Lleoliad:
Abertawe
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£29750.00

Menter gymdeithasol arobryn gyda hanes 15 mlynedd o gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau drwy weithgareddau awyr agored ystyrlon yw Down to Earth.

Ers 2005, mae Down to Earth wedi creu 2 safle ysbrydoledig lle maent yn cynnal rhaglenni dysgu a lles arobryn.

Yn ystod gwanwyn 2021, derbyniodd y prosiect sydd wedi'i leoli ym Murton grant o £29,750 gan ffrwd gyllido LEADER RhDG Abertawe. Bydd y cyllid yn eu galluogi i ehangu gardd draddodiadol fach bresennol gyda mannau tyfu ychwanegol, er mwyn cynhyrchu mwy o fwyd a chyflwyno'r cysyniad Gardd Goedwig blaengar.

Mae'r ymagwedd Gardd Goedwig yn arloesol am ei bod yn ceisio bod yn fiolegol gynaliadwy, mae'n gallu ymdopi ag aflonyddiadau fel newid yn yr hinsawdd, mae'n gynhyrchiol, gan gynhyrchu nifer (yn aml yn fawr) o gynhyrchion gwahanol, a does dim angen llawer o waith cynnal.

Ers ei sefydlu, mae cyllid LEADER y Bartneriaeth Datblygu Gwledig wedi cefnogi prosiectau arloesol ac nid yw'r prosiect hwn yn eithriad. Mae hefyd yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth PDG Abertawe ar gyfer dyfodol 'un blaned'.

Mae Garddio Coedwig yn ffordd o dyfu bwyd sy'n adlewyrchu natur, er enghraifft drwy dyfu bwyd ar haenau gwahanol fel ecosystem goetirol. Drwy greu gardd goedwig fwy, bydd y prosiect yn creu man tyfu sy'n fiolegol gynaliadwy, sy'n gallu ymdopi ag ymyriadau fel newid yn yr hinsawdd, ac a fydd yn dod yn fwy cynhyrchiol ac ni fydd angen ei gynnal cymaint. Bydd hefyd yn cynyddu amrywiaeth ecolegol ac yn darparu cynefinoedd gwell.

Drwy ddatblygu'r ardd goedwig, mae'r prosiect yn ceisio datblygu cymuned gref gyda phobl leol o Landeilo Ferwallt ac ardal Gŵyr ehangach, a'r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid ar draws y sir.  Mae'r prosiect hwn yn cefnogi mynediad i gefn gwlad ar gyfer grwpiau difreintiedig yn ogystal â datblygu cysylltiadau â chymdogion y safle.

Mae arian y RhDG yn cael ei ddefnyddio i gyflogi personél dynodedig i ddatblygu cynllun plannu'r ardd goedwig, a hefyd ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiadau gwirfoddol a fydd yn newid bywydau, i gyd-fynd â chyfres o raglenni lles i'r grwpiau hynny sydd fwyaf anodd i'w cyrraedd. Bydd yr Ardd Goedwig yn darparu man gwyrdd cadarnhaol a chroesawgar.

Bydd y rheini sy'n gweithio yn yr ardd goedwig yn:

  • adeiladu ardal gompostio, ardal eistedd newydd a chynefin pwll dŵr
  • plannu coed sbesimen newydd a llwyni bwytadwy ac yn ehangu lleiniau llysiau blynyddol
  • lluosogi a phlannu haenau llysieuol o fewn gardd goedwig
  • tocio a chynnal stociau coed presennol i wella cynhyrchiant, a gweithio ar adfer llinellau perthi 
  • tyfu blodau sy'n weledol ddeniadol ac yn denu peillwyr
  • datblygu gwelyau synhwyraidd a dôl blodau gwyllt

Dros y gaeaf, mae cyfranogwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio'n galed yn gwneud tasgau tymhorol a pharatoi ar gyfer y gwanwyn, sydd bellach wedi cyrraedd.  Rydym yn gobeithio ailymweld â'r prosiect yn hwyrach yn y flwyddyn i amlygu'r cynnydd a wnaed.

Meddai Chris Day, Garddwr Cymunedol yn Down to Earth,

"Mae'r prosiect Gardd Goedwig yn Down to Earth ym Murton yn dechrau datblygu'n dda - plannwyd sawl coeden newydd a gwnaed cynnydd da i ddatblygu'r ardd i hyd yn oed mwy o bobl ei mwynhau. Mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn pob math o dywydd dros y gaeaf, a gwnaethant ond colli diwrnod pan roedd storm Eunice yn bygwth chwythu pawb i ffwrdd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at dywydd cynhesach y gwanwyn nawr!"

Ar hyn o bryd mae'r prosiect yn cynnal sesiynau wythnosol gyda cheiswyr lloches ac mae pob unigolyn yn dilyn rhaglen wyth wythnos. Mae gweithgareddau'n cynnwys - gofalu am blanhigion a choed, dysgu sut i osod ffensys, torri gordyfiant, dyfrio planhigion, cynaeafu, creu ffyn, cerfio, creu gyrdd pren a dysgu am dân.

Hefyd, cynhelir sesiynau gwirfoddoli bob yn ail wythnos ar ddydd Sadwrn. Mae llawer iawn o bobl yn eu mynychu ac maent yn gynhyrchiol iawn.

Dyma beth mae rhai o'r cyfranogwyr wedi'i ddweud:

Cyfranogwr:

"Rwy'n teimlo bod y sesiynau hyn yn dda i mi ac yn fy helpu. Rwy'n teimlo'n dda yn dod yma, yn gwneud gwaith da ac yn helpu eraill."

   Gwirfoddolwr:

"Diolch i chi i gyd am fy nerbyn i. Dwi wedi gwastraffu fy amser gyda llawer o bobl nad oeddent yn deall y ffordd rydw i'n meddwl, a'r pryderon sydd gen i am y byd rydyn ni'n byw ynddo, ac roedd hynny'n rhwystredig. Ar ôl dod i Down to Earth, rwy'n teimlo fel fy mod i wedi dod o hyd i bobl o'r un meddylfryd o'r diwedd."

Rhiant: "Mae clywed pa mor dda y mae e'n ymdopi ac yn ymuno â phobl eraill wir wedi rhoi hwb go iawn i ni, ac mae'n brawf o'r gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu yn Down to Earth.Yn y tymor hir, byddai'n wych (ac yn fy ngwneud i'n hapus iawn) i weld fy mab yn ddigon hyderus i siarad ag unrhyw un heb ddod yn bryderus. Bydd magu ei hyder yn sicr yn ei helpu ar ei daith ac unwaith eto, ni allaf ddiolch i chi ddigon am bopeth rydych chi'n ei wneud iddo fe a'r holl wirfoddolwyr."

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i https://downtoearthproject.org.uk/ neu ei ddilyn ar Facebook yn https://www.facebook.com/downtoearthswansea.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Vicki Thomson
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://downtoearthproject.org.uk/