylweddol ar unigolion allweddol o fewn y grŵp Croeso i Gerddwyr i gynllunio a rhedeg y prosiect – bu llawer mwy o oriau gwirfoddoli na'r disgwyl.

Roedd llawer iawn o waith wedi’i wneud ar weinyddu a chadw cofnod oriau gwirfoddoli ar gyfer y cyllid LEADER. Eto, roedd y cyfanswm gwaith yn llawer mwy na’r disgwyl.

Roedd y sesiynau crefft yn boblogaidd hefyd ac wedi denu pobl newydd i’r gweithgareddau.

Mwy o bobl newydd wedi cymryd rhan yn y gwaith cynllunio a darparu ac roedd hynny’n dangos ein bod angen gwneud mwy o waith ar ddatblygu cyfnod cynefino i wirfoddolwyr yn ogystal â hyfforddiant a chefnogaeth. Ar y cyfan roedd yn brosiect cadarnhaol iawn. Ond ar gyfer y dyfodol bydd unrhyw raglen o'r maint hwn angen neilltuo mwy o amser ar gyfer cynllunio a gweinyddu.

Ar y cyfan roedd gweithgareddau’r rhaglen yn hynod lwyddiannus. Roedd y chwedlau, straeon a’r llên gwerin yn rhan gyfannol o’r Ŵyl Gerdded gyda llawer o sylwadau cadarnhaol gan y gymuned leol a’r ymwelwyr ynglŷn â’r wybodaeth a drosglwyddwyd.

Mae etifeddiaeth barhaus o'r Llwybr Chwedloniaeth newydd a’r gwaith celf.

Beth oedd effaith y prosiect?Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn - Niferoedd yn yr Ŵyl Gerdded wedi cynyddu ers 2016.

  Gŵyl Gerdded 2016 Gŵyl Gerdded 2016
Nifer o deithiau cerdded 16 20
Niferoedd o lefydd ar y teithiau cerdded 175 220
Nifer wnaeth gymryd rhan 74% 81%

Cerddwyr o -

  • Gymru
  • Y DU (nid yn cynnwys
     Cymru)
  • O dramor
Cofnodion heb eu cadw

 

  • 72%
  • 23%
  • 5%
Arweinwyr / cynorthwywyr cerdded 26 +2 ‘wrth gefn’ 38 + 5 ‘‘wrth gefn’
Swyddogion cymorth cyntaf 10 14
Llysgenhadon wedi'u hyfforddi Amherthnasol 31

 

Creu'r ‘rap’ sydd ar gael ar y wefan: www.trefriwwalkingfestival.co.uk/the-legends-legacy a’r storia yn uchafbwyntiau’r rhaglen. Cerddwyr wedi gwneud sylwadau ar ba mor dda oedd darganfod mwy am chwedlau a straeon yr ardal wrth fwynhau’r awyr agored. Y gweithgareddau themâu newydd yn boblogaidd ac yn llwyddiannus iawn.

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

“Roeddwn i’n meddwl bod y digwyddiad wedi’i redeg yn dda iawn. Diolch unwaith eto am fy nghynnwys. Wedi mwynhau yn fawr. Dymuniadau gorau a llongyfarchiadau unwaith eto am redeg digwyddiad mor drefnus a phoblogaidd.”

Fiona (Storïwr).

“Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a chyflawni gŵyl gerdded Trefriw. Fel rhywun yn cymryd rhan am y tro cyntaf roedd yn brofiad pleserus iawn. Mae nifer o deithiau cerdded ar gyfer pob mathau o alluoedd yn dechrau o neuadd y pentref lle bydd paneidiau o de a choffi ar gael i’ch croesawu chi. Arweinwyr a cherddwyr diddorol, llawn gwybodaeth a brwdfrydedd gyda diweddglo bendigedig o gacennau. Y cyfan mewn cefn gwlad brydferth gyda storïau a cherddoriaeth! Dwi’n gobeithio dod yn ôl."

Cerddwr.

‘Dwi ddim yn gerddwr gwych felly mae gallu cymryd rhan yn y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar a gwneud y rap yn ychwanegiad gwych’r.

Cerddwr.

Mae’r ‘Llwybr Chwedlau’ newydd yn parhau i fod yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr.

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

”Rydym wedi cerdded rhai o lwybrau Trefriw o’r blaen ac roedd y llwybr chwedlau newydd yn syrpréis bach annisgwyl ac roeddem wrth ein boddau.” 

Cerddwyr.

”Drosodd o’r UDA roeddem yn yr ardal ac fe glywom am yr ŵyl. Rydym mor falch ein bod wedi dod, rydym wedi dysgu gymaint. Roedd y plant wrth eu bodd gyda'r straeon yn yr eglwys.”

Teulu yn cerdded.

Roedd datblygu a darparu hyfforddiant i Lysgenhadon yn cael ei weld yn ddefnyddiol iawn. Roedd y rhan fwyaf o’r arweinwyr cerdded wedi treulio rhagor o amser yn ymchwilio i chwedlau/straeon//llên gwerin eu hunain a ychwanegwyd at fwynhad pawb.

Roedd y sylwadau yn cynnwys:

“Hoffwn ddweud gymaint dwi ‘di mwynhau bod yn rhan o’r ŵyl ac mewn arwain taith gerdded eleni. Mae’r hyfforddiant wedi fy helpu yn fawr ac yn bersonol dwi’n gwybod llawer mwy rŵan am chwedloniaeth leol ac wedi gallu dweud y straeon wrth bobl. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn ddigwyddiad gwych ac roeddwn yn falch iawn o gael bod yn rhan ohono."

Arweinydd Cerdded.

Roedd llawer iawn wedi cymryd rhan yn y sesiynau crefft gyda gwaith celf yn cael ei arddangos mewn caffi lleol a darn o gelf wedi'i greu gan gyfranogwyr lleol yn creu etifeddiaeth barhaus.

Sylwadau gan bobl wedi cymryd rhan:

‘Dwi’n gwneud crefftau adref ond roedd hi’n braf ymuno ag eraill a gwneud pethau yn seiliedig ar y themâu chwedlau’

‘Hoffwn i fod wedi gallu mynd i’r holl sesiynau ond roedd hi’n braf cael cymryd rhan’

‘Mae’n neis meddwl bod ein holl chwedlau wedi cael eu rhoi at ei gilydd i wneud darn o etifeddiaeth parhaus’

‘Dwi wir yn gobeithio y bydd mwy o sesiynau fel hyn’

‘Roedd hi’n hyfryd gweld y lluniau yn y caffi ac i weld y darn terfynol yn dod at ei gilydd'

Mae’r pethau sydd wedi deillio yn cynnwys cymryd rhan yng nghystadleuaeth Pentref yn ei Blodau RHS lle mae llawer o drigolion wedi ymuno i wneud y pentref edrych yn hynod brydferth ac wedi cynnwys Gŵyl Bwganod Brain gyda mwy na 80 o fwganod brain ar ‘Lwybr Bwganod Brain’ sydd newydd ei ddatblygu! Mae’r holl waith caled wedi ennill Gwobr Arian i’r pentref.

Sylwadau yn cynnwys:

‘Fyswn i byth wedi meddwl y gallwn i wneud rhywbeth ar gyfer pentref yn ei blodau ond mae wedi bod yn llawer o hwyl gwneud y bwganod brain!'

‘Er bod y beirniaid (pentref yn ei blodau) ddim yn galw ffordd hyn dwi heb os am gael bwgan brain!’

‘Dwi erioed di gweld y pentref yn edrych mor brydferth, mae gymaint o bobl wedi helpu i wneud hyn ddigwydd’.

‘mae’n wych gweld bod yr holl waith caled wedi ennill Gwobr Arian i’r pentref’

‘roedd hi’n grêt gweld gymaint o flodau a bwganod brain pan wnaethon ni ymweld â Threfriw. Roedd y plant wedi mwynhau’r llwybr ac wrth eu boddau gyda’r bwganod brain a’r chwedlau’

Sut fydd y prosiect yn gynaladwy yn y dyfodol? Beth yw’r camau nesaf?

Mae'r Ŵyl Gerdded yn boblogaidd ac yn parhau yn 2018. Mae’r gwaith cynllunio wedi dechrau’n barod. Mae’n dod ag ymwelwyr ychwanegol i’r pentref ac felly yn helpu’r economi leol.

Mae’r ‘Llwybr Chwedlau’ bellach wedi’i gynnwys yn Llwybrau Trefriw.

Mae llyfr o chwedlau, straeon a llên gwerin wedi'i ysgrifennu a'i hunan-gyhoeddi.

Mae grŵp garddio newydd sydd yn edrych ar ffyrdd o gynyddu'r diddordeb ymhellach mewn cadw Trefriw ‘yn ei blodau’.

Mae posibilrwydd y bydd sesiynau crefft yn parhau a thrafodaethau hefyd ynglŷn â dosbarth clustogwaith.

Canlyniad llai gweladwy yw bod mwy o bobl yn y pentref yn adnabod eu gilydd ac yn stopio i siarad.

Mae busnesau lleol yn adrodd bod mwy o bobl wedi ymweld â’r pentref yn ystod yr ŵyl ac mae rhai wedi edrych i archebu llety yn arbennig ar gyfer yr ŵyl.

Unrhyw sylwadau eraill:

Mae llawer o breswylwyr wedi dweud gymaint wnaethon nhw fwynhau y llynedd, bod yna deimlad positif yn y pentref a llawer mwy o bobl yn stopio i ddweud helo ac i sgwrsio. Roedd pobl yn sylwi fod y pentref yn edrych yn fwy prysur gyda mwy o bobl yn mwynhau lluniaeth a cherdded y llwybrau.

Llawer o ddiolch i LEADER (Ela a Tom) am eu cefnogaeth a’r cyllid sydd wedi galluogi Trefriw i hyrwyddo Blwyddyn y Chwedlau.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Elen Edwards
Rhif Ffôn:
01492 576670
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.ruralconwy.org.uk